Cynorthwyydd Siop
Dyddiad cau: 20 Chwefror 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gradd 2) | Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Hydref 2023
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr y wythnos gan gynnwys penwythnosau a gwyliau Banc.
Rhif swydd: 202026 & 202027
Disgrifiad o’r swydd
Mae’r swydd hon yn helpu i gynnal treftadaeth naturiol Cymru er mwyn i bawb allu ei mwynhau a chael budd ohoni. Byddwch yn gwneud hyn drwy helpu i ddarparu gwasanaethau yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, gan sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, gan oruchwylio'r siop a darparu cyfeiriadedd a gwybodaeth sy’n ymwneud â'r atyniadau a'r gweithgareddau sydd ar gael, a hynny yn bersonol, dros y ffôn a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol.
- Sicrhau bod yr holl ryngweithiadau â'r cyhoedd yn cyflwyno Cyfoeth Naturiol Cymru yn y modd gorau posibl trwy system effeithiol o ddarparu gofal cwsmeriaid a gwasanaethau.
- Rhoi cymorth i dîm y Ganolfan Ymwelwyr gyda'r amcanion o alluogi mwy o bobl i fwynhau'r buddiannau o gael mynediad at yr amgylchedd naturiol a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r adnodd naturiol.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad ym maes gofal cwsmer neu reoli manwerthu. Byddai'r gallu i ddefnyddio cymwyseddau Microsoft o fantais.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV i Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyddiad cau: 20 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Canolfan Ymwelwyr Blwch Nant yr Arian
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Sarah Parry ar sarahparry@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000 654178
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.