Dyddiad cau: 20 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg 

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.

Rhif swydd: 201926, 202485

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Cyflawni gwaith archwilio ac ymgynghori yn ôl y cynllun Archwilio Mewnol, ar amser, o fewn cwmpas a'n unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Cydlynu argymhellion a chyflawni gwaith dilynol. Darparu cyngor i'r sefydliad ar reolaethau mewnol, rheoli risg a llywodraethu. Cynnal ymchwiliadau twyll a chwythu’r chwiban.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cyflawni aseiniadau archwilio mewnol ar sail risg ar amser, o fewn cwmpas a'n unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS). Mae hyn yn cynnwys cynllunio ac ymchwilio, drafftio Cylch Gorchwyl, cyflawni gwaith maes, drafftio adroddiadau archwilio a chytuno ar weithredoedd rheoli priodol.
  • Darparu cyngor ac arweiniad i fusnes o ran rheolaethau mewnol, rheoli risg a llywodraethu.
  • Cwblhau gwaith dilynol ar argymhellion archwilio.
  • Cwblhau ymchwiliadau twyll a chwythu’r chwiban i ddrafftio camau adrodd yn unol â gweithdrefnau Archwilio Mewnol. Adrodd ar ganfyddiadau ymchwil a gwneud argymhellion cychwynnol drafft
  • Meithrin cydberthnasau cadarnhaol ac effeithiol ar draws y sefydliad cyfan.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

Gwybodaeth:

  1. Cymhwyster archwilio mewnol proffesiynol, neu barodrwydd i gwblhau cymhwyster o fewn 18 mis yn y swydd.
  2. Cymhwyster proffesiynol mewn ymchwilio i dwyll, neu’n gweithio tuag at gymhwyster o’r fath.
  3. Dealltwriaeth eang o Cyfoeth Naturiol Cymru a'i swyddogaethau.
  4. Gwybodaeth am Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
  5. Gwybodaeth am dwyll ac archwiliadau sylfaenol.
  6. Dealltwriaeth dda o Reoli Risg.

Profiad:

  1. Profiad o gyflawni archwiliadau mewnol ar sail risg a gwaith ymgynghori mewn sefydliad mawr a chymhleth
  2. Profiad o gyflawni archwiliadau.
  3. Cyflawni aseiniadau ar amser, o fewn cwmpas a'n unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
  4. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol datblygedig iawn.
  5. Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth.
  6. Gallu ysgrifennu adroddiadau archwilio cryno gydag argymhellion clir.
  7. Gallu sicrhau gwrthrychedd a chyfrinachedd.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Amrediad o wybodaeth a sgiliau arbenigol/technegol a gafwyd drwy brofiad blaenorol.
  • Darparu cyngor proffesiynol/technegol/arbenigol i eraill ar eu maes pwnc.
  • Sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a TG da, gyda'r gallu i drefnu a rheoli eu llwyth gwaith eu hunain.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Dadansoddi a dehongli data a gwybodaeth. Darparu arweiniad a chyngor i eraill a faterion technegol/arbenigol.
  • Cynhyrchu dogfennau o amrywiaeth o ffynonellau a allai ofyn am rywfaint o wreiddioldeb. Bydd gan y cynnwys elfen dechnegol neu arbenigol.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Bydd yn cael ei arwain gan ganlyniadau disgwyliedig ond gallai deiliad y swydd benderfynu sut orau i'w cyflawni, o fewn paramedrau a ddiffiniwyd.
  • Darperir arweiniad gan eraill ond defnyddir rhywfaint o grebwyll neu greadigrwydd yn seiliedig ar wybodaeth dechnegol a/neu sgiliau arbenigol.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau gydag amrywiaeth o ddatrysiadau, sy'n gofyn am ychydig o archwilio/dadansoddi cyn dod i gasgliad. Bydd ystod gyfyngedig o opsiynau gyda datrysiadau hysbys, a fydd angen mewnwelediad technegol/arbenigol i'r mater.
  • Yn hyblyg ac yn gallu rheoli llif gwaith. Gall gymryd cyfrifoldeb am reoli prosiectau bach, llai cymhleth.

Effaith

  • Bydd gan ddeiliad y swydd effaith gymedrol ar y busnes, yn ôl y cyngor arbenigol/technegol a roddir. Effaith tymor byr i ganolig ond bydd yn dibynnu ar y ddisgyblaeth dechnegol/arbenigol benodol a'r graddau y mae'n cael effaith ar eraill. Bydd canlyniadau cymryd camau/penderfyniadau a allai fod yn anghywir yn gymedrol i uchel ac mae’n debygol y bydd angen mynd i'r afael â hwy er mwyn osgoi effaith tymor hwy.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Cyfathrebu ar draws ystod o swyddogaethau CNC ac, o bosib, â chysylltiadau allanol a thrydydd partïon.  Rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion nad ydynt yn gyfarwydd â'r ddisgyblaeth dechnegol/arbenigol. Bydd hyn yn gofyn am y gallu i drosi a chyflwyno gwybodaeth dechnegol/arbenigol mewn ffordd y gall eraill ei deall.
  • Sgiliau datblygedig o ran datblygu a chynnal cydberthnasau/rhwydweithiau gwaith da, sy'n debygol o fod yn barhaus ac yn cynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 20 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Jacquie Kedward ar Jacqueline.kedward@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf