Cynghorydd Arbenigol ar Addasu i’r Hinsawdd a’r Risgiau

Dyddiad cau: 27 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Rhif swydd: 202940

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Arwain y gwaith o ddarparu cymorth a chyngor ar risgiau ac ymaddasu yn sgil yr hinsawdd mewn perthynas â chyflenwi ymateb CNC mewn perthynas â' Chynllun Ymaddasu Cymru.

Bydd y cyngor arbenigol/technegol hwn yn llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC.  Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill o fewn cyfarwyddiaethau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr y sector.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrediad o wybodaeth gymhleth a ffynonellau data.
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio’r broses o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Rheoli’r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar fylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cynnal gwybodaeth am Risgiau ac Ymaddasu yn sgil yr Hinsawdd gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technoleg a marchnad i CNC.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy'r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi Cynllun Datblygu Personol cytunedig.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd, risgiau ac ymaddasu yn sgil yr hinsawdd; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer cynllunio, tirwedd, ynni a datgarboneiddio fel y’u nodir ym mholisïau ac ysgogwyr deddfwriaethol/cyfarwyddebau’r UE, y DU a Llywodraeth Cymru; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o'r canlynol: dadansoddi technegol a dehongli amrediad o wybodaeth amgylcheddol a ffynonellau data cymhleth; a dadansoddi setiau data mawr.
  3. Gweithio gyda / o fewn Llywodraeth Cymru, ar draws yr agenda risgiau ac ymaddasu yn sgil yr hinsawdd a sefydliadau llywodraethol, rheoli tir, diwydiannol ac amgylcheddol eraill
  4. Gwybodaeth ddigonol o wyddoniaeth a pholisi newid hinsawdd (dymunol)
  5. Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn
  6. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
  7. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob Pennaeth Busnes yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

 

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd â thasgau ymarferol neu dechnegol neu waith sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol. 
  • Y gallu i ddarparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill ar faterion perthnasol ar sail ei wybodaeth a'i brofiad a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ei faes arbenigol.
  • Dangos profiad sylweddol perthnasol o weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, neu rolau/swyddogaethau o fewn sefydliad unigol.
  • Y gallu i arwain a rheoli meysydd gwaith penodol a allai gynnwys gweithredu cynlluniau.
  • Yn meddu ar sgiliau mentora a'r gallu i rannu sgiliau a gwybodaeth ag eraill o fewn y swyddogaeth a/neu ar draws y sefydliad.
  • O bosib yn arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i broffesiwn. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod o wybodaeth gymhleth o natur dechnegol, sy'n ymwneud â maes arbenigedd penodol, gan gyfrannu at ddatblygu strategaethau a pholisïau.
  • Y gallu i dynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion ar bob lefel.
  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi perthnasol a deall eu cyd-destun yn strategaeth a pholisïau cenedlaethol ac ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.

Effaith

  • Dangos gwerthfawrogiad o sut y bydd ei benderfyniadau a'i gamau gweithredu'n dylanwadu ar bobl eraill yn fewnol ac yn allanol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth o ganlyniadau ei benderfyniadau, a fydd â lefel gymedrol o effaith a dylanwad ac a fydd o natur tymor canolig.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu ag eraill ar draws y busnes, gan gynnwys y sefydliad yn y gwaith o gyflenwi cynlluniau gwaith a pholisïau yn y modd mwyaf effeithlon.
  • Bydd angen cyfathrebu â chydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol, a all gynnwys cyfraniad a dylanwad arbenigol at weithredu polisi a strategaeth.
  • Gall rhai rhyngweithiadau fod yn heriol yn emosiynol lle mae unigolion yn ddig neu'n ofidus, felly bydd angen pwyll, amynedd a'r gallu i aros yn ddigynnwrf i geisio datrys y mater.
  • Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a/neu arwain prosiectau, sy’n gofyn am sgiliau cyfathrebu a dwyn perswâd da.
  • Y gallu i hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan gyfrannu a rhoi cyngor yn ôl y gofyn. 
  • Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Y gallu i lunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati â pheth cymhlethdod, sy'n cynnwys elfennau o gyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu'n eu defnyddio, ac a fyddai’n cael canlyniadau negyddol petaent yn cael eu drafftio'n anghywir neu'n wael.
  • Y gallu i ganfod data a chynnwys o sawl lleoliad, sy'n cynnwys rhywfaint o ymchwilio allanol a mynegi barn broffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli.
  • Mae effaith dogfennau o'r fath yn debygol o fod o natur tymor canolig

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg 
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 27 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 14 Mawrth 2023 ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Gabrielle Torkington ar gabrielle.torkington@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07815977530.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf