Gwneud cais am drwydded i dynnu neu gronni dŵr
Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.
Cyn gwneud cais am drwydded i dynnu neu gronni dŵr, darllenwch ein tudalennau gwe ‘Cewch wybod a oes angen trwydded arnoch i dynnu neu gronni dŵr’ ac ‘Yr hyn i’w wneud cyn gwneud cais am drwydded i dynnu dŵr neu ei gronni’ i wirio a oes angen trwydded arnoch ac i baratoi'r wybodaeth sydd angen ei chyflwyno gennych gyda'ch ffurflenni cais.
Cewch wybod a oes angen trwydded arnoch i dynnu neu gronni dŵr.
Yr hyn i’w wneud cyn gwneud cais am drwydded i dynnu dŵr neu ei gronni
Os ydych yn gwneud cais am drwydded ar gyfer cynllun ynni dŵr, darllenwch ein canllawiau ynni dŵr hefyd cyn cyflwyno eich cais.
I wneud cais am eich trwydded:
- cwblhewch y ffurflenni cais cywir ar-lein
- anfonwch atom yr holl wybodaeth ategol
- talwch y ffi gywir
Mae angen i chi gwblhau'r holl gamau uchod cyn y gallwn dderbyn eich cais.
Ffurflenni cais
Mae'r ffurflenni cais sydd eu hangen yn dibynnu ar y math o drwydded rydych yn gwneud cais amdani fel y dangosir isod. Os ydych yn cyflwyno sawl cais ar gyfer yr un cynllun, dim ond un ffurflen WRA sydd ei hangen.
Ar gyfer trwydded tynnu dŵr (gan gynnwys trwydded lawn, trwydded trosglwyddo, trwydded dros dro neu adnewyddu trwydded sy’n bodoli eisoes),
Trwydded ar gyfer tynnu dŵr
a
Trwydded ar gyfer cronni dŵr
Ar gyfer trwydded cronni dŵr (gan gynnwys trwydded i dynnu croniad),
a
Tynnu dŵr at ddibenion fel ddyfrhau drwy chwistrellu
Os oes gennych drwydded ar gyfer tynnu dŵr ar gyfer dyfrhau drwy chwistrellu, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am gytundeb bilio tariff dwy ran unwaith y bydd eich trwydded wedi'i chyflwyno.
Mae Atodlen 2 o'n cynllun taliadau tynnu dŵr yn cynnwys gwybodaeth bellach am yr amodau y bydd angen i chi gydymffurfio â nhw ynghyd â gwybodaeth am sut y caiff y ffiei chyfrifo.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am gytundeb bilio tariff dwy ran, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno'r ffurflen gais ar gyfer bilio tariff dwy ran.
Faint fydd yn ei gostio?
Ar gyfer gwybodaeth am ffioedd ymgeisio, taliadau hysbysebu a ffioedd blynyddol, cyfeiriwch at ein tudalen ‘Taliadau am geisiadau i dynnu a chronni dŵr’.
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i wneud penderfyniad ar fy nghais?
Os ydych wedi gwneud cais am drwydded i dynnu neu gronni dŵr, byddwn yn gwneud penderfyniad ar eich cais o fewn pedwar mis o dderbyn cais cyflawn os oes angen hysbysebu, neu dri mis os nad oes angen hysbysebu.
Os ydych wedi gwneud cais am drwydded tynnu dŵr dros dro, byddwn yn gwneud penderfyniad ar eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith.
Cymorth i wneud cais
Os oes angen cymorth arnoch o hyd, neu ydych am wirio materion cyn eich bod yn anfon cais ffurfiol atom, gallwch wneud cais am gyngor cyn gwneud cais.
Unwaith mae gennych drwydded
Bydd eich trwydded yn nodi amodau sydd angen i chi eu dilyn i allu tynnu neu gronni dŵr yn ôl y gyfraith. Dylech ddarllen eich trwydded yn ofalus a'i chadw mewn lle diogel.
Datganiadau tynnu dŵr
Gallai amodau eich trwydded tynnu dŵr olygu fod angen i chi gwblhau ac anfon datganiadau tynnu dŵr atom yn flynyddol neu pan ydym yn gofyn amdanynt.
Cyfyngiadau amser
Nid yw trwyddedau cronni dŵr yn dod i ben.
Bydd unrhyw drwydded tynnu dŵr a roddir fod â therfyn amser. Os oes gan eich trwydded tynnu dŵr ddyddiad dod i ben yn unol â'r strategaeth berthnasol ar gyfer rheoli tynnu dŵr yn y dalgylch, bydd rhagdybiaeth o blaid ei hadnewyddu pan fo'r profion canlynol yn cael eu bodloni:
- cynaliadwyedd amgylcheddol parhaus
- cyfiawnhad parhaus o'r angen am y dŵr
- defnyddir y dŵr yn effeithlon
Mae'n rhaid i ni dderbyn y cais i adnewyddu eich trwydded neu amod sydd â therfyn amser yn eich trwydded o leiaf tri mis cyn i'ch trwydded ddod i ben.
Os yw eich trwydded tynnu dŵr wedi cael ei rhoi fel trwydded hyd byr, ni fydd ganddi ragdybiaeth o blaid ei hadnewyddu.
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Ar gyfer manylion ar sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi, sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd, a'r hawliau sydd gennych ynglŷn â sut rydym yn trin eich data personol, cyfeiriwch at ein tudalen we ‘Hysbysiad preifatrwydd’.
Cofrestr gyhoeddus
Mae'n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gadw cofrestr o drwyddedau a dogfennau ategol, gan gynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, dyddiad y cais, a manylion cryno ei gynigion, ac eithrio pan fydd eithriadau yn gymwys. Gallwch gael mynediad at y gofrestr gyhoeddus ar gyfer adnoddau dŵr ar ein tudalen ‘A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus).
Eithrio gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth sy’n effeithio ar ddiogelwch cenedlaethol
Wrth gyflwyno eich cais, cewch ein hysbysu eich bod o’r farn y byddai cynnwys y wybodaeth ar gofrestr gyhoeddus yn mynd yn groes i fuddiannau diogelwch cenedlaethol, neu y gallai’r wybodaeth fod yn gyfrinachol yn fasnachol.
I gefnogi hyn, mae’n rhaid i chi ddarparu datganiad neu ddogfennau i ni yn nodi pam rydych yn credu bod yr eithriadau yn gymwys. Byddwn yn asesu eich rhesymau ac yn penderfynu a allwn gadarnhau eich cais. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi datganiad ar y gofrestr gyhoeddus yn nodi bodolaeth y wybodaeth sydd wedi’i heithrio. Pan nad ydym yn cadarnhau eich cais, byddwn yn eich hysbysu am ein penderfyniad ac unrhyw opsiynau pellach sydd ar gael i chi wrthwynebu ein penderfyniad.
Apeliadau
Gallwch apelio at yr Arolygiaeth Gynllunio o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os nad ydych yn fodlon â'r amodau rydym wedi'u cynnwys ar eich trwydded.
- os byddwn yn gwrthod eich cais.
- os na fyddwn yn prosesu eich cais ar amser.
- os byddwn yn cyflwyno hysbysiad i chi o ran y math o geisiadau rydych wedi gwneud cais amdanynt neu’r nifer ohonynt.
Byddwn yn anfon manylion ynglŷn â sut gallwch gyflwyno apêl pan fyddwn yn cychwyn a gorffen penderfynu ar eich cais.