Canllawiau ar fewnforio ac allforio gwastraff
IWS ar-lein
Mae'r system ar-lein newydd ar gyfer Cludo Gwastraff rhyngwladol - IWS ar-lein - ar gael i chi ei ddefnyddio: IWS ar-lein
Bydd angen i chi gofrestru fel defnyddiwr. Yr unig wybodaeth sydd angen i chi wneud hyn, a yw eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn, cwmni, cyfeiriad e-bost ac i greu cyfrinair. IWS Bydd ar-lein yn anfon e-bost i wirio'r cyfeiriad ac yna gallwch ddechrau defnyddio'r system i wneud cais am hysbysiadau allforio, gweld cynnydd eich ceisiadau, cynhyrchu cyn-hysbysiadau a data cofnodi llwyth.
Gallwch ddefnyddio IWS ar-lein ar eich desg gliniadur uchaf neu ddyfais symudol, felly byddwch yn gallu i ddechrau arni cyn gynted ag y byddwch yn dymuno. Gallwch ddod o hyd i'r ddolen ar Gov.uk.
Hysbysiadau ydych wedi cyflwyno cyn 18 Ebrill
Os byddwch yn cyflwyno hysbysiad cyn 18 Ebrill ni fydd yn ar IWS ar-lein. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i symud yr hysbysiadau hynny ymlaen IWS ar-lein, sy'n golygu y bydd angen i chi barhau i anfon dogfennau symud 'papur' i ni fel eich bod wedi gwneud bob amser.
Beth am os bydd angen help gyda IWS ar-lein i?
Nodwch fod IWS ar-lein wedi cael ei ddatblygu gan Asiantaeth yr Amgylchedd (o Loegr), felly efallai y bydd angen cyfeirio atynt rai materion, fodd bynnag, yn y lle cyntaf os oes angen unrhyw help neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am IWS ar-lein, cysylltwch â Uned Cludo Gwastraff (CNC) - ffôn. 0300 065 3073 neu e-bostiwch ni: cludiant-gwastraff@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mewnforio ac allforio gwastraff
O ran allforio a mewnforio gwastraff i’w adfer, mae angen caniatâd ysgrifenedig (gan holl ‘Awdurdodau Cymwys’ yr holl wledydd dan sylw) cyn y gallwch chi symud y gwastraff. Rhaid i chi gydymffurfio ag ystod o ofynion eraill, yn enwedig y gofynion i ddarparu Gwarant Ariannol a chael contract ysgrifenedig dilys gyda’r safle adfer (allforion) neu gynhyrchydd y gwastraff (mewnforion).
Sylwch y bydd rhaid i chi dalu ffi, hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â mewnforio ac allforio gwastraff ar gael trwy’r ddolen gyswllt ar y gwedudalen hon.
Newidiadau pwysig i taliadau electronig
Mae ein manylion banc wedi newid. Os yr ydych eisiau talu eich gais trwydded trwy trosglwyddiad electronig, gallwch defnyddio ein manylion banc newydd isod. Gweler yn y adran “Ein Taliadau” ar ein wefan an manylion llawn or newidiadau.
Enw cwmni: | Natural Resources Wales |
Cyfeiriad y Cwmni: | Income Department, PO BOX 663, Cardiff, CF24 0TP |
Banc: | RBS |
Cyfieriad: | National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA |
Côd didoli: | 60-70-80 |
Rhif cyfrif: | 10014438 |
Byddwn yn diweddaru ein ffurflennu gais môr gynt a ffosib, ond mae rhaid defnyddio y manylion isod cyn gwneud taliad electronig o hyn ymlaen. Peidiwch a defnyddio y manylion sydd weid ei rhoi y nein ceisiadau trwydded ac canllawiadau os fod nhw yn wahannol I hyn sydd ywchben.
Allforio Gwastraff
Mae angen i chi bennu pa lefel o reolaeth fydd yn berthnasol i’r gwastraff rydych chi am ei allforio i wlad arall.
Mae yna 3 phosibilrwydd:
- efallai y bydd wedi’i wahardd (ni fydd modd ei allforio)
- angen hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw
- ‘rhestr werdd’ (rheolaethau Erthygl 18 / Atodiad VII)
I’ch helpu chi i bennu pa lefel o reolaeth sy’n berthnasol, gallwch ddefnyddio’r ‘adnodd rheolaethau allforio gwastraff’ ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae dolen gyswllt â’r adnodd ar gael ar y wedudalen hon.
Mewnforio Gwastraff
Os ydych chi’n bwriadu mewnforio gwastraff i’r DU, rhaid i chi sicrhau bod y gweithdrefnau cywir wedi’u dilyn. Bydd angen i chi wybod a oes gennych chi hawl i fewnforio’r gwastraff ac, os felly, o dan ba reolaethau.
Yn achos gwastraff sy’n amodol ar reolaeth hysbysu, bydd angen i chi gwblhau “dogfennau symud” (Atodiad 1B) pan fyddwch chi’n derbyn y gwastraff a phan fyddwch chi’n gorffen ei adfer neu ei waredu, ac anfon copïau o’r dogfennau hynny at yr holl Awdurdodau Cymwys perthnasol ac at yr unigolyn/cwmni a anfonodd y gwastraff.
Ym mhob achos, bydd angen i chi gadw copïau o’r dogfennau sy’n ymwneud â’r gwastraff sy’n cael ei fewnforio am o leiaf dair blynedd.
Beth sydd angen i chi ei wneud
I allforio gwastraff, y peth cyntaf y mae’n rhaid i chi ei wneud yw cael ffurflenni hysbysu a symud gan Cyfoeth Naturiol Cymru / yr Uned Cludo Gwastraff.
Cludo Gwastraff: cludiant-gwastraff@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd gan y ffurflen hysbysu y byddwn yn ei hanfon atoch rif unigryw. Byddwch yn derbyn templedi atodiadau i’ch helpu chi i ddarparu unrhyw wybodaeth ategol ofynnol.
Bydd rhaid i chi dalu ffi yn dibynnu ar uchafswm y llwythi y bwriedir eu cludo. Gweler y matrics ffioedd.
Llwythi | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
Gweithgarwch | 1 | 2 i 5 | 6 i 20 | 21 i 100 | 101 i 500 | 500+ |
Allforio ar gyfer adfer | £1,450 | £1,450 | £2,700 | £4,070 | £7,920 | £14,380 |
Allforio ar gyfer gwaredu parhaol | £1,540 | £1,540 | £3,330 | £5,500 | £10,600 | £19,500 |
Allforio ar gyfer gwaredu dros dro | £1,700 | £1,700 | £3,330 | £6,000 | £12,900 | £24,000 |
Mewnforio ar gyfer adfer parhaol | £1,250 | £1,250 | £2,700 | £4,900 | £10,600 | £19,500 |
Mewnforio ar gyfer adfer dros dro | £1,450 | £1,450 | £2,830 | £5,500 | £12,900 | £24,000 |
Mewnforio ar gyfer gwaredu parhaol | £1,540 | £1,540 | £3,330 | £5,500 | £10,600 | £19,500 |
Mewnforio ar gyfer gwaredu dros dro | £1,700 | £1,700 | £3,330 | £6,000 | £12,900 | £24,000 |
Noder bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoi’r gorau i brosesu hysbysiadau gwastraff (ar gyfer allforio a mewnforio gwastraff) ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ar 1 Tachwedd 2014, bydd angen i chi anfon pob hysbysiad newydd ar gyfer Cludo Gwastraff Rhyngwladol (ar gyfer safleoedd yng Nghymru) a’r dogfennau ‘symud’ (Atodiad 1B) i Uned Cludo Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfeiriad canlynol:
Uned Cludo Gwastraff
Cyfoeth Naturiol Cymru
Parc Busnes Llaneirwg
Caerdydd CF3 0EY
Ffôn: 0300 065 3073
E-bost: cludiant-gwastraff@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Taliadau
Bydd rhaid i chi dalu ffi am bob hysbysiad, sy’n daladwy i Cyfoeth Naturiol Cymru pan fyddwch chi’n gwneud yr hysbysiad.
Gallwch chi dalu’r ffioedd trwy drosglwyddiad electronig, dros y ffôn (cerdyn credyd neu ddebyd) neu drwy’r post.
I dalu dros y ffôn, ffoniwch:0300 065 3073 neu 0300 065 3000 + opsiwn 3.
Cludo Gwastraff Ymbelydrol
- Cludo Gwastraff Ymbelydrol a Gweddillion Tanwydd – mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweinyddu’r gwasanaeth hwn ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Canlynwch y ddolen ar y wedudalen hon am ragor o wybodaeth