Gwneud cais i newid trwydded tynnu neu gronni dŵr sy'n bodoli eisoes
Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.
Os oes angen i chi newid eich trwydded tynnu neu gronni dŵr, bydd angen i chi wneud cais am amrywiad.
Mathau o newidiadau y gallwch eu gwneud
Mae dau fath o amrywiad y gallwch wneud cais amdanynt:
Mân newid (amrywiad gweinyddol)
- Newid enw neu gyfeiriad deiliad y drwydded
- Trosglwyddo'r drwydded i rywun arall
- Lleihau'r meintiau rydych yn eu tynnu
- Rhannu'r meintiau trwyddedig rydych yn eu tynnu rhwng dau unigolyn neu fwy (dosrannu)
Er mwyn gwneud mân newid i'ch trwydded tynnu neu gronni dŵr, llenwch ffurflen WRF
Newid cymhleth (amrywiad technegol)
Unrhyw newidiadau i amodau'r drwydded nad ydynt wedi'u rhestru uchod, gan gynnwys:
- Cynyddu'r meintiau rydych yn eu tynnu
- Newid lleoliad y tyniad
- Newid cynllun/adeiledd croniad
- Newidiadau i ddyluniadau a mapiau sydd ynghlwm wrth y ddogfen drwydded
Er mwyn gwneud newid cymhleth i'ch trwydded tynnu dŵr:
ac yna
Er mwyn gwneud newid cymhleth i'ch trwydded cronni dŵr:
ac yna
Os yw eich trwydded tynnu dŵr i dynnu dŵr daear a’ch bod am wneud cais i gynyddu eich meintiau, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gydsyniad ymchwiliad dŵr daear newydd cyn y gallwch wneud cais i newid eich trwydded tynnu dŵr.
Faint fydd yn ei gostio?
Mae mân newidiadau yn rhad ac am ddim ac rydym yn anelu i brosesu eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mae angen ffi ymgeisio ar gyfer newidiadau cymhleth (amrywiadau technegol). Codir tâl ar gyfer y rhain ar yr un cyfraddau â chais newydd.
Gallwch ddod o hyd i'r rhain ar ein tudalen ‘Taliadau ar gyfer trwyddedau tynnu neu gronni dŵr’. Byddwn yn gwneud penderfyniad ar eich
amrywiad technegol o fewn pedwar mis o dderbyn cais cyflawn os oes angen hysbysebu, neu dri mis os nad oes angen hysbysebu.