Aelod Tîm Gweithlu Integredig
Dyddiad cau: 15 Chwefror 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gradd 2) | Lleoliad: Bodffordd Depot, Ynys Môn
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Pythefnos 9 diwrnod
Rhif swydd: 200187
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’r Tîm Gweithlu Integredig yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Byddwch chi'n ymuno â thîm sy'n angerddol am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Byddwch yn helpu i ddarparu gwaith cynnal a chadw a chyfalaf ar asedau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r asedau hyn yn cynnwys asedau perygl llifogydd, fel argloddiau llifogydd, a byddwch yn helpu i gadw'r afonydd yng Ngogledd Orllewin Cymru yn rhydd o rwystrau a all gynyddu'r risg o lifogydd. Byddwch hefyd yn gweithio ar asedau eraill a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel rhan o'r tîm, byddwch chi'n cyfrannu at rota wrth gefn i ymateb i ddigwyddiadau, ac yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Byddwch yn darparu gwasanaeth llafur â llaw er mwyn cynnal asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Byddwch yn gallu defnyddio offer megis offer â llaw, a allai gynnwys llifiau cadwyn.
- Byddwch yn gallu gweithredu fel arolygwr a thaflwr/arwyddwr.
- Byddwch yn gallu deall cynlluniau technegol a chyfleustodau a gweithredu mewn cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli).
- Byddwch yn defnyddio cyfarpar a pheiriannau bach, h.y. Aebi/Reform, peiriannau torri gwair wrth gerdded, peiriannau malu pren ac ati.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Trwyddedau gweithredwyr perthnasol ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar neu’n gweithio tuag atynt.
- Tystysgrif Gweithio'n Ddiogel IOSH.
- Cymhwysedd mewn TGCh (lefel sylfaenol).
- Cymorth Cyntaf Brys +F.
- Mae profiad blaenorol o weithio ym maes coedwigaeth, adeiladu, amaethyddiaeth neu’r amgylchedd, neu fel gweithredwr cyfarpar, yn ddymunol.
- Mae'r rôl yn heriol yn gorfforol felly bydd angen lefel resymol o ffitrwydd.
- Hyderus yn gweithio mewn dŵr ac wrth ymyl dŵr.
- Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU Gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol
- Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelars).
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol - Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 15 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Tan Lan depot, Llanwrst.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Llion Jones ar Llion.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07909936224
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.