Dyddiad cau: 15 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg 

Contract Type: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025

Work Pattern: Llawn amser, 37 awr, hystyried secondiadau

Post Number: 203468

As an organisation we support flexible working. This role allows hybrid working (a mix of home and office working) and a working pattern suitable for you can be discussed on appointment if you are successful.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae Taclo Tipio Cymru yn fenter a noddir gan Lywodraeth Cymru a'i nod yw atal tipio anghyfreithlon ledled Cymru, gan weithio ar y cyd â dros 50 o sefydliadau partner.

Mae ein gwaith yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau sy'n ein helpu i ddeall y broblem yn well, codi ymwybyddiaeth, a chefnogi partneriaid i atal a chynnal camau gorfodi ar gyfer tipio anghyfreithlon.

Prif ffocws y rôl hon fydd meysydd gorfodi ein cynllun gwaith. Byddwch yn gyfrifol am fwrw ymlaen â chamau gorfodi mewn perthynas â throseddau tipio anghyfreithlon sy'n digwydd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch hefyd yn cynnig cymorth o ran gorfodi a rhannu gwybodaeth i'n partneriaid megis Awdurdodau Lleol yn ogystal â helpu i gyflawni meysydd gwaith amrywiol sy'n gysylltiedig â gorfodi o fewn ein cynllun gwaith.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n frwdfrydig dros fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn bwrw ymlaen â chamau gorfodi drwy weithio mewn partneriaeth.

Angen Trwydded Yrru

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Darparu canllawiau o ran cydymffurfio â safonau amgylcheddol a rheoleiddiol.
  • Cysylltu â rhanddeiliaid a datblygu partneriaethau i gyflwyno mentrau sy'n seiliedig ar ofynion lleoedd.
  • Cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau 

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth a phrofiad o weithio fel rheoleiddiwr.
  2. Dealltwriaeth o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml.

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Arbenigedd amlwg mewn maes neu swyddogaeth ddiffiniedig, sy'n galluogi deiliad y swydd i ddarparu cyngor ac arweiniad i eraill.
  • Yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o waith y swyddogaeth ehangach.
  • Sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau datblygedig wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
  • Mae profiad o oruchwylio eraill yn ddymunol.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn dangos y gallu i ddeall gwybodaeth, llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a dehongli a chymhwyso'r gofynion i gyflawni ei rôl.
  • Y gallu i ddadansoddi a phrosesu gwybodaeth dechnegol anarferol sy'n cynnwys rhywfaint o gymhlethdod.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am rywfaint o farn a chreadigrwydd a'r angen i newid blaenoriaethau lle mae gofynion sy'n gwrthdaro.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o natur dechnegol, yn bennaf o gwmpas ei faes gwaith ei hun ond bydd hefyd yn gorgyffwrdd â gwaith eraill.
  • Gall problemau a phenderfyniadau gynnwys rhywfaint o gymhlethdod a gofyn am yr angen i gymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Y gallu i gynnal ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys problemau.
  • Y gallu i ddarparu arweiniad i aelodau llai profiadol er mwyn datrys problemau.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Yn dangos y gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl o amgylch ei faes arbenigedd, ar draws ystod o swyddogaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon allanol, gan addasu ei ddull a'i arddull yn briodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sefydledig gyda'r gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 15 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Neil Harrison ar neil.harrison@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf