Swyddog Prosiect Cynorthwyol Twyni Byw

Dyddiad Cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £21,655 – 24,408 (Gradd 2) | Lleoliad: Bangor

Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at fis Mehefin 2024

Patrwm Gwaith: 37 Awr Dydd Llun i Dydd Gwener gyda gwaith ar benwythnosau’n achlysurol

Rhif Swydd: 202221

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Byddwch yn cyflawni amrywiaeth eang o dasgau i gynorthwyo Swyddog Monitro a Phrosiect Twyni Byw, i gyflawni allbynnau heriol yn ystod camau olaf y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo gyda gosod a goruchwylio contractau, monitro canlyniadau, casglu data a pharatoi adroddiadau, yn ogystal â helpu gyda digwyddiadau ymgysylltu (teithiau cerdded, sgyrsiau ac ati), deunyddiau dehongli a chynhadledd derfynol y prosiect.

Bydd gofyn i chi ymweld yn rheolaidd â thwyni tywod yn Niwbwrch, Tywyn Aberffraw, Morfa Harlech a Morfa Dyffryn a bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn yr amgylcheddau anghysbell hyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, yn dysgu'n gyflym, yn dangos menter ac yn gallu gweithio'n effeithiol gydag aelodau’r tîm a phartneriaid eraill. Bydd y ffocws ar gyflawni allbynnau terfynol o dan bwysau amser.

Mae prosiect Twyni Byw (LIFE 17 NAT/UK/000023) wedi derbyn cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cynorthwyo Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw i gyflawni gwaith rheoli, adfer a monitro ymarferol ar y safle.
  • Cynorthwyo Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw i ddatblygu a rheoli contractau lluosog a rhai sy'n gorgyffwrdd, sy’n ymwneud a phob agwedd ar y rhaglen.
  • Cadw cofnodion manwl (gan gynnwys data sy'n seiliedig ar systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS)). Casglu a dadansoddi data monitro prosiect i fesur effeithiolrwydd camau gweithredu.
  • Mynychu a chyfrannu’n weithredol at gyfarfodydd rheolaidd tîm prosiect LIFE, a chefnogi’r Swyddog Prosiect a Monitro yng nghyfarfodydd y Grŵp Llywio.

Cymwysterau, Profiad a Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Dealltwriaeth o gadwraeth a rheolaeth safleoedd twyni tywod.
  2. Sgiliau ardderchog o ran gweithio mewn tîm a chyfathrebu, ynghyd â’r gallu i gynrychioli’r prosiect LIFE o flaen amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys rheolwyr tir.
  3. Y gallu i wneud gwaith maes corfforol mewn amrywiaeth o amodau tywydd a thiroedd. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar eich pen eich hun lle bo angen/lle bo’n briodol.
  4. Gallu gyrru car yn gyfreithiol yn y DU.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Mae deiliad y swydd wedi ennill gwybodaeth a sgiliau trwy brofiad gwaith ymarferol blaenorol fel bod ganddo lefel resymol o gymhwysedd technegol er mwyn cyflawni gofynion y rôl.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau llythrennedd, rhifiadol a chyfathrebu da. Bydd ganddo ddealltwriaeth o ofynion a goblygiadau iechyd a diogelwch mewn perthynas â gweithgareddau yn y gwaith.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Bydd y defnydd o wybodaeth yn y rôl hon yn syml, yn hawdd ei ddeall, ac yn seiliedig ar adnoddau sydd hawdd eu cyrchu.
  • Bydd angen i ddeiliad y swydd allu gwirio, dilysu, cynnull, casglu a chofnodi data sy'n gofyn am rywfaint o gywirdeb.
  • Mae dogfennau'n arferol ac yn safonol o ran eu deall a’u cwblhau.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Fel arfer, mae gwaith deiliad y swydd yn dilyn trefn arferol a bydd yn dilyn cynllun gwaith cytunedig, heb lawer o angen i wyro oddi arno, heblaw am flaenoriaethu tasgau.
  • Efallai y bydd rhai problemau sy'n dod i'r golwg yn gofyn am elfen o flaengaredd neu farn, er y bydd datrysiadau yn seiliedig ar wybodaeth flaenorol, profiad, a datrysiadau a chanlyniadau hysbys. Mae gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth yn eithaf cyfyngedig.

Effaith

  • Mae'r gwaith a wneir o fewn ardal arwahanol, felly bydd unrhyw effaith yn effeithio'n bennaf ar eraill yn y tîm. Efallai y bydd gan rai agweddau ar y gwaith y potensial, os cânt eu gwneud yn anghywir, i gael effaith isel ar drydydd parti. Byddai'r effaith yn hysbys ar unwaith, a byddai’n cael ei chywiro a’i thrin yn gyflym heb i unrhyw faterion tymor hwy yn codi.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd cyfathrebu gyda chydweithwyr sy'n cyflawni agweddau tebyg ac agweddau gwahanol ar y gwaith. Gallai hyn gynnwys arwain ar rai agweddau ar y gwaith sy'n gofyn am y gallu i roi arweiniad neu gyfarwyddiadau clir os oes angen.
  • Bydd cyswllt â'r cyhoedd a thrydydd partïon, a fydd yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth.
  • Bydd cyfathrebiadau ysgrifenedig yn cynnwys cwblhau dogfennau safonol a chadw cofnodion, a fydd yn gofyn am sgiliau TG da.

Cyfrifoldeb dros adnoddau

  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y defnydd diogel o gyfarpar a data a ddefnyddir er mwyn cyflawni ei rôl. Bydd y rhain o werth gweddol gymedrol a disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd cyfrifoldeb personol am eu defnyddio a’u cadw’n ddiogel.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 19 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Kathryn Hewitt ar Kathryn.hewitt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07970 254369.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf