Uwch Swyddog Rheoli Tir, BikePark Cymru
Dyddiad cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308-£40,806 (Gradd 6) Lleoliad: Hyblyg, ond De Cymru yn ddefrydol
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener
Rhif swydd: 203428
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Byddwch yn gyfrifol am reoli a goruchwylio gofynion y brydles fasnachol a’r Prif Ddatganiad Dull sydd ar waith i gefnogi gweithrediad BikePark Cymru a Cyfoeth Naturiol yng Nghoedwig Gethin.
Byddwch yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt ar ran BikePark Cymru i gysylltu gyda Cyfoeth Naturiol o ddydd i ddydd.
Byddwch yn cymryd rôl arweiniol ar ran y timau lleoedd penodol ar gyfer darparu adborth a sylwadau i BikePark Cymru ar eu gweithrediadau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
Bydd angen i ddeiliad y swydd ddeall gweithrediadau Coedwig, pob agwedd ar gynaeafu coed a chyflawni rhaglenni coed amaeth, gan gydymffurfio â gofynion cyfreithiol ac ardystio coedwigoedd mewn perthynas â’r rhaglenni cyflawni gweithredol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am bob agwedd ar gydymffurfiaeth statudol ac yn cyfrannu at reoli risgiau ariannol, cyfreithiol, gweithredol ac enw da sylweddol yn deillio o reoli prydles Bike Park Cymru yng Nghoedwig Gethin.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer yr holl faterion gweithredol, technegol a chyfreithiol yn ymwneud â gweithrediadau a phrydles BikePark Cymru.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu Gweledigaeth Coedwig Gethin a’r Prif Ddatganiad Dull a chyflawni unrhyw gamau gweithredu a gytunir i sicrhau bod modd i’r parc beicio barhau i weithredu, ac i alluogi datblygiad rhaglenni gwaith CNC fel bod modd eu cyflawni heb fod mewn perygl o ddiffyg cydymffurfiaeth.
- Arwain ar y cyswllt gyda BikePark Cymru pan fo’r Cynllun Adnoddau Coedwig angen ei ddiweddaru, gan sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu datblygiadau presennol ac arfaethedig y parc beicio, a fydd yn cyd-fynd â rhaglenni gwaith timau Gweithrediadau Coedwig a Rheoli Tir y De Orllewin.
- Cymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol CNC neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm a chyflawni cynlluniau gwaith gweithredol ar draws ardal Canol De Cymru.
- Rhyngweithio gydag arbenigwyr eraill o fewn CNC i hybu cysondeb mewn arferion diwydiannol ac arbenigol.
- Goruchwylio a chymryd cyfrifoldeb dros gyflawni rhaglenni yn yr Ardal Greiddiol a chytuno ar amodau contract ar gyfer cynaeafu pren o Goedwig Gethin, gan gynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a dilyn y broses gaffael.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Aelodaeth broffesiynol, neu’n gweithio tuag at achrediad o’r fath yn eu pwnc perthnasol, o fewn amserlen a gytunir.
- Profiad o weithio ar draws ystod o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, UKWAS a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
- Sgiliau cymell a mentora.
- Dealltwriaeth dda o brosesau busnes a phwysau masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda busnesau sy’n cael eu rheoleiddio a’r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad eang o bob math waith coedwigaeth gan gynnwys cynllunio coetir a gweithrediadau coedwig.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 - yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 19 Chwefror 2023
Cyfweliadau i'w cadarnhau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Aneurin Cox ar aneurin.cox@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07468 742535
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.