Cofrestru neu adnewyddu fel cynhyrchwr gwastraff peryglus
Os ydych chi’n cynhyrchu neu’n storio dros 500kg o wastraff peryglus bob blwyddyn, mae angen i chi ei gofrestru gyda ni bob blwyddyn.
Pwy sydd angen cofrestru
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am eich safle, byddwn yn rhoi eich manylion ar gofrestr a chewch rif cofrestru cynhyrchwr gwastraff peryglus, a elwir yn 'cod y safle'.
Pan gaiff gwastraff ei gasglu o'r safle a'i gludo i leoliad arall, bydd angen nodyn cludo, p'un a ydych yn safle cofrestredig neu wedi'ch eithrio.
Pwy nad oes angen iddynt gofrestru
Nid yw'r rheoliadau'n berthnasol i wastraff domestig, ac eithrio pan fo'r gwastraff hwnnw yn asbestos a gynhyrchir gan gontractwr. Yn yr achos hwn, efallai y bydd angen i'r contractwr roi gwybod am y safle y caiff y gwastraff ei gasglu ohono.
Gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon
Os yw gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon, gallwch waredu'r gwastraff hwnnw heb fod angen cofrestru'r safle. Fodd bynnag, bydd angen cwblhau nodyn cludo o hyd. Bydd angen fformat cod penodol ar gyfer y nodyn cludo.
Pan fo gweithredwyr gwasanaethau symudol yn cynhyrchu eich holl wastraff peryglus
Os ydych yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar safle rhywun arall, er enghraifft drwy gyflawni gweithgareddau cynnal a chadw, ac yn bodloni'r amodau isod byddwch yn cael eich ystyried yn wasanaeth symudol. Yn yr achos hwn, efallai na fydd angen i chi roi gwybod am eich safle.
- Rhaid ichi gofrestru eich prif leoliad busnes. Defnyddiwch eich cod cofrestru fel 6 nod cyntaf eich cod nodyn cludo.
- Rhaid ichi beidio â chynhyrchu mwy na 500Kg o wastraff peryglus ar safle’r cwsmer hwnnw.
- Ni ddylech fod yn gweithio ar y safle neu fod yn berchennog ar y safle lle’r ydych yn gwneud y gwaith hwn
- Rhaid ichi beidio â gadael y gwastraff ar safle’r cwsmer
Os na fodlonir yr amodau hyn, bydd angen i'ch cwsmer gofrestru â ni fel cynhyrchydd gwastraff peryglus os yw'n cynhyrchu mwy na 500Kg o wastraff peryglus mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis.
Unrhyw safle a gwmpesir gan y Datganiad Canllawiau ynghylch hysbysiad safle
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y penderfynwn nad oes angen i chi roi gwybod am eich safle. Gallwch ddod o hyd i fanylion yr amgylchiadau hyn yn y Datganiad Canllawiau isod.
Sut i gofrestru
Gallwch gofrestru eich safle eich hun neu gallwch gofrestru safle ar ran rhywun arall. Fodd bynnag, cyn i chi gofrestru rhywun arall, mae'n rhaid i chi gael caniatâd yr unigolyn. Dim ond cynhyrchwyr yng Nghymru sy'n gorfod cofrestru; nid oes yn rhaid i safleoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gofrestru.
Mae cofrestriadau'n para un flwyddyn a gallwch adnewyddu cofrestriad hyd at un mis cyn iddo ddarfod. Mae'r ffioedd rydym yn eu codi am gofrestru yn talu am ein costau gweinyddol yn unig ac felly nid ydym yn gallu ad-dalu safleoedd a gofrestrir yn anghywir.
Dyma'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gofrestru:
- Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) Mae SIC yn ddull ar gyfer trefnu busnesau yn ôl y math o weithgarwch economaidd maent yn ymwneud ag ef. Mae'n rhaid defnyddio fersiwn 2003 y codau SIC wrth gofrestru. Gweler y daenlen Excel isod
- Rhif Tŷ'r Cwmnïau Bydd angen hefyd eich rhif Tŷ'r Cwmnïau os ydych yn gwmni cyfyngedig
Mae cofrestriadau ar-lein yn costio £18 y safle.
Mae cofrestriadau dros y ffôn yn costio £23 y safle.
Mae cofrestriadau papur yn costio £28 y safle.
Gallwch gofrestru drwy'r post drwy gwblhau’r ffurflen/ffurflenni cais ar waelod y dudalen hon. Os nad ydych yn gallu argraffu dogfennau, ffoniwch ni a byddwn yn postio'r dogfennau atoch.
Gallwch anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau i'r cyfeiriad canlynol:
Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd
Caerdydd CF24 0TP
Mae pob cofrestriad wedi'i eithrio rhag TAW. Nid ydym yn anfon anfonebau na thalebau TAW.
Unwaith i chi gofrestru, bydd manylion eich cofrestriad yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer gwastraff peryglus.
Cofrestru mewn swmp yng Nghymru
Gallwch gofrestru neu adnewyddu sawl safle ar gyfer yr un sefydliad ar y we.
Noder mai dim ond safleoedd yng Nghymru a all gael eu cofrestru gyda CNC. Os oes gennych safleoedd yn Lloegr, bydd yn rhaid i chi eu cofrestru ar wahân gydag Asiantaeth yr Amgylchedd. Noder y bydd cofrestriadau cymysg (h.y. y rheiny sy’n cynnwys safleoedd yng Nghymru ac yn Lloegr) yn debygol o gael eu gwrthod.
Fel y nodwyd uchod, nid yw’r cofrestriadau’n cynnwys TAW. Nid ydym yn anfon anfonebau na derbyniadau at ddibenion TAW.
Cysylltwch â ni i gael help i gofrestru mewn swmp.
Sut i galu
Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Trosglwyddiad BACS i:
Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 15 diwrnod gwaith (tair wythnos) a yw eich cofrestriad wedi bod yn llwyddiannus. Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, cewch wybod yn gynt o lawer fel arfer.
Os na allwn dderbyn cofrestriad am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Ar ôl ichi gofrestru’n llwyddiannus, byddwch yn cael dogfen gadarnhau trwy e-bost. Y ddogfen hon fydd y prawf eich bod wedi talu a bydd yn dangos eich cyfeirnod(au) Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus newydd.