Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr deunydd pacio

Diweddariad Coronafeirws

 

Gweler y penderfyniadau rheoleiddiol diweddaraf ar gyfer rheoli gwastraff, gan gynnwys rhwymedigaethau cynhyrchwyr deunydd pacio


Mae byd diwydiant, masnach a chartrefi’r DU yn cynhyrchu mwy na 10 miliwn tunnell o wastraff deunydd pacio. Mae rhyw chwe miliwn tunnell ohono’n cael ei dderbyn i’w adfer naill ai yn y DU neu dramor. Mae hyn yn beth da i’r amgylchedd ac yn helpu’r DU i gyrraedd y targedau adfer ac ailgylchu. Mae hefyd yn dda i fusnesau, oherwydd gall rhai sy’n cwtogi ar wastraff deunydd pacio arbed symiau sylweddol o arian.

Newidiadau pwysig i taliadau electronig

Mae ein manylion banc wedi newid. Os yr ydych eisiau talu eich gais trwydded trwy  trosglwyddiad electronig, gallwch defnyddio ein manylion banc newydd isod. Gweler yn y adran “Ein Taliadau” ar ein wefan an manylion llawn or newidiadau.

Gwybodaeth newydd
Enw cwmni: Natural Resources Wales  
Cyfeiriad y Cwmni:     Income Department, PO BOX 663, Cardiff, CF24 0TP 
Banc: RBS
Cyfieriad:    National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA  
Côd didoli:  60-70-80  
Rhif cyfrif:   10014438   

Byddwn yn diweddaru ein ffurflennu gais môr gynt a ffosib, ond mae rhaid defnyddio y manylion isod cyn gwneud taliad electronig o hyn ymlaen. Peidiwch a defnyddio y manylion sydd weid ei rhoi y nein ceisiadau trwydded ac canllawiadau os fod nhw yn wahannol I hyn sydd ywchben.

Ydych chi’n cynhyrchu deunydd pacio?

Os oes gennych chi drosiant