Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Am ragor o gyngor ar sut i amrywio trwydded gweler y ffurflenni cais a’r nodiadau canllaw isod. Rhaid i bob ymgeisydd (ac eithrio’r rhai sy’n gwneud cais am newid gweinyddol yn unig) lenwi rhan A a rhan F, a chwblhau’r adrannau priodol yn rhan C.

Dim ond Rhan C0.5 sy’n rhaid i chi ei lenwi i wneud newid gweinyddol yn unig. Os ydych yn newid cyfeiriad neu fanylion cysylltu, dylech roi’r manylion newydd yn Rhan A. Gweler y canllawiau ar gyfer Rhan C0.5 i weld beth yw tudalen weinyddol.

Os oes gennych chi fwy nag un drwydded amgylcheddol yn yr un lleoliad, gallwch wneud cais i gyfuno’ch trwydded. Os hoffech wneud hyn, ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaiad ar 0300 065 3000 i drafod eich cais.

Os yr ydych yn gwneud cais am amrywiad i eich trwydedd, mae’n buddiol fod y caniatad perthnasol ganddoch (e.e. Trwydedd Cyfoeth Naturiol Cymru) cyn prunu ac gosod unrhyw newid i’ch system cyfredol.

Rhan A

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi rhan A – Amdanoch chi.

Rhan F

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi rhan F2.

Rhan C

Mae’n rhaid i chi lenwi’r adrannau perthnasol yn Rhan C os ydych am newid trwydded gyfredol. Dewiswch y ffurflen rhan C briodol o’r rhestr isod.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau i:

permitreceiptcentre@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Canolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf