Syrfëwr Arbenigol (Asiant Tir Cynorthwyol)

Dyddiad cau: 26 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Llanymddyfri neu Resolfen

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Hydref 2023 gyda phosibilrwydd o'i ymestyn.

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 202390

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae’r rôl hon yn rhoi cyfle gwych i ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel Asiant Tir Cynorthwyol (Syrfëwr Arbenigol). Bydd y rôl yn helpu i ddarparu arbenigedd a chyngor proffesiynol i dimau ac uwch-reolwyr ar holl faterion asiantaethau tir i gefnogi gwaith CNC.

Bydd y gwaith yn cynnwys rheoli portffolio mawr ac amrywiol gan gynnwys tir coedwigaeth (Ystad Goetir Llywodraeth Cymru), safleoedd gwarchodedig a dynodedig, tir amaethyddol, adnoddau dŵr ac asedau llifogydd. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag Uwch-syrfëwr Arbenigol (Asiant Tir) i gyflawni adolygiadau rhent, negodi prydlesi newydd, hawddfreintiau a thrwyddedau, trafodaethau tenantiaeth, prisiadau a chyngor cynllunio, trwyddedau pori a chytundebau caniatâd digwyddiadau a mynediad. Yn ogystal â gweithio ar yr ystâd a reolir gan CNC, mae’r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi gwaith a chytundebau ar dir trydydd parti, yn enwedig mewn perthynas â chytundebau rheoli cadwraeth a gwaith rheoli dŵr. Bydd angen rhoi cyngor i gydweithwyr ynghylch gweithredoedd eiddo a'u dehongliad i gynnwys hawliau megis hawliau mwynau a mynediad. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd baratoi adroddiadau gwerthuso (Ymgynghoriadau Tir ac Eiddo) a dogfennau cymeradwyo eraill sy'n ceisio dod i gonsensws a chymeradwyaeth angenrheidiol ar gyfer pob math o gynigion sy'n effeithio ar dir a reolir gan CNC. 

Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu arbenigedd proffesiynol ar ystod eang o faterion rheoli ystadau gwledig a bydd disgwyl iddo drafod â thrydydd partïon i ddod i gytundebau. Bydd disgwyl i’r Syrfëwr Arbenigol gytuno ar Brif Delerau a pharatoi cyfarwyddiadau i gyfreithwyr a chysylltu â’r cyfreithiwr a gyfarwyddir i gefnogi a sicrhau y cwblheir ystod o wahanol fathau o gytundebau cyfreithiol megis prydlesi, trawsgludiadau, a hawddfreintiau ac ati. O bryd i’w gilydd, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu gwybodaeth i asiantau cyfreithiol i gefnogi hawliadau ac ymgyfreitha ar yr ystâd a reolir gan CNC, yn ogystal ag asesu a thrafod setlo hawliadau oddi ar ystâd a reolir gan CNC. Bydd angen i’r rôl helpu i sicrhau bod cytundebau trydydd partïon ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru a’n tir a reolir yn cydymffurfio â safonau’r diwydiant, a’r holl ddeddfwriaethau a chynlluniau ardystio perthnasol gan gynnwys Safon Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig.

Dylai ymgeiswyr fod yn Aelod cymwysedig o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (Llwybr Gwledig neu Ymarfer Cyffredinol, neu debyg).

Yn dibynnu ar brofiad a gwybodaeth ymgeiswyr addas, efallai y byddwn yn ystyried graddedigion mewn disgyblaeth arall sy'n barod i gwblhau'r Diploma Ôl-raddedig mewn Tirfesur ac Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a dod yn Syrfëwr Siartredig o fewn cyfnod amser cytunedig, neu'n aelod Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol sydd wedi cofrestru â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac yn gweithio tuag at aelodaeth lawn.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu adnoddau er mwyn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni yn unol â'r amser, y gost a'r safonau o ran ansawdd y cytunwyd arnynt.
  • Nodi a gweithredu ar gyfleoedd i leihau costau, cynyddu incwm a chyflawni gwerth am arian.
  • Nodi a rheoli risgiau sylweddol posibl i'r busnes.
  • Derbyn yr awdurdod dirprwyedig ar gyfer gwneud penderfyniadau, a meddu ar y gallu i symud materion yn eu blaen o fewn goddefiant penodol er mwyn dod i gasgliad boddhaol.
  • Datblygu perthynas gref â rhanddeiliaid.
  • Meithrin, cynnal a gwella’r berthynas â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni'r canlyniadau a rennir yn y ffordd orau; a bod yn weladwy ac yn hawdd mynd atoch.
  • Pennu cyfeiriad strategol.
  • Gwerthuso polisïau a gweithdrefnau strategol a chychwyn newidiadau priodol er mwyn cyflawni amcanion.
  • Bod yn sensitif i'r dirwedd wleidyddol a'r effeithiau posibl ar fusnes Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cydnabod bod gwybodaeth yn bodoli ar bob lefel a cheisio darparu cyfleoedd ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Yn aelod cymwys o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (Llwybr Gwledig neu Ymarfer Cyffredinol, neu debyg) neu'n unigolyn graddedig mewn disgyblaeth arall ac yn fodlon cwblhau Diploma Ôl-raddedig mewn Arolygu ac Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac i ddod yn Syrfëwr Siartredig o fewn cyfnod amser cytunedig; neu'n fyfyriwr sydd wedi cofrestru â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac yn gweithio tuag at aelodaeth lawn.
  2. Bydd gennych brofiad mewn rheoli eiddo a'r gallu i arddangos profiad o weithio gyda dogfennau cyfreithiol megis prydlesau.
  3. Gallu profedig i ddadansoddi materion sy'n ymwneud ag eiddo, a datblygu datrysiadau i gyflawni'r canlyniad cyffredinol gorau, yn aml trwy gydweithio ag eraill.
  4. Gwybodaeth ddigonol gadarn o amrediad eang o ddeddfwriaeth a'r gyfraith gyffredin sy'n ymwneud â chyrff sydd â chyfrifoldebau statudol.
  5. Profiad o gynorthwyo wrth reoli tir naill ai yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus.
  6. Profiad o weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill o gymysgedd o feysydd (e.e. peirianwyr, syrfewyr adeiladu, ymgynghorwyr cost, dylunwyr a rheolwyr amgylcheddol) i gyflawni rhaglenni gweithredol mawr.
  7. Gwybodaeth ddigonol o Microsoft Office.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Dyfnder ac ehangder amlwg o wybodaeth a gafwyd o brofiad blaenorol, gyda gafael a dealltwriaeth dda o wybodaeth, polisi a gweithdrefnau sefydliadol.
  • Profiad sylweddol blaenorol o reoli prosiectau/contractau mewn maes technegol a’r gallu i gyflawni'r ystod lawn o dasgau sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau.
  • O bosib yn arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i broffesiwn.
  • Lefel dda o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys profiad o gyflwyno i randdeiliaid mewnol ac allanol, gyda'r gallu i ddylanwadu ar eraill i sicrhau canlyniadau.
  • Yn ddelfrydol, bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o oruchwylio eraill/contractwyr.
  • Y gallu i ddangos lefel uchel o wybodaeth am faes iechyd, diogelwch a llesiant, a phrofiad ohono, ynghyd â diogelwch cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi gweithredol a deall eu cyd-destun yn strategaeth ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth dechnegol, gan ddidynnu pwyntiau allweddol, a chyfleu'r wybodaeth i unigolion ar bob lefel.
  • Y gallu i gynhyrchu dogfennau, achosion busnes, adroddiadau, nodiadau briffio a chontractau a fydd yn cael eu cymeradwyo gan eraill, fel rhan o brosesau mewnol y cytunwyd arnynt, a chyfrannu at ddatblygu polisi.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Yn gyfrifol am gyflawni prosiectau yn unol â'r strwythur llywodraethu, gyda'r ymreolaeth i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni'r rhain, gydag arweiniad gan gymheiriaid.
  • Barn wrthrychol a'r gallu i newid blaenoriaethau a dulliau i fynd i'r afael â gofynion sy'n gwrthdaro, gan sicrhau bod prosiectau neu raglenni gwaith pwysig yn cael eu cyflawni.
  • Y gallu i wneud penderfyniadau annibynnol ar lefel weithredol yn seiliedig ar fewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid, a dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru, amrediad yr opsiynau sydd ar gael, a'u goblygiadau posibl ar gyfer y busnes. 
  • Yn atebol am bob agwedd ar gyflawni a pherfformio ar gyfer ystod eang o brosiectau technegol, a allai fod angen arweiniad gan swyddog gweithredol y prosiect.
  • Y gallu i wneud penderfyniadau a allai arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig yn y maes gwaith, lle bydd canlyniad gwneud penderfyniadau anghywir yn cael effaith andwyol ar y sefydliad mewn perthynas â'i randdeiliaid allanol fel sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati. 
  • Ni fydd canlyniadau rhai penderfyniadau a'u heffaith bob amser yn glir nac yn amlwg ar unwaith, ond byddant yn ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol ac yn debygol o gael effaith ar yr amgylchedd a'r dirwedd dros dymor hwy.

