Cymorth Rheoli Rhaglenni (Diwygio Rheoleiddio Gwastraff )
Dyddiad cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Grade 6)| Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Penodiad Tymor Penodol tan 31 Mawrth 2025 gyda'r posibilrwydd o fod yn barhaol
Patrwm gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos
Rhif swydd: 203311, 203312
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae’n gyfnod cyffrous i Reoleiddio Gwastraff! Mae Strategaeth Mwy Nag Ailgylchu 2021 Llywodraeth Cymru yn amlygu na fu ein llwybr tuag at economi diwastraff, carbon isel erioed mor bwysig. Dyma gyfle i fod yn rhan o dîm newydd a fydd yn dylunio, datblygu a gweithredu rhaglen ddiwygio rheoleiddio mewn ymateb i Raglen Lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.
Bydd y rolau hyn yn rhoi cymorth arbenigol i ymgorffori’r rhaglen a’r dull rheoli prosiect yr ydym yn ei ddefnyddio. Rydym yn chwilio am ystod eang o sgiliau i ddarparu cyfathrebu ac ymgysylltiad effeithiol â rhanddeiliaid, cymorth prosiect/rhaglen ac i gasglu a dehongli tystiolaeth. Bydd y rolau hyn yn allweddol wrth gyflawni a chefnogi’r meysydd diwygio canlynol:
- Gwasanaeth Tracio Gwastraff Digidol
- Cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr a Chynllun Dychwelyd Ernes
- Rheoliadau Ailgylchu Safleoedd Annomestig
- Rheoliadau Cyfleusterau Deunyddiau
- Systemau Codi Tâl
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cymryd agwedd rheoli prosiect/rhaglen at y gwaith Diwygio Rheoleiddio Gwastraff yn unol â phrosesau PMO Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cynorthwyo’r tîm i ddatblygu cysylltiadau gwaith effeithiol a ffyrdd newydd o weithio gyda grwpiau o bob rhan o’r sefydliad er mwyn cyflawni’r ffordd orau o gyflwyno’r amcanion corfforaethol;
- Cynorthwyo gyda datblygiad technegol “dulliau rheoleiddio” arloesol; er mwyn cyflwyno’r “canlyniadau rheoleiddiol” y mae ar Cyfoeth Naturiol Cymru eu hangen.
- Dehongli data ac arsylwadau er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol a chanllawiau’r diwydiant a chynghori’n unol â hynny.
- Gwerthuso’r codau, y safonau, y rheoliadau a’r canllawiau presennol a’r rhai a gynigir er mwyn darganfod yr effaith ar raglenni a gweithgareddau presennol a rhaglenni a gweithgareddau’r dyfodol.
- Arwain ar neu gefnogi prosiectau cenedlaethol i gyflawni datrysiadau integredig wedi'u cynllunio a'u rheoli'n dda sy'n hybu newid a gwelliannau effeithiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gyfer busnesau ledled Cymru.
- Sicrhau bod dulliau gwella parhaus yn cael eu defnyddio yn y meysydd gwaith y byddwch yn ymgymryd â hwy.
- Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n gysylltiedig â’ch sector(au) penodol; ac ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eich sector(au) penodol.
- Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, a hynny ar faterion amgylcheddol yn ddelfrydol.
- Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflenwi canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a’r sefydliad ehangach.
- Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da er mwyn gallu cyfleu materion technegol a rheoleiddiol cymhleth i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio cryf i ddylanwadu ar, neu i helpu i gyflwyno canlyniadau drwy, sefydliadau partner/rhanddeiliaid.
- Profiad o ddeall a defnyddio gweithgareddau rheoleiddiol.
- Gallu gweithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol a dangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Bydd disgwyl i chi gadw'n gyfredol â newidiadau mewn polisi rheoliadol a newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth trwy aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu trwy gyfrwng cyfatebol arall.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais 19 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Helen Jenkins ar helen.jenkins@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.