Corporate Environmental Report 2021/22
Ein gweledigaeth
Yn falch o arwain y ffordd at ddyfodol gwell ar gyfer Cymru trwy reoli’r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.
Ein diben
Trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016:
- rhaid i ni geisio rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, a
- byddwn yn cymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Cyflwyniad
Mae ein system rheoli amgylcheddol yn ategu gweledigaeth a diben Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwy gynnal ein hardystiad i safon amgylcheddol ISO14001:2015, ein hardystiad coedwigaeth yn erbyn Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig a thrwy leihau ein heffaith amgylcheddol a’n hôl troed carbon ein hunain.
Yn 2021/22 roedd Pandemig Covid-19 yn dal i effeithio ar y ffordd roedd CNC yn gweithredu. Drwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae staff wedi dal ati i weithio o gartref yn bennaf, er i gyfyngiadau teithio lacio tua diwedd y flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae Rhaglen Adfywio CNC yn ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio i alluogi CNC i fod yn sefydliad ystwyth, cydnerth ac effeithlon sy’n arwain Cymru ar fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.
Drwy weithio gyda phartneriaid a chymunedau, rydym yn bencampwyr yr amgylchedd, gan gefnogi adfywiad gwyrdd a chyfiawn i bobl Cymru.
Crynodeb o berfformiad
Yn 2021/22, fe wnaethom:
- gynyddu ein hôl troed carbon gan 7% mewn perthynas â chwmpas 1, cwmpas 2 a’r allyriadau cwmpas 3 sy’n cael eu mesur ar hyn o bryd, o gymharu â data 2020/21;
- gostwng ein defnydd o drydan o’r prif gyflenwad mewn adeiladau wedi’u meddiannu a depos am yr wythfed flwyddyn yn olynol, gyda gostyngiad o 2% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21;
- lleihau ein defnydd cyffredinol o ddŵr gan 4% o gymharu â data 2020/21;
- cynnal ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 a Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig, yn dilyn archwiliadau a phrosesau dilysu allanol annibynnol.
Tabl 1: Tabl crynhoi’r Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol
Categori | Unedau | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 |
---|---|---|---|---|---|
Allyriadau nwyon tŷ gwydr |
tCO2e |
4,199 |
3,994 |
2,579 |
2,755 |
Ynni a ddefnyddiwyd |
miliwn kWh |
6.3 |
7.1 |
5.4 |
5.0 |
Ynni – gwariant |
£ mil |
583 |
729 |
628 |
604 |
Gwastraff a gynhyrchwyd |
tunelli |
966 |
1,772 |
793 |
1,212 |
Gwastraff – gwariant |
£ mil |
218 |
333 |
199 |
245 |
Dŵr – defnydd |
m3 |
40,115 |
42,127 |
33,116 |
31,780 |
Dŵr – gwariant |
£ mil |
30 |
13 |
18 |
17 |
Mae Tabl 1 yn adlewyrchu’r newid cymharol ar gyfer meysydd allweddol yn y flwyddyn ddiwethaf.
I grynhoi:
- cynyddodd allyriadau nwyon tŷ gwydr y sefydliad wrth i gyfyngiadau Covid lacio. Fodd bynnag, yn 2021/22 bu gostyngiad o 31% mewn allyriadau o gymharu â 2019/20 (cyn Covid-19)
-
gostyngodd allyriadau carbon yn sgil ynni am y drydedd flwyddyn yn olynol, sef gostyngiad o 33% yn 2021/22 o gymharu â 2018/19
Mae rhagor o fanylion ynghylch pob elfen i’w gweld o fewn adrannau cysylltiedig yr adroddiad hwn.
Allyriadau nwyon tŷ gwydr
Mae ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u hamlinellu isod:
Cwmpas 1: cynyddodd allyriadau uniongyrchol gan 7%, a hynny yn sgil cynnydd yn faint o danwydd a ddefnyddiwyd yn ein ceir fflyd a chan ein timau gweithrediadau.
Cwmpas 2: gostyngodd allyriadau ynni anuniongyrchol gan 20%, a hynny yn sgil gostyngiad pellach yn y defnydd o ynni mewn adeiladau wedi’u meddiannu.
Cwmpas 3: cynyddodd allyriadau anuniongyrchol eraill gan 86%, a hynny yn sgil cynnydd ym milltiroedd y fflyd lwyd ac yng nghyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd.
Tabl 2: Allyriadau nwyon tŷ gwydr
Allyriadau nwyon tŷ gwydr | Unedau | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 |
---|---|---|---|---|---|
Cwmpas 1: allyriadau uniongyrchol |
tCO2e |
2,499 |
2,129 |
1,568 |
1,683 |
Cwmpas 2: allyriadau ynni anuniongyrchol |
tCO2e |
1,077 |
1,130 |
764 |
611 |
Cwmpas 3: allyriadau anuniongyrchol eraill |
tCO2e |
624 |
735 |
247 |
461 |
Cyfanswm gros allyriadau nwyon tŷ gwydr |
tCO2e |
4,199 |
3,994 |
2,579 |
2,755 |
Tu allan i’r cwmpasau (h.y. biomas) |
tCO2e |
184 |
182 |
132 |
150 |
Nodyn 1: Data heb ei wirio’n allanol – Sicrwydd Cyfyngedig – Nid yw allyriadau o’r Ffynnon i’r Tanc wedi’u cynnwys.
Nodyn 2: Ymysg allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol eraill Cwmpas 3 mae: teithio ar drên, hedfan, teithio gyda’r fflyd lwyd, teithio mewn ceir llog, dŵr a gwastraff.
Nodyn 3: Ni chynhwyswyd ychwaith allyriadau Cwmpas 3 yn sgil defnydd o’r tir ac atafaelu, data’r gadwyn gyflenwi, defnydd o agregau mewn gwaith adeiladu a’r defnydd o bren.
Ynni
Gostyngodd cyfanswm yr allyriadau yn sgil ynni gan 151 tCO2e, sef gostyngiad o 13% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21.
Gostyngodd cyfanswm y defnydd o ynni gan 37,968 kWh, sef gostyngiad o 1% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21.
Mae’r data hwn yn cynnwys; trydan, nwy o’r prif gyflenwad, LPG, olew gwresogi a biomas o swyddfeydd, depos a safleoedd di-griw, er enghraifft gorsafoedd mesur a gorsafoedd pwmpio.
Cynyddodd cyfanswm yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd yn ein safleoedd ein hunain gan 11%. Bellach mae hynny’n golygu bod 4.5% o’r ynni a ddefnyddiwyd ar ystâd CNC wedi dod o ynni adnewyddadwy wedi’i gynhyrchu gennym ni.
Tabl 3: Ynni a ddefnyddiwyd
Adnodd a ddefnyddiwyd – Ynni | Unedau | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 |
---|---|---|---|---|---|
Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd lle ceir staff |
kWh |
4,973,616 |
5,131,465 |
4,027,176 |
3,989,208 |
Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd lle ceir staff |
tCO2e |
1,236 |
1,188 |
876 |
832 |
Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd heb staff |
kWh |
1,298,317 |
1,985,005 |
1,407,657 |
1,041,011 |
Ynni a ddefnyddiwyd mewn safleoedd heb staff |
tCO2e |
367 |
507 |
328 |
221 |
Ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd |
kWh |
167,879 |
161,193 |
161,320 |
179,034 |
% cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd fel ynni adnewyddadwy |
% |
3.4 |
3.1 |
4.0 |
4.5 |
Cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd – defnydd |
kWh |
6,271,933 |
7,116,470 |
5,434,833 |
5,030,219 |
Cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd – defnydd |
tCO2e |
1,603 |
1,696 |
1,204
|
1,053 |
Cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd – gwariant |
£ mil |
583 |
729 |
628 |
604 |
Dŵr
Gostyngodd y defnydd cyffredinol o ddŵr gan 3,994 m3, sy’n ostyngiad o 14% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21. 1.1 m3/FTE yw dwysedd defnydd dŵr ein swyddfeydd. Dwysedd dŵr cyfartalog swyddfa nodweddiadol yw 4.0.
Mae CNC wedi ennill dilysnod Waterwise ar gyfer llawer o’n swyddfeydd a’n canolfannau ymwelwyr, sy’n tanlinellu ein hymrwymiad i effeithlonrwydd dŵr, a hefyd yn cydnabod buddion amgylcheddol gwneud defnydd effeithlon o un o adnoddau naturiol mwyaf hanfodol Cymru.
Tabl 4: dŵr a ddefnyddiwyd
Defnydd adnoddau |
Unedau |
2018/19 |
2019/20 |
2020/21 |
2021/22 |
---|---|---|---|---|---|
Dŵr o’r prif gyflenwad |
m3 |
12,308 |
11,755 |
4,653 |
7,302 |
Cyfanswm y dŵr a dynnwyd |
m3 |
27,747 |
30,324 |
28,463 |
24,478 |
Dŵr o’r prif gyflenwad (swyddfeydd) |
m3 |
5,987 |
6,180 |
2,107 |
2,639 |
Dŵr a dynnwyd (swyddfeydd) |
m3 |
32 |
26 |
4 |
13 |
Dŵr o’r prif gyflenwad (ac eithrio swyddfeydd) |
m3 |
6,321 |
5,575 |
2,546 |
4,662 |
Dŵr a dynnwyd (ac eithrio swyddfeydd) |
m3 |
27,715 |
30,298 |
28,459 |
24,465 |
Dwysedd defnydd dŵr |
m3 / FTE |
3.2 |
2.9 |
0.9 |
1.1 |
Cyfanswm y dŵr – defnydd |
m3 |
40,115 |
42,127 |
33,116 |
31,780 |
Cyfanswm y dŵr – defnydd |
tCO2e |
14 |
15 |
11 |
7 |
Cyfanswm y dŵr – gwariant |
£ mil |
30 |
13 |
18 |
17 |
Teithio
Mae ein hanghenion o ran teithio yn cynnwys: teithio i reoli safleoedd, ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol difrifol, cymryd samplau, ymdrin â llifogydd, cyfarfodydd safle a theithio rhwng swyddfeydd.
Cynyddodd y milltiroedd teithio ar gyfer busnes gan 992,497 o filltiroedd, sy’n gynnydd o 29% yn 2021/22 o gymharu â data 2020/21.
Roedd y cynnydd yn y teithio ar gyfer busnes yn bennaf yn sgil llacio cyfyngiadau teithio Covid-19.
Nid oedd dim hedfan yn 2021/22 a dim ond ychydig y cynyddodd teithio ar drên, a oedd o hyd 95% yn llai na’r lefelau cyn Covid-19 yn 2018/19.
Cyrhaeddodd teithio mewn cerbydau trydan ei lefel uchaf erioed hyd yma, sef 49,656 milltir yn 20221/22.
Tabl 5: teithio ar gyfer busnes
Teithio ar gyfer busnes | Unedau | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2021/22 |
---|---|---|---|---|---|
Fflyd â bathodyn CNC (heb gynnwys cerbydau trydan) |
milltiroedd |
5,562,246 |
4,934,687 |
3,020,287 |
3,553,215 |
Fflyd â bathodyn CNC |
£ mil |
789 |
720 |
455 |
642 |
Cerbydau’r fflyd lwyd |
milltiroedd |
614,868 |
554,375 |
266,804 |
627,456 |
Cerbydau’r fflyd lwyd |
£ mil |
277 |
249 |
120 |
283 |
Cerbydau llog |
milltiroedd |
277,390 |
512,209 |
153,361 |
154,988 |
Cerbydau llog |
£ mil |
124 |
195 |
181 |
180 |
Trên |
milltiroedd |
993,213 |
1,258,211 |
3,007 |
67,995 |
Trên |
£ mil |
328 |
397 |
< 1 |
22 |
Hedfan |
milltiroedd |
50,299 |
26,663 |
0 |
0 |
Hedfan |
£ mil |
7 |
7 |
0 |
0 |
Beic |
milltiroedd |
3,714 |
4,012 |
2,259 |
3,764 |
Beic |
£ mil |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
Beic modur |
milltiroedd |
1,155 |
729 |
110 |
911 |
Beic modur |
£ mil |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
Cerbydau trydan |
milltiroedd |
32,832 |
26,374 |
19,660 |
49,656 |
Cyfanswm teithio ar gyfer busnes |
milltiroedd |
7,535,717 |
7,317,260 |
3,465,488 |
4,457,985 |
Cyfanswm teithio ar gyfer busnes |
tCO2e |
2,002 |
1,810 |
1,085 |
1,344 |
Cyfanswm teithio ar gyfer busnes |
£ mil |
1,525 |
1,568 |
757 |
1,127 |
Lleihau a rheoli gwastraff
Mae cyfanswm y gwastraff a gynhyrchir bob blwyddyn yn amrywio yn ôl gofynion gweithrediadol a chyfanswm y gwastraff yn sgil tipio anghyfreithlon.
Yn 2021/22, cyhoeddodd CNC Bolisi Lleihau Ôl Troed Plastig gyda’r nod cyffredinol o leihau ôl troed plastig mewnol CNC ymhellach a thrwy weithio gydag eraill i ddylanwadu mewn ffordd gadarnhaol ar ymddygiad partneriaid a rhanddeiliaid.
Tabl 6: gwastraff a gynhyrchwyd
Categori gwastraff | Unedau | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 |
---|---|---|---|---|---|
Gwastraff swyddfa – tirlenwi |
tunelli |
286 |
90 |
23 |
111 |
Gwastraff swyddfa – tirlenwi |
tCO2e |
168 |
53 |
10 |
52 |
Gwastraff swyddfa – tirlenwi |
£k |
25 |
24 |
31 |
30 |
Gwastraff swyddfa – ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd |
tunelli |
431 |
972 |
460 |
613 |
Gwastraff swyddfa – ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd |
tCO2e |
9 |
21 |
10 |
13 |
Gwastraff swyddfa – wedi’i losgi |
tunelli |
31 |
31 |
18 |
21 |
Gwastraff swyddfa – wedi’i losgi |
tCO2e |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
< 1 |
Gwastraff gweithrediadau a thipio anghyfreithlon |
tunelli |
218 |
680 |
292 |
467 |
Gwastraff gweithrediadau a thipio anghyfreithlon |
tCO2e |
98 |
269 |
111 |
181 |
Cyfanswm y gwastraff |
Tunelli |
966 |
1,772 |
793 |
1,212 |
Cyfanswm y gwastraff |
tCO2e |
276 |
343 |
132 |
246 |
Cyfanswm y gwastraff |
£ mil |
218 |
333 |
199 |
245 |
Digwyddiadau amgylcheddol
Yn 2021/22 bu pymtheg o ddigwyddiadau amgylcheddol yn sgil ein gwaith neu waith contractwyr rydym yn eu rheoli, a oedd yn ostyngiad o wyth digwyddiad o gymharu â 2020/21.
Pan fydd digwyddiadau’n codi yn sgil ein gwaith (neu waith ein contractwyr) rydym yn adolygu beth ddigwyddodd, ac yn gweithio i fynd i’r afael â gwraidd y digwyddiad.
Llywodraethu ac adrodd
Rydym yn adrodd bob blwyddyn ar ein data allyriadau carbon fel rhan o waith adrodd ar allyriadau carbon Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Rydym yn casglu’r data a ddefnyddiwyd o fewn yr adroddiad amgylcheddol hwn drwy gyfuniad o ddarlleniadau mesuryddion (e.e. nwy, trydan), anfonebau (e.e. trafodion cardiau tanwydd), data cyflenwyr a data cyllid, gan ddefnyddio’r ffynhonnell/ffynonellau mwyaf cywir sydd ar gael i ni.
Strategaeth at y dyfodol
Yn unol â’n hamcanion amgylcheddol corfforaethol presennol, rydym am:
- Barhau i ddatgarboneiddio ystâd adeiladau CNC a’r fflyd drwy Raglen Adfywio CNC
- Ymgorffori egwyddorion hierarchaeth gwastraff a’r economi gylchol i werthoedd craidd CNC er mwyn dylanwadu ar leihad cyffredinol yn y gwastraff a gynhyrchir yn sgil ein gweithgareddau busnes
- Datblygu mecanweithiau ar gyfer galluogi teithio actif a chynaliadwy fel dewis cyntaf ar gyfer cymudwyr CNC ac ar gyfer teithiau busnes priodol
- Parhau i gynnal ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 ar gyfer holl weithgareddau CNC ac ardystiad i Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru