Cynorthwyydd Arlwyo x5
Dyddiad cau: 21 Chwefror 2023 | Cyflog: £11,705-£13,193 pro rata i cyflog llawn amser o £21,655 - £24,408 (Gradd 2) | Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau
Math o gontract:
- 202233, 202378, 202395: Cyfnod Penodol hyd at 30 Medi 2023
- 202463, 202464: Cyfnod Penodol hyd at 31 Hydref 2023
Patrwm gwaith: 20 awr yr wythnos gan gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc
Rhifau y swyddi: 202233, 202378, 202395, 202463, 202464
Disgrifiad o’r swydd
Sicrhau y cyflawnir bodlonrwydd cwsmeriaid trwy baratoi bwyd a darparu gwasanaeth cwsmeriaid effeithiol. Cefnogi staff dyletswydd i ddarparu amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid sy'n gwella'n barhaus.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Helpu i sicrhau bod gwasanaeth rheng flaen a gwasanaeth arlwyo o safon uchel ar gael yn ddyddiol rhwng yr oriau gwaith a hysbysebir.
- Sicrhau bod yr holl eitemau sydd ar y fwydlen yn cael eu paratoi a'u cyflwyno i'r safon uchaf posibl a bod maint y dogn yn gyson.
- Mabwysiadu arfer o lanhau wrth weithio i sicrhau amgylchedd gwaith diogel a chroesawgar.
- Paratoi bwyd a diodydd i safon uchel gan sicrhau y cedwir at yr holl ganllawiau diogelwch bwyd fel y cyfarwyddwyd gan eich goruchwyliwr.
- Sicrhau bod yr holl ryngweithiadau â'r cyhoedd yn cyflwyno CNC yn y modd gorau posibl trwy system effeithiol o ddarparu gofal cwsmeriaid a gwasanaethau.
- Gweithredu fel model rôl ar gyfer gwerthoedd sefydliadol: Dangos ymddygiad rhagorol o ran gonestrwydd, cywirdeb a moeseg. Herio pobl eraill pan fyddant yn methu ag ymddwyn fel modelau rôl.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Cymhwyster Proffesiynol mewn Hylendid Bwyd Lefel 2 neu barodrwydd i ddysgu trwy hyfforddiant ffurfiol.
- Profiad o weithio mewn swydd yn y gwasanaeth arlwyo a chwsmeriaid.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 3 – gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV i Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau: 21 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 24 Chwefror 2023 drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Nia Brunning at nia.brunning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.