Gwneud cais am drwydded i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg

Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Os nad oes modd cofrestru eich gollyngiad elifion fel esemptiad, byddwch angen Trwydded Amgylcheddol. Mae’r gollyngiadau hyn yn cynnwys:

  • Gollwng elifion masnach i’r ddaear neu i ddŵr wyneb
  • Gollwng elifion cymysg (masnach a charthion) i’r ddaear neu i ddŵr wyneb
  • Gollwng i ddŵr daear trwy dwll turio, ffynnon neu strwythur dwfn arall
  • Gollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb

Os ydych eisiau gollwng elifion carthion domestig, mae gennym dudalen we bwrpasol i’ch helpu i wneud cais am drwydded

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B6 ar-lein.


Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng i ddŵr daear trwy dwll turio, ffynnon neu strwythur dwfn arall

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B6 ar-lein.


Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Gwneud cais am drwydded i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B1.

Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Ffioedd a thaliadau

Bydd angen ichi dalu ffi ymgeisio ar gyfer y Drwydded Amgylcheddol hon, a hefyd codir tâl blynyddol parhaus i dalu ein costau o gynnal ac adolygu eich trwydded, er mwyn inni allu sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded ac er mwyn inni allu monitro’r corff dŵr rydych yn gollwng iddo.

Cewch ragor o wybodaeth am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.

 

Diweddarwyd ddiwethaf