Polisi Amgylcheddol

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw Cyfoeth Naturiol Cymru a’i weledigaeth yw arwain y ffordd tuag at ddyfodol gwell i Gymru trwy reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Cyflawnir hyn trwy gyfrwng ein hamrywiaeth eang o swyddogaethau a chyfrifoldebau sy’n cynnwys; cynghorwr, rheoleiddiwr, dynodwr, ymatebwr, ymgynghorai statudol, casglwr tystiolaeth, rheolwr, gweithredwr, partner, addysgwr a galluogwr trwy Gymru i gyd.

Mae cwmpas ein System Reoli Amgylcheddol yn cynnwys; “”Yr holl weithgareddau a’r holl wasanaethau sy’n gysylltiedig â rheoli’r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.”

Bydd CNC yn annog arferion amgylcheddol gorau trwy ein sefydliad ac yn adolygu ein gweithgareddau a’n gweithrediadau er mwyn dod o hyd i effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol. Yn benodol, byddwn yn:

  • Gweithredu System Reoli Amgylcheddol a ardystir gan safon amgylcheddol ISO14001 ac sy’n helpu i warchod yr amgylchedd.
  • Monitro a gwella’r System Reoli Amgylcheddol yn barhaus trwy ein rhaglen archwilio mewnol a’n rhaglen adolygu uwch reolwyr er mwyn gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad.
  • Cyflawni pob rhwymedigaeth o safbwynt cydymffurfio a phob rhwymedigaeth berthnasol arall er mwyn lleihau ein heffaith amgylcheddol.
  • Darparu fframwaith ar gyfer pennu amcanion amgylcheddol a monitro ac adolygu cynnydd yn erbyn ein targedau er mwyn lleihau’r defnydd a wneir o ynni, dŵr ac adnoddau.
  • Lleihau faint o wastraff a gynhyrchwn, defnyddio llai o ddeunyddiau niweidiol ac atal llygredd yn sgil ein gweithgareddau.
  • Hyrwyddo lefel uchel o ymwybyddiaeth amgylcheddol ac arferion gorau ymhlith ein gweithwyr a’n rhanddeiliaid, gan integreiddio rheolaeth amgylcheddol mewn hyfforddiant a chyfathrebu.
  • Caffael nwyddau a gwasanaethau o ffynonellau cynaliadwy ac annog ein cyflenwyr a’n contractwyr i wella eu perfformiad amgylcheddol.
  • Parhau i fodloni gofynion Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS) er mwyn dangos bod ecosystemau ein coedwigoedd yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.
  • Lliniaru effaith newid hinsawdd trwy leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan ein holl weithredoedd a’n holl weithgareddau.

Byddwn yn cyhoeddi’r polisi hwn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a bydd ar gael i bawb sydd â diddordeb.

Llofnodwyd gan:
Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru
Dyddiedig cyhoeddi: 1 Mawrth 2018

Diweddarwyd ddiwethaf