Effaith

  • Gwerthfawrogiad y bydd ei benderfyniadau a'i weithredoedd yn dylanwadu ar eraill; yn debygol o ymestyn ar draws meysydd pwnc neu brosiectau eraill; ac y bydd yr effaith yn cael dylanwad parhaol ar y dirwedd.
  • Y gallu i gymryd cyfrifoldeb am gyflawni a chanlyniadau cyffredinol ystod o brosiectau o fewn y strwythur llywodraethu.
  • Y gallu i nodi a rheoli risgiau, gan y bydd ystyriaethau iechyd a diogelwch a'r amgylchedd yn nodwedd o bob prosiect.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da ac ennyn diddordeb y sefydliad wrth ddarparu polisïau a chynlluniau gwaith yn y ffordd fwyaf effeithlon. 
  • Sgiliau cyfathrebu a pherswadiol effeithiol, a all gynnwys hwyluso a chyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol/allanol, gan roi cyngor a chyfrannu yn ôl yr angen. 
  • Y gallu i reoli cydberthnasau â rhanddeiliaid mewnol/allanol a thrydydd partïon sy'n ymwneud â chyflawni prosiect.  Mae cydberthnasau yn debygol o fod o natur barhaus ac o bosib yn cynnwys rhywfaint o ddylanwadu.
  • Y gallu i gynhyrchu dogfennau technegol, adroddiadau, cyfrifon, rhaglenni cyfrifiadurol, contractau ac ati yn cynnwys cyngor, arweiniad neu farn a allai arwain at ganlyniadau niweidiol a goblygiadau ariannol os ydynt yn anghywir neu wedi'u drafftio'n wael.
  • Y gallu i ddod o hyd i wybodaeth o sawl lleoliad trwy ymchwil a chymhwyso barn broffesiynol ynghylch sut y dylid dehongli'r deunydd, y mae ei effaith yn debygol o bara am dymor hwy.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Cyfrifol am ddefnyddio a chadw offer arbenigol a ddefnyddir yn y maes yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
  • Bydd ganddo gyfrifoldeb dirprwyedig am gyllideb, sy'n debygol o fod yn rhan o gyllideb lawer mwy, a bydd ganddo gyfrifoldeb o ran y gadwyn gyflenwi / gweithgarwch caffael sy'n gysylltiedig â chontractau yn unol â gweithdrefnau.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar yn Llanymddyfri neu Swyddfa Resolfen

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Philip Morgan ar philip.morgan@naturalresourceswales.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf