Hoffem glywed gennych


Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i ennyn gwell dealltwriaeth o'r modd y mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol nhw.

I ddysgu rhagor am ymuno â ni, ac eraill, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau yn yr amgylchedd dŵr, anfonwch e-bost at y tîm Cynllunio Dŵr Integredig i: WFDWales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Afon idwal

Dŵr a Datganiadau Ardal


Cafodd y rheoliadau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 eu rhoi yn eu lle er mwyn helpu i integreiddio dull cynaliadwy o reoli dŵr mewn cynlluniau a pholisïau.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn golygu y bydd angen i Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid ystyried dŵr mewn cyd-destun ehangach trwy nodi'r materion, ystyried datrysiadau posibl a chymryd camau gweithredu ataliol. 

Mae pob Datganiad Ardal yn amlinellu'r heriau (neu themâu) allweddol sy'n wynebu'r lleoliad penodol hwnnw yng Nghymru, yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i wynebu'r heriau hynny, a sut gallwn reoli ein hadnoddau naturiol yn well er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd y rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd a'u gwella o un flwyddyn i'r llall wrth i ni ymgysylltu â mwy o bobl, casglu tystiolaeth newydd, cyflwyno syniadau, a gweithio ar draws ffiniau.

Darganfyddwch themâu'r Datganiadau Ardal 

Gwaith cydweithredol 

Rydym yn gweithio gydag amrediad eang o randdeiliaid dŵr ar draws Cymru i nodi achosion sylfaenol problemau mewn amgylcheddau dŵr a darganfod datrysiadau hirdymor. 

Fforwm Rheoli Dŵr Cymru 


Darganfyddwch sut mae Fforwm Rheoli Dŵr Cymru yn darparu cyfle i sefydliadau sy'n aelodau o'r fforwm rannu tystiolaeth ac archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio er mwyn cyflawni'r gwaith o reoli dŵr yn gynaliadwy yng Nghymru.

Cynlluniau Rheoli Basn Afon


Mae'r Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i bawb sydd ynghlwm â gwaith Rhanbarthau Basn Afon yng Nghymru, ynglŷn â dyfodol rheoli dŵr yn yr ardal honno. 

Darllenwch y Cynlluniau Rheoli Basn Afon 2015-2021.

Cyfrannwch at gynlluniau 2021-2027 pan fyddwn yn ymgynghori yn hwyrach eleni.

Astudiaethau achos 


Darganfyddwch sut rydym yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn dilyn dulliau cynaliadwy o reoli dŵr ym Mhrosiect dalgylch Conwy Uchaf  ac Treial dalgylch Afon Tawe

Statws cyfredol cyrff dŵr yng Nghymru


Mae Arsylwi Dyfroedd Cymru yn rhoi statws cyfredol cyrff dŵr yng Nghymru i chi.

Ffurflen adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Hoffech chi gael ateb?

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf