Cymorth Canolfan Ymwelwyr- Ynyslas

Dyddiad cau: 26 Chwefror 2023 | Cyflog: £21,655-£24,408 (Gradd 2)Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Ynyslas

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Hydref 2023

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr ar sail rota gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc

Rhif swydd: 202790

Disgrifiad o’r swydd

Ydych chi â diddordeb mewn byd natur a’r amgylchedd? Oes gennych chi brofiad ym maes gwerthiant a gofalu am gwsmeriaid? Efallai bod gennym y swydd ddelfrydol i chi!

Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig i ymuno â Thîm y Ganolfan Ymwelwyr yn Ynyslas. Yn y swydd hon byddwch yn helpu i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru fel bod pawb yn medru ei fwynhau ac elwa arno. Byddwch yn gwneud hynny drwy helpu i reoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi fel rhan o Wasanaethau Gweithrediadau’r Canolbarth. Byddwch yn cynorthwyo â rheoli Canolfan Ymwelwyr Ynyslas o ddydd i ddydd ac yn cefnogi gwaith eich cydweithwyr i hyrwyddo a diogelu’r Warchodfa (sy’n cael 225,000 o ymwelwyr bob blwyddyn).

Bydd oriau gwaith yn ymateb i anghenion busnes. Oriau cyfartalog yr wythnos ydy 37 awr dros 5 diwrnod ar sail rota rhwng 8am a 6pm, gan gynnwys Gwyliau Banc a phenwythnosau. Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio gyda’r nos o bryd i’w gilydd. Bydd angen gallu dechrau ar 1 Ebrill 2023.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymwelwyr, gan ddarparu cyfeiriadedd a gwybodaeth sy'n ymwneud â’r atyniadau a’r gweithgareddau a gynigir wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein.
  • Gweithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer darparwyr gwasanaeth, partneriaid busnes, consesiynau a staff CNC er mwyn sicrhau bod yr atyniad yn gweithredu'n llyfn.
  • Cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch a gwiriadau cyfleuster yn y ganolfan ymwelwyr, y maes parcio ac atyniad y warchodfa. Bydd eich gwaith yn cynnwys gwaith cynnal a chadw ysgafn a rhywfaint o weithgarwch corfforol yn ymwneud â chario offer a deunyddiau.
  • Hyrwyddo mynediad cyfrifol gan y cyhoedd ac annog pobl i beidio â cham-drin yr amgylchedd naturiol.
  • Cefnogi Swyddog y Ganolfan Ymwelwyr – cynorthwyo gyda'r gwaith o drefnu, cynllunio a darparu gwasanaethau a digwyddiadau gyda'r amcanion o alluogi mwy o bobl i fwynhau buddion cael mynediad i'r amgylchedd naturiol, datblygu marchnadoedd newydd, a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r adnodd naturiol.
  • Gweithredu fel darparwr cymorth cyntaf fel y bo angen.
  • Cynorthwyo wrth ddatblygu profiad manwerthu a chyda'r gwaith o gynhyrchu refeniw maes parcio trwy ddilyn gweithdrefnau trin arian parod wrth gasglu a bancio taliadau parcio, tocynnau tymor a refeniw'r siop.
  • Sicrhau y glynir at bolisïau ac arferion yn ymwneud â hylendid bwyd, alergenau, ac iechyd a diogelwch.
  • Sicrhau bod arwyddion priodol yn cael eu dangos mewn mannau cyhoeddus er mwyn cefnogi diogelwch y cyhoedd, hyrwyddo'r ganolfan ymwelwyr a'r atyniadau cyfagos, ac i amddiffyn y warchodfa natur.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Cymhwyster proffesiynol mewn gofal cwsmeriaid, digwyddiadau neu fanwerthu – dymunol.
  2. Profiad o ddefnyddio cymwysiadau Microsoft a phlatfformau ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV i Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Dyddiad cau i wneud cais: 26 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Canolfan Ymwelwyr Ynyslas

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Jenn Jones ar jenn.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf