Canllaw
Os ydych am ollwng i ddŵr wyneb (er enghraifft, afon, ffrwd, aber neu’r môr) neu i ddŵr daear (yn cynnwys trwy system ymdreiddio) efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Mae ‘How to Comply with Your Environmental Permit’ yn cynnwys canllawiau cyffredinol ar gydymffurfio ag amodau trwydded.
Rhaid i chi ddarllen y ddogfen hon a chanllaw technegol y sector ‘EPR 7.01 How to comply with your Environmental Permit for Water Discharge and Groundwater Activity Permits’. Gall y dogfennau ei ffeindio ar ein tudalennau Cyfarwyddyd i'ch helpu i gydymffurfio â'ch Trwydded Amgylcheddol.
Mae ‘How to comply with your environmental permit’ yn egluro amodau neu reolau eich trwydded. Mae’n disgrifio’r safonau a’r mesurau sy’n rhaid i chi eu defnyddio i reoli peryglon llygredd mwyaf cyffredin eich gweithgarwch a sut i gydymffurfio ag amodau’ch trwydded.
Canllawiau llorweddol
Pwrpas canllawiau llorweddol yw darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i bob sector sy’n cael ei reoleiddio o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Er enghraifft, sŵn, arogl, arbed ynni neu warchod tir.
Asesiad Risg Amgylcheddol H1
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i asesu risgiau i’r amgylchedd ac iechyd pobl wrth wneud cais am drwydded bwrpasol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010. Fodd bynnag, nid yw’r canllaw hwn yn berthnasol i weithgareddau sylweddau ymbelydrol.
Mae fframwaith Asesiad Risg Amgylcheddol H1 yn cynnwys trosolwg a chyfres o atodiadau technegol atodol ar gyfer risgiau penodol. Nid oes rhaid i unrhyw weithredwr gwblhau’r holl atodiadau. Mae’n rhaid i bawb ddarllen y trosolwg a dewis yr atodiad neu’r atodiadau sy’n fwyaf priodol iddyn nhw. Mae’r dogfennau ar gael are ein tudalen Canllawiau llorweddol.
Nodiadau canllaw ar reoleiddio
Gallwch ddod o hyd i nodiadau canllaw a reoleiddio yn ymwneud â materion polisi a dehongliad cyfreithiol sy’n gysylltiedig â gweithredu Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar ein tudalennau Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoleiddio (RGN's)
Taliadau
Codir tâl am wneud cais er mwyn i ni allu talu’r costau sy’n gysylltiedig â chaniatáu trwydded. Mae yna dâl blynyddol hefyd i dalu costau cynnal ac adolygu’ch trwydded, i sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded ac i fonitro’r ardal ddyfrol yr ydych yn gollwng iddi. Nid oes tâl am gofrestru esemptiad i ollwng carthffosiaeth ar raddfa fach.Gall y dogfennau ei ffeindio ar ein tudalennau
Y rhestr ddiweddaraf o sylweddau peryglus
Rydym wedi cyhoeddi’r rhestr ddiweddaraf o sylweddau peryglus yn adran JAGDAG - Joint Agencies Groundwater Directive Advisory Group gwefan UKTAG