Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn datblygu sefydliad lle mae ein holl ymwelwyr, holl ddefnyddwyr ein gwasanaethau a’n gweithwyr yn cael eu trin yn deg, gyda pharch, a lle na chânt eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol o ganlyniad i unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig canlynol:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhyw
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Statws priodasol neu bartneriaeth sifil
- Hil
- Crefydd neu gred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol
Prosiect cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 2021
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu tan 5 Ebrill drwy ein partner Diverse Cymru.
Rydym yn awyddus i glywed gan amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd.
Manylion pellach a chofrestru ar gyfer y digwyddiadau ymgysylltu
Llenwch yr holiadur ar-lein
Mae fformatau amgen o’r holiadur ar gael ar wefan Diverse Cymru.
Eich cyfle chi yw'r broses ymgysylltu hon i ddweud wrthym:
- unrhyw beth rydych chi'n meddwl ein bod yn ei wneud yn dda o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- yr hyn y credwch y dylem ei wneud i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl waith
- yr hyn y credwch y dylem ei wneud i recriwtio, cefnogi, cadw a hyrwyddo staff mwy amrywiol
- sut y gallwn ymgysylltu mwy â chi a phobl a chymunedau amrywiol
Mae'r digwyddiadau ymgysylltu a'r holiadur ar eich cyfer chi os ydych:
- wedi bod mewn cysylltiad â ni yn y gorffennol
- wedi defnyddio ein gwasanaethau
- yn gwsmer i ni
- yn perthyn i grŵp cymunedol
Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio'r broses o ddatblygu cynllun gweithredu i’r sefydliad ar gyfer 2021 i 2024, gan nodi camau ymarferol i'n gwneud yn fwy cynhwysol ac amrywiol ac i gefnogi cydraddoldeb.
Darllenwch ein hamcanion cydraddoldeb strategol
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb
Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn dangos y gwaith rydym wedi'i wneud i fwrw ymlaen â'r agenda cydraddoldeb. Mae'r adroddiad yn amlinellu ein gweithgaredd ar gyfer y flwyddyn flaenorol, ein camau nesaf a chrynodeb o'n proffil gweithlu.
Adroddiad Flynyddol Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 2019-2020
Adroddiad Flynyddol Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 2020-2021
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2021 – 2022
Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae ein hsesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cyflwyno ein hamcanion a'n gwerthoedd ac sail tystiolaeth o sut y gall ein gwaith effeithio ar wahanol grwpiau, cymunedau a'r iaith Gymraeg.
Drwy'r asesiadau effaith hyn, gallwn rhagweld a chryfhau unrhyw effeithiau cadarnhaol rydym yn eu rhagweld tra gallwn weithio i liniaru effeithiau all fod yn adwynol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwilio am adborth oddi wrth ymwelwyr â'n prif safleoedd i ymwelwyr fel rhan o'i Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb y mae ganddo ddyletswydd i'w gyflawni o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Datganiad Polisi Cyflog Mawrth 2022
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod pwysigrwydd system gyflog sy'n gyfartal i bawb, yn briodol a thryloyw, yn cynnig gwerth am arian, ac yn gwobrwyo staff mewn modd teg ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud. Mae'r datganiad polisi hwn yn amlinellu dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cyflogau a'r berthynas rhwng cyflog gweithwyr a chyflog uwch-reolwyr.
Datganiad Polisi Cyflog Mawrth 2022
Y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Mae ein gwybodaeth ynghylch bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael ei gasglu ar 31 Mawrth bob blwyddyn ac yn cael ei adrodd ar wasanaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn cydymffurfio gyda Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017.
Ers 1 Mawrth 2017, mae deddfwriaeth wedi’i gwneud yn ofynnol i CNC gyhoeddi manylion am ein bwlch cyflog rhwng rhywiau ar Wasanaeth Bwlch Cyflog Gov.uk –erbyn 30 Mawrth eleni, gan ddefnyddio data 31 Mawrth 2021.
Crynodeb o ddata bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn CNC yn 2021
31 Mawrth | Y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau | Gwahaniaeth |
---|---|---|
2016 |
7.8% |
----- |
2017 |
5.5% |
i lawr 2.3% |
2018 |
4.8% |
i lawr 0.7% |
2019 |
5.3% |
I fyny 0.5% |
2020 |
2.5% |
I lawr 2.8% |
2021 |
2.0% |
I lawr 0.5% |
Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2021
Dyma’r rhaniad staff yn ôl chwartel cyflog fesul awr yn 2021:
Chwartel Uchaf: 350 o ddynion, 218 o fenywod.
Chwartel Canol Uchaf: 292 o ddynion, 276 o fenywod.
Chwartel Canol Isaf: 307 o ddynion, 261 o fenywod.
Chwartel Isaf: 299 o ddynion, 268 o fenywod.
Yn seiliedig ar ddiffiniadau CThEM o Fenywod a Dynion o ran Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, mae’r dadansoddiad yn dangos bod 62% o ddynion mewn rolau yn y Chwartel Uchaf o’u gymharu â 38% o fenywod.
Roedd menywod yn ennill £0.98c am bob £1 yr oedd dynion yn ei ennill (gwahaniaeth o 2%) o’i gymharu â chyflog cymedrig fesul awr. Roedd menywod yn ennill £0.96c am bob £1 yr oedd dynion yn ei ennill (gwahaniaeth o 3.1%) yn ôl y ffigwr canolrifol.
Wrth gymharu cyflogau cymedrig fesul awr, roedd cyflog cymedrig menywod fesul awr 2.0% yn is na chyflog cymedrig dynion. Mae’r gwelliant o’r flwyddyn flaenorol o ganlyniad i nifer o benodiadau arweinyddiaeth uwch benywaidd.
Mae gwelliant wedi bod ers 2017, fodd bynnag wrth i ni ddatblygu, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddeall a lleihau’r bwlch. Byddwn yn parhau i fonitro ein cynnydd yn rheolaidd gyda'n hadolygiad o’r raddfa gyflog.
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn talu unrhyw fonws.
Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein data ar borth adrodd GOV.UK.
Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym wedi ffurfio Grŵp Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'n Bwrdd, Tîm Gweithredol, aelodau o phob un o'n 8 Cyfarwyddiaeth, yn ogystal a aelodau o'n Rhwydweithiau Staff a'r Undebau Llafur. Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod bob tri mis i drafod materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac unrhyw gamau sy'n codi yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Mae gan aelodau o’r fforwm Dermau o Gyfrifoldeb i lynu at.
Rhwydweithiau Staff
Mae ein staff yn cael eu hannog i ddatblygu ac ymuno gyda'n rhwydweithiau mewnol sy'n derbyn cefnogaeth lawn gan y sefydliad.
Rydym yn gwerthfawrogi'r mewnbwn gan ein rhwydweithiau ac yn gwrando'n ofalus ar argymhellion. Ar hyn o bryd mae gennym 7 rhwydweith sef:
- Calon (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol)
- Ffrind Dementia
- Grŵp Defnyddiwr Gynorthwyir (IT a Teleffoni)
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol a Menywod
- Rhydwaith Staff Mwslimaidd
- Y Gymdeithas Gristnogol
- Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cydraddoldeb, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn: equalities@naturalresourceswales.gov.uk