Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Rhoddir trwydded amgylcheddol ar gyfer lleoliad penodol (oni bai ei bod ar gyfer offer symudol). Felly, os ydych chi'n gwerthu'ch tŷ neu safle, allwch chi ddim mynd â'ch trwydded gyda chi a pharhau â gweithgarwch y drwydded yn eich lleoliad newydd. Bydd angen i chi drosglwyddo'ch trwydded i'r perchnogion newydd.

Fe allwch chi drosglwyddo'r cyfan neu ran o'ch trwydded i rywun arall. Mae'r ffurflenni cais a'r nodiadau canllaw y byddwch eu hangen i wneud hyn isod.

Rhaid i ymgeiswyr lenwi Rhan A a D1.

Rhan A

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi rhan A - Amdanoch chi.

Rhan D

Os ydych chi am drosglwyddo'r cyfan neu ran o'ch trwydded gollyngiadau dŵr annibynnol (caniatâd gollwng gynt) i rywun arall, rhaid i chi lenwi Rhan D1 i roi gwybod i ni eich bod yn trosglwyddo'r drwydded.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau i:

permitreceiptcentre@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Canolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf