Uwch Gyfreithiwr Arbenigol– Diwygio Gwastraff
Dyddiad cau: 5 Mawrth 2023 | Cyflog: £47,408 - £52,359 (Gradd 8) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025 (gyda'r posibilrwydd o fod yn barhaol)
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 203419
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Darparu cyngor, cymorth ac arweiniad cyfreithiol proffesiynol, amserol, arloesol, effeithiol, o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar risg i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn cysylltiad â'i holl swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau. Wrth wneud hynny, bydd deiliad y swydd yn ystyried diben, cenhadaeth a gwerthoedd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithredu er budd pennaf Cyfoeth Naturiol Cymru, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wneir a'r cymorth a roddir yn gywir yn gyfreithiol, a bod yr holl risgiau'n cael eu rheoli.
- Darparu cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar risg a datrysiadau fel bod y Bwrdd, y Prif Weithredwr, cyfarwyddwyr, rheolwyr a'r holl swyddogion yn cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol, dyletswyddau statudol a swyddogaethau yn unol â'r gyfraith.
- Defnyddio barn broffesiynol a dadansoddiadau risg i wneud y defnydd gorau o ddarparwyr cyfreithiol allanol; comisiynu, defnyddio a rheoli'r darparwyr hynny, gan gynnwys cyfreithwyr, bargyfreithwyr ac asiantaethau seneddol, er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol a bod y gwasanaeth yn cyflawni gwerth am arian.
- Cychwyn a chynnal achosion troseddol gan ddarparu argymhellion ar gyfer penderfyniadau i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ar Erlyniadau, Rhybuddion ffurfiol a sancsiynau sifil gan gynnwys asesu tystiolaeth a chymhwyso prawf budd y cyhoedd yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
- Ymgymryd ag achosion ymgyfreitha sifil yn llawn gan gynnwys achosion arbenigol (e.e. adolygiad barnwrol) gan ddatblygu a gweithredu strategaethau ymgyfreitha wedi'u teilwra, bod yn gyfrifol am asesu tystiolaeth, tebygolrwydd o lwyddiant, paratoi ar gyfer llysoedd, tribiwnlysoedd ac ymchwiliadau ac eirioli yn y fforymau hynny.
- Ystyried perthnasedd gorchmynion deddfwriaethol, a lle bo angen, eu datblygu a’u drafftio (e.e. Gorchmynion, is-ddeddfau ac is-ddeddfwriaeth arall) i gyflawni amcanion CNC.
- Datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da gyda chleientiaid mewnol a rhanddeiliaid allanol trwy gyfathrebu, dylanwadu, trafod ac ymgysylltu'n effeithiol â nhw, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, adrannau San Steffan, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, aelodau’r Cynulliad, aelodau seneddol, sectorau diwydiannol a masnachol amrywiol a reoleiddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y gymuned gyfreithiol, a’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd.
- Dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu, gweithredu a dehongli deddfwriaeth Cymru, yr UE a'r DU trwy ryngweithio â'r cyrff deddfwriaethol perthnasol a'u cynghorwyr polisi mewn ffordd sy'n hyrwyddo buddion Cymru ac yn sicrhau bod effeithiau sy’n benodol i Gymru yn cael eu deall.
- Cyfrannu at a rhoi cyngor ar y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau a pholisïau Cyfoeth Naturiol Cymru, gan nodi’r holl risgiau a'u lliniaru, a, thrwy wneud hynny, sicrhau bod y broses o wneud polisïau a strategaethau'n gyfreithiol ac yn gadarn ac y gellir ei chefnogi trwy herio.
- Annog arferion gorau, arloesedd a gwelliant parhaus ar draws y tîm cyfreithiol a Cyfoeth Naturiol Cymru drwy nodi a gweithredu cyfleoedd dysgu o waith achos, rhannu arbenigedd a gwybodaeth trwy fentora a hyfforddi (gan wella felly gwydnwch o fewn timau ac ar eu traws), a darparu hyfforddiant mewnol a/neu i gyrff allanol er mwyn ehangu eu dealltwriaeth o Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Cyfreithiwr cymwysedig gyda thystysgrif ymarfer gyfredol gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, neu fargyfreithiwr gyda thystysgrif ymarfer gyfredol gan Fwrdd Safonau'r Bar, a phrofiad ymarferol ym maes cyfraith gyhoeddus a chyfraith reoleiddiol.
- Yn ddelfrydol, dwy flynedd o brofiad ôl-gymhwyso ar fynediad, ynghyd â chraffter busnes, sgiliau rheoli risg a barn gadarn yn seiliedig ar brofiad.
- Mae'n ofynnol i gael tystiolaeth o gydymffurfio â fframweithiau cymhwysedd a rhwymedigaethau datblygiad proffesiynol parhaus.
- Profiad o gaffael/comisiynu cyngor cyfreithiol allanol a gwasanaethau cysylltiedig a dehongli cyngor o'r fath i gynorthwyo penderfyniadau mewnol.
- Dealltwriaeth ymarferol o'r setliad datganoli yng Nghymru, yn ogystal â'r amgylchedd cyfreithiol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu o'i fewn, gan gynnwys ei gydberthynas ag adrannau San Steffan ar gyfer materion heb eu datganoli.
- Y gallu i weithredu gyda hyder a hygrededd ar lefelau uchaf sefydliad.
- Yn bragmatig ac yn meddwl yn flaengar, gyda'r gallu i arloesi er mwyn datblygu datrysiadau i faterion cyfreithiol cymhleth neu faterion cymhleth sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol a phrofiad o weithredu mewn amgylcheddau sy'n sensitif yn wleidyddol.
- Gallu arfer barn gadarn ac yn barod i fod yn atebol am benderfyniadau, gweithrediadau a dewisiadau a wnaed yn bersonol, a thrwy hynny, meithrin hyder ac ennill parch ar bob lefel.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar a sgiliau cyflwyno rhagorol.
- Gallu bod yn fodel rôl ar gyfer gwerthoedd y sefydliad, gan ddangos patrwm enghreifftiol o ymddygiad o ran gonestrwydd, cywirdeb a moeseg
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 5 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Jane Chapman ar Jane.Chapman@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654236
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.