Taliadau am drwyddedau tynnu a chasglu

Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Pa ffioedd y bydd yn rhaid i mi eu talu?

Mae tri math o ffi y gall fod angen i chi eu talu am geisiadau a thrwyddedau ar gyfer tynnu a chronni dŵr, fel a ganlyn:

  • ffioedd ymgeisio
  • ffioedd hysbysebu
  • ffioedd blynyddol

Ni fyddwn yn gallu derbyn eich cais oni bai eich bod wedi talu'r ffi ymgeisio gywir.

Faint yw'r ffi ymgeisio?

Pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio. Bydd y ffi ymgeisio sy'n ofynnol yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn gwneud cais yn ei gylch, fel y nodir isod.

Codir taliadau hefyd am geisiadau sy'n ymwneud ag amrywiadau technegol, a hynny'n unol â'r ffioedd isod.

  • codir tâl o £135 ar gyfer cais am drwydded tynnu dŵr lawn (i dynnu dŵr dros gyfnod o 28 diwrnod neu fwy)
  • codir tâl o £1,500 ar gyfer cais am drwydded drosglwyddo (ar gyfer tynnu dŵr o un ffynhonnell gyflenwad i ffynhonnell gyflenwad arall,
    lle na wneir defnydd ohono rhyngddynt, dros gyfnod o 28 diwrnod neu fwy)
  • codir tâl o £1,500 ar gyfer cais am drwydded tynnu dŵr dros dro (ar gyfer tyniad dŵr untro dros gyfnod o lai na
    28 diwrnod)
  • codir tâl o £1,500 ar gyfer cais am drwydded cronni dŵr (neu gais am dynnu croniad dŵr)
  • mae'r ffioedd a godir ar gyfer ceisiadau am gynlluniau ynni dŵr yn seiliedig ar all-lif pŵer y cynllun penodol, fel y gwelir isod

Ffioedd blynyddol

Ni chodir taliadau blynyddol ar gyfer trwyddedau cronni dŵr, trwyddedau dros dro na thrwyddedau trosglwyddo.

Efallai y codir tâl blynyddol ar gyfer trwydded tynnu dŵr lawn. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu'n dibynnu ar y canlynol:

  • yr hyn yr ydych yn defnyddio’r dŵr ar ei gyfer
  • y ffynhonnell yr ydych yn tynnu dŵr oddi wrthi
  • y tymor pan ydych yn tynnu’r dŵr

Defnyddir sawl ffactor i gyfrifo swm y tâl blynyddol. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan codi taliadau, a gellir dod o hyd i fanylion am y ffactorau a'r cyfrifiadau yn ein cynllun taliadau tynnu dŵr. Caiff ein cynllun codi tâl ei ddiweddaru'n flynyddol.

Tynnu dŵr at ddibenion fel dyfrhau drwy chwistrellu

Os oes gennych drwydded ar gyfer tynnu dŵr ar gyfer dyfrhau drwy chwistrellu, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am gytundeb bilio tariff dwy ran unwaith y bydd eich trwydded wedi'i chyflwyno.

Mae Atodlen 2 o'n cynllun taliadau tynnu dŵr yn cynnwys gwybodaeth bellach am yr amodau y bydd angen i chi gydymffurfio â nhw ynghyd â gwybodaeth am sut y caiff y ffiei chyfrifo.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am gytundeb bilio tariff dwy ran, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno'r ffurflen gais ar gyfer bilio tariff dwy ran.

Ffioedd ar gyfer ceisiadau ar gyfer cynlluniau creu pŵer trydan dŵr

Defnyddir system renciog i godi taliadau am geisiadau ar gyfer cynlluniau creu pŵer trydan dŵr, gan ddibynnu ar allu cynhyrchu ynni eich cynllun.

  • Codir £375 ar gyfer cynlluniau sy'n cynhyrchu 25 kW neu lai.
  • Codir £750 ar gyfer cynlluniau sy'n cynhyrchu dros 25 kW hyd at 50 kW.
  • Codir £1,125 ar gyfer cynlluniau sy'n cynhyrchu dros 50 kW hyd at 100 kW.
  • Codir £1,500 ar gyfer cynlluniau sy'n cynhyrchu dros 100 kW hyd at 250 kW.

Codir tâl sy'n seiliedig ar ffi sylfaenol o £1,500 yn achos cynlluniau ynni dŵr mwy (dros 250 kW) sy'n fwy cymhleth ac sy'n gweithredu ar raddfa sy'n gofyn am fwy o fewnbwn technegol gennym, ynghyd â thâl ychwanegol o £125 fesul awr i dalu am ein costau amser a deunyddiau.

Lle cyflwynir ceisiadau ar y cyd am drwydded tynnu dŵr a thrwydded cronni dŵr ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig, codir ffi ymgeisio unigol yn unol â'r cynllun codi tâl.

Sut i dalu'r ffi ymgeisio

Rhaid talu'r ffi pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais a dogfennau ategol.

Gallwn ond dderbyn taliadau trwy gardiau Visa, MasterCard neu Maestro.

Os byddwch yn dewis talu trwy drosglwyddiad electronig (BACS), bydd angen i chi ddefnyddio'r wybodaeth ganlynol i wneud eich taliad. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio'r
cyfeirnod y gwnaethoch ei greu ar ddechrau'r ffurflen gais fel y cyfeirnod ar gyfer eich taliad BACS.

Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438

Dylid gwneud sieciau ac archebion post yn daladwy i Cyfoeth Naturiol Cymru a’u croesi ‘a/c talai yn unig’. Ar gefn eich siec, dylech nodi enw eich cynnig a rhif cyfeirnod eich cais.

Gwneud taliadau o'r tu allan i'r DU

Rhaid derbyn taliadau mewn sterling.

Y rhif IBAN yw GB70 NWBK6070 8010 014438

Y rhif SWIFT/BIC yw NWBKGB2L

Os na fyddwch yn nodi rhif cyfeirnod eich taliad, efallai y bydd oedi wrth brosesu’ch taliad a’ch cais.

Faint yw'r ffi hysbysebu?

Mae'n bosibl y bydd angen hysbysebu eich cais am drwydded newydd neu gais am amrywiad i drwydded sydd gennych eisoes.

Byddwn yn penderfynu a fydd angen hysbysebu'r cynnig ar sail lleoliad eich safle
a'r perygl posibl a berir i'r amgylchedd neu i ddefnyddwyr eraill y dŵr.

Byddwn yn trefnu cyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd lleol ac ar ein gwefan.

Os bernir bod angen hysbysebu, bydd angen i chi dalu ffi weinyddu o £100 i ni ynghyd â swm ar gyfer hanner cost yr hysbyseb ddwyieithog. Byddwn ni'n talu am hanner arall yr hysbyseb.

Mae costau hysbysebu'n amrywio rhwng papurau newydd, ond maent fel arfer rhwng £500 a £1,500.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau p'un a fydd angen hysbysebu ac i ddarparu manylion y costau y bydd angen i chi eu talu.

Unwaith y bydd yr hysbyseb wedi'i gosod, byddwn yn eich anfonebu am y costau. Bydd yr anfoneb yn egluro sut i dalu'r costau hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf