Cymorth Technegol, Gweithrediadau Coedwig

Dyddiad cau: 20 Chwefror 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Aberystwyth neu Trallwng

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.

Rhif swydd: 200466

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i’r yn o lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae’r Tîm Gweithrediadau Coedwig yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy i fodloni achrediad dan Gynllun Sicrwydd Coetiroedd y DU ac ISO14001 ac i gyflawni Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol. Mae'r tîm yn gyfrifol am reoli coetiroedd Llywodraeth Cymru yn ardal Gogledd y Canolbarth (Gorllewin) o Aberystwyth yn y de i Ddolgellau yn y gogledd. Mae'r rhain yn cynnwys cymysgedd amrywiol o flociau ucheldir ac iseldir gan gynnwys gogledd a de Dyfi, Abergynolwyn, Machynlleth, Cwm Einion, Nant y Moch a Nant yr Arian.

Mae’r rôl Cymorth Technegol yn allweddol wrth gyflwyno rhaglenni cynaeafu, ailstocio a sefydlu blynyddol gan weithio'n agos gyda chontractwyr allanol a chwmnïau prosesu pren i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni'n brydlon.

Mae dyletswyddau cyffredinol y rôl yn cynnwys goruchwylio contractau gwasanaeth a monitro contractau gwerthu coed sy’n sefyll gan ddarparu cofnodion ysgrifenedig rheolaidd o ymweliadau safle mewn dyddiaduron. Bydd yr unigolyn yn adrodd am unrhyw dor-cytundeb yn ogystal â digwyddiadau Iechyd a Diogelwch ac amgylcheddol. Mae elfen o gyfrif stoc o gynnyrch pren ar ochr y ffordd, yn ogystal â chofnodi stoc plannu a’r defnydd o gemegau. Cynhelir arolygon safle i ddarparu gwybodaeth reoli, megis dwysedd stocio ar safleoedd ailstocio, arolygon gwiddon a chwyn, a rheoli teneuo. Mae angen monitro diogelwch pren drwy gynnal gwiriadau lorïau yn rheolaidd yn ogystal â defnyddio camerâu i sicrhau cydymffurfiaeth. Bydd yr unigolyn yn cynorthwyo'r tîm ehangach i gynllunio a chyflawni gweithrediadau yn ôl yr angen.

Mae’r rôl yn cynnwys rhywfaint o waith swyddfa ond mae wedi’i lleoli ar y safle yn bennaf. Mae’n bosibl y bydd angen rhywfaint o weithio y tu allan i oriau os bydd angen ymateb i ddigwyddiadau na ellir eu rhagweld ar y safle.

Os hoffech ymweld â’r safle i drafod y rôl yn ogystal â gweld yr amgylchedd gwaith, cysylltwch â ni.

Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Darparu cyngor technegol ar gyfer materion sector neu dechnegol penodol.
  • Cyflawni cynlluniau gwaith, a chyflawni camau gweithredu y cytunwyd arnynt i gyfrannu at gynllunio busnes.
  • Cymryd rhan yng grwpiau technegol CNC.
  • Rhyngweithio â chymheiriaid yn CNC i hyrwyddo arferion cyson yn y diwydiant ac o ran pynciau arbenigol.
  • Byddwch yn gyfrifol am gyflawni rhaglenni dirprwyedig yn uniongyrchol.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Profiad o weithio mewn disgyblaethau rheoli tir.
  2. Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig, a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
  3. Gwybodaeth am gynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwig.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Dymunol: Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Mae gan ddeiliad y swydd amgyffrediad a dealltwriaeth dda o ystod o egwyddorion a pholisïau sefydliadol. Profiad o weithio mewn nifer o amgylcheddau neu mewn ystod o rolau mewn un sefydliad.
  • Dealltwriaeth dda o natur dechnegol y swyddogaeth/tîm. Er na fyddwch yn arbenigwr pwnc, bydd gennych ddealltwriaeth a phrofiad cadarn mewn perthynas ag o leiaf un maes technegol i'ch galluogi i gynllunio a chyflwyno cynlluniau gwaith.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau da wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid. Bydd gan ddeiliad y swydd lythrennedd cyfrifiadura da a sgiliau rheoli data hefyd.
  • Byddai profiad o oruchwylio eraill yn rhinwedd ddymunol hefyd. Bydd gan deiliaid y swyddi lefel uchel o wybodaeth am iechyd, diogelwch a llesiant, a phrofiad ohonynt yn ogystal â diogelwch cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus.  

Gwerthuso gwybodaeth

  • Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a ddefnyddir wrth gyflawni'r rôl.  Efallai y bydd y rôl yn cynnwys rheoli data.
  • Efallai y bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a chyflwyno cynlluniau gwaith a all ofyn am ddealltwriaeth o sut mae gwahanol brosiectau a rhaglenni yn gysylltiedig.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Yn gyffredinol, bydd gwaith yn cael ei arwain gan ganlyniadau disgwyliedig ond gall deiliad y swydd benderfynu ar y ffordd orau o’u cyflawni, o fewn paramedrau wedi'u diffinio.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â maes gwaith deiliad y swydd, ond a allai orgyffwrdd â meysydd eraill. Gall penderfyniadau fod o natur dechnegol a gellid ceisio arweiniad gan eraill.
  • Mae rhywfaint o ymreolaeth mewn cyflawni cynlluniau, sy'n gofyn am ychydig o ddehongli a dadansoddi, ond bydd hyn o fewn paramedrau cyffredinol a gytunwyd arnynt.

Effaith

  • Fel rôl sy'n wynebu'n allanol, bydd gwaith a wneir yn cael effaith yn allanol ac yn fewnol.
  • Mae'r gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn ardal arwahanol felly bydd unrhyw effaith o'r gwaith yn effeithio'n bennaf ar yr amgylchedd uniongyrchol, ond gall hefyd ymestyn ar draws meysydd pwnc a gwaith eraill.
  • Bydd effaith penderfyniadau neu weithgareddau gwaith fel arfer yn y tymor byr i ganolig.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol er mwyn cyfathrebu ar draws ystod o swyddogaethau o fewn CNC yn ogystal â phartïon allanol.
  • Y gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da sy'n  debygol o fod o natur barhaus ac o bosib yn cynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 20 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy wyneb yn wyneb yn swyddfa'r Trallwng

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Jon Bell ar jon.bell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  neu 07733291327

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf