Uwch-arbenigwr Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff

Dyddiad cau: 14 Chwefror 2023 | Cyflog: £47,408 - £52,359 (Gradd 8) | Lleoliad: Hyblyg yn Ne Orllewin

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos

Rhif swydd: 200790

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel arbenigwr cenedlaethol ar gyfer un neu fwy o'r arbenigeddau hynod gymhleth canlynol:

  • Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
  • Hylosgi.
  • Purfeydd a thanwydd.
  • Metelau fferrus ac anfferrus.
  • Datblygiadau EPR/IED.

Diogelu a gwella'r amgylchedd trwy ddull effeithiol ac effeithlon o reoleiddio’r gosodiadau diwydiannol mwyaf cymhleth neu â’r risg uchaf, safleoedd COMAH, safleoedd Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol a safleoedd gwastraff.

Ymateb yn ddiogel, amserol ac effeithlon i ddigwyddiadau/adroddiadau amgylcheddol ac ymgymryd â gwaith ymchwilio priodol.

Trwy gymhwyso ein Hegwyddorion Rheoleiddio – sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol (gan gynnwys gweithio fel rhan o'r Awdurdod Cymwys ar gyfer COMAH), ymgymryd â chamau gorfodi cymesur, a chyflawni trwy ein hymyriadau rheoliadol fuddion lluosog gwirioneddol.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithredu fel arweinydd technegol cenedlaethol arbenigol CNC gyfer sectorau hynod gymhleth neu faterion technegol penodol.
  • Gweithredu fel cynghorydd a mentor technegol ar gyfer aelodau'r tîm.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm a gweithredu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio a chyflawni busnes.
  • Gweithio gyda gweithredwyr i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer y gosodiadau, gan gynnwys ymgysylltu ag uwch-reolwyr a swyddogion gweithredol o fewn cwmnïau, i gyflenwi buddion lluosog.
  • Arwain yn rheolaidd ar ein hymateb i faterion/achosion mawr neu ddadleuol a gweithredu fel rheolwr cyfrifon i randdeiliaid allweddol.
  • Cyfrannu at waith sector a grwpiau sector traws-asiantaeth yn ôl y gofyn i helpu i fabwysiadu dulliau rheoleiddio cyson a lledaenu arferion da sydd o fudd i'r amgylchedd. Lle y bo'n briodol, gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer sectorau technegol penodol.
  • Bod yn barod i gymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol neu gynrychioli CNC mewn fforymau allanol, e.e. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU.  Bydd y mathau hyn o grwpiau'n cytuno ar strategaeth reoleiddiol sy'n benodol i'r sector yng Nghymru, y DU neu dros Ewrop.
  • Datblygu cydberthnasau gwaith rhwng cyfarwyddiaethau gan gyfrannu at ddatblygu unrhyw bolisïau sy'n ymwneud â diwydiant sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru.
  • Gweithio gyda'r Tîm Trwyddedu i helpu gyda'r broses adolygu trwyddedau barhaus mewn ymateb i ddiweddariadau BREF a chyhoeddi Casgliadau BAT.
  • Rhyngweithio gydag arbenigwyr rheoleiddiol eraill yn CNC i hyrwyddo arferion rheoleiddiol cyson.
  • Cefnogi cynghorwyr yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu ar lefel weithredol.
  • Asesu cydymffurfiaeth â gosodiadau, safleoedd COMAH, safleoedd gwastraff a safleoedd sy'n ymdrin â sylweddau ymbelydrol.
  • Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Aelodaeth o gorff proffesiynol.
  2. Profiad o weithio ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol perthnasol.
  3. Sgiliau hyfforddi a mentora.
  4. Profiad o reoli materion cynhennus a gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a'r cyhoedd.
  5. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnesau masnachol.
  6. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  7. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddio (gan gynnwys gorfodi) a rheoli digwyddiadau.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth arbenigol a thechnegol uwch,  y bydd yn ei diweddaru'n weithredol, gan barhau i fod yn gwbl ymwybodol o ddatblygiadau yn ei faes arbenigol. Bydd ganddo ddealltwriaeth glir o'r effaith bosib y gallai unrhyw newidiadau o'r fath ei chael, gan ddehongli a chymhwyso’r newidiadau ar draws y swyddogaeth ac ar draws CNC o bosibl. Nid yw hwn yn ofyniad o ran datblygiad proffesiynol parhaus yn unig, ond yn hanfodol ac allweddol ar gyfer parhad busnes CNC.
  • Y gallu i reoli llu o risgiau cymhleth o ran cyllid, y gyfraith, gweithredu ac enw da yn ei faes cyfrifoldeb, a rheoli risg yng nghyd-destun ehangach y busnes. Bydd yn meddu ar sgiliau rheoli risg cysylltiedig ynghyd â gwybodaeth am weithdrefnau a pholisïau sefydliadol.
  • Mae’n bosibl na fydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau rheoli llinell sylweddol, ond bydd yn meddu ar sgiliau rheoli ariannol, arwain a dylanwadu.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Bydd deiliad y swydd yn dehongli cynlluniau cyflenwi gweithredol y swyddogaeth ac yn deall eu cyd-destun o fewn strategaeth polisi CNC yn ehangach.
  • Bydd deiliad y swydd yn dadansoddi ac yn dehongli amrediad eang o wybodaeth gymhleth iawn, gan dynnu pwyntiau allweddol a’u cyfleu i unigolion ar bob lefel. 

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Bydd penderfyniadau a gweithredoedd deiliad y swydd yn dylanwadu ar eraill. Bydd canlyniadau penderfyniadau a gweithredoedd yn bellgyrhaeddol a dylanwadol, a hynny’n aml ar draws y sefydliad.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd ymreolaeth wrth wneud penderfyniadau o fewn ei faes arbenigedd technegol, gan wneud penderfyniadau annibynnol sy'n seiliedig ar waith dadansoddi ac ymchwil, a mewnbwn gan arbenigwyr eraill. Bydd ganddo ddealltwriaeth o'r amrediad o opsiynau sydd ar gael a'u goblygiadau posibl i'r busnes. Caiff gwaith ei gyflawni o fewn paramedrau eang, a disgwylir iddo weithredu’n annibynnol ac i beidio â cheisio arweiniad neu awdurdodiad oni bai ei bod yn bosibl fod y camau gweithredu y tu allan i’r polisi cyfredol. Gall fod blaenoriaethau sy'n gwrthdaro y bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd eu rheoli, gan addasu ei raglen waith neu waith eraill. Caiff cerrig milltir a dangosyddion perfformiad allweddol eu hadolygu ynghyd â chanlyniadau terfynol.
  • Bydd penderfyniadau a wneir yn ymwneud â llunio neu newid gweithdrefnau a gaiff eu cymhwyso gan bobl eraill yn y sefydliad. Bydd penderfyniadau o'r fath yn sylweddol ac yn golygu ymrwymo adnoddau o fewn adran neu ardal waith, a mynd i'r afael â phroblemau neu sefyllfaoedd mawr ac anodd lle bydd angen ystyried llawer o ffactorau. Bydd penderfyniadau yn gofyn am feddwl yn wreiddiol a gwaith dadansoddi a dehongli wrth benderfynu ar y camau i'w cymryd. Gall problemau fod yn gymhleth, gan ofyn am waith asesu sylweddol a dealltwriaeth fanwl o'r mater a'r sefydliad. Bydd gan ganlyniadau penderfyniadau’r potensial i effeithio ar ddelwedd y sefydliad, ac mae’n debygol y byddant yn parhau dros y tymor hwy.
  • Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at strategaethau cyffredinol CNC.

Effaith

  • Bydd effaith, dylanwad a chanlyniad gwaith deiliad y swydd yn sylweddol ac yn parhau dros y tymor hwy.  Cysylltir effaith gwaith deiliad y swydd yn bennaf â natur arbenigol y rôl, ynghyd â’r cyngor, yr arweiniad a'r wybodaeth arbenigol a ddarperir i bobl eraill.
  • Bydd y gwaith a wneir gan ddeiliad y swydd, fel arbenigwr/arweinydd sector, yn dylanwadu ac yn cael effaith ar lefel weithredol uwch, yn fewnol ac yn allanol.
  • Bydd penderfyniadau a gweithredoedd deiliad y swydd yn dylanwadu ar eraill.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Bydd deiliad y swydd yn rhyngweithio â chydweithwyr ar draws y busnes, gan ennyn cyfranogiad gan bawb yn y sefydliad wrth gyflawni strategaethau a pholisïau yn y modd mwyaf effeithlon. Bydd yn ymgysylltu ag amrediad eang o randdeiliaid, yn fewnol ac yn allanol, gan gyfathrebu ar lefel strategol a chydweithio ag eraill ar lefel uwch. Fel arbenigwr pwnc, bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor proffesiynol neu arbenigol awdurdodol.
  • Bydd deiliad y swydd yn trafod materion polisi technegol, arbenigol neu fanwl cymhleth neu dechnegol, gan deilwra dull, arddull a lefel y cyfathrebu'n briodol ar gyfer y gynulleidfa. Bydd y gwaith yn gofyn am gyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar, ac arwain prosiectau allweddol sydd yn gymhleth iawn. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a dylanwadu effeithiol iawn. Efallai y bydd hyn hefyd yn cynnwys hwyluso a chyflwyno yn ystod cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan rannu mewnbwn a chyngor technegol neu arbenigol cymhleth ar lefel uchel, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol. Bydd angen iddo allu llywio cyfeiriad trafodaethau neu weithgareddau. Bydd â’r gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Bydd deiliad y swydd yn llunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati sy’n weddol gymhleth. Bydd dogfennau'n cynnwys cyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu'n eu defnyddio. Mae dogfennaeth sy’n anghywir neu sydd wedi'i drafftio'n wael yn debygol o gael effaith niweidiol.
  • Y gallu i gyrchu data a chynnwys o sawl lleoliad, gan ofyn am ymchwil allanol a chrebwyll proffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli. Mae dogfennaeth o'r fath yn debygol o gael effaith dros y tymor hwy.

Cyfrifoldeb dros bobl

 

  • Ni fydd deiliad y swydd yn meddu ar gyfrifoldeb rheoli llinell, ond bydd ganddo gyfrifoldeb gweithredol dros arwain staff arbenigol a thechnegol trwy raglenni arbenigol a thechnegol iawn, a hynny drwy strwythur ‘rheoli matrics’.
  • Mae’n bosibl y bydd deiliad y swydd yn mentora cydweithwyr.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 14 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Erin Smyth-Evans ar erin.smyth-evans@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf