Pa dystiolaeth sydd ei hangen arnaf o hawl mynediad at fan tynnu dŵr?
Bydd angen 'hawl gwneud cais' arnoch pan ydych yn gwneud cais ffurfiol am drwydded tynnu dŵr. I fodloni'r gofyniad hwn, mae'n rhaid i chi unai:
- Fod yn berchen ar y tir;
- Meddiannu / bod â hawl mynediad; neu
- Fod â darpar hawl mynediad
Bydd y dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu gyda’ch cais yn dibynnu ar sut rydych yn bodloni'r gofyniad.
Os ydych yn berchen ar y tir
Os ydych yn berchen ar y tir yna bydd angen i chi ddarparu map yn dangos ffin y tir rydych yn berchen arno ynghyd â'r man(nau) tynnu dŵr arfaethedig.
Os nad ydych yn berchen ar y tir yna bydd angen i’ch tystiolaeth fodloni'r gofynion canlynol a dangos y bydd gennych hawl mynediad at y man tynnu dŵr arfaethedig at ddiben tynnu dŵr.
Os ydych yn meddiannu neu â hawl mynediad at y tir
Os ydych yn meddiannu neu â hawl mynediad at y tir yna bydd angen i chi ddarparu map yn dangos ffin y tir rydych yn berchen arno ynghyd â'r man(nau) tynnu dŵr arfaethedig ac un neu fwy o'r dogfennau canlynol:
- copi terfynol o gytundeb 'penawdau’r telerau'; a/neu
- weithred grant neu brydles hawliau; a/neu
- drawsgludiad, prydles, cytundeb tenantiaeth neu hawliau personol; a/neu
- orchymyn prynu gorfodol.
Os oes gennych ddarpar hawl mynediad
Os oes gennych ddarpar hawl mynediad ar adeg y cais ffurfiol yna bydd angen i chi ddarparu map sy'n dangos ffin y tir rydych yn berchen arno ynghyd â'r man(nau) tynnu dŵr arfaethedig ac un neu fwy o'r dogfennau canlynol:
- copi terfynol o gytundeb 'penawdau’r telerau'; a/neu
- gopïau o lythyrau rhwng cynghorwyr cyfreithiol yn cadarnhau trefniadau ynglŷn â hawl mynediad a’ch detholusrwydd i'r cytundeb a'r man tynnu dŵr at ddiben tynnu dŵr.
Mae'n rhaid i'r hawl mynediad fod am o leiaf 12 mis ar ôl i unrhyw drwydded ddod yn ddilys neu ar gyfer hyd y drwydded os yw hyn yn llai na 12 mis. Yn ystod y cam gwneud cais ffurfiol, rydym yn gallu derbyn hawl mynediad ddrafft i ystyried cais am drwydded tynnu dŵr, ond bydd rhaid darparu'r hawl mynediad derfynol o leiaf pythefnos cyn dyddiad y penderfyniad.
Ni fyddwn yn derbyn llythyrau gan dirfeddianwyr neu ddatganiadau statudol fel tystiolaeth o hawl mynediad briodol.
Gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol
Os yw un o'r partïon i gytundeb sy'n rhoi hawliau mynediad yn meddwl bod y cytundeb yn cynnwys gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol – er enghraifft, y ffioedd neu rent sy'n daladwy – yna gallai fod yn bosibl hepgor y rhannau hynny o'r ddogfen. Fodd bynnag, ni fyddai hepgor enwau, cyfeiriadau neu fannau mynediad, er enghraifft, yn dderbyniol.
Templed ar gyfer ymgeiswyr i roi tystiolaeth o'u hawl mynediad
I helpu ymgeiswyr â'u cynghorwyr cyfreithiol, mae templed cytundeb hawl mynediad ar gael. Byddwn yn derbyn templed cytundeb wedi'i gwblhau fel tystiolaeth ddigonol o hawl mynediad. Nid oes gan ymgeiswyr rwymedigaeth i ddefnyddio'r cytundeb hwn a gallant ddarparu ffurf amgen sy'n bodloni'r gofynion a amlinellir uchod. Cynghorir ymgeiswyr i gael eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain o ran cynnwys unrhyw gytundebau cyfreithiol.
Lawrlwythwch gopi o'r templed cytundeb hawl mynediad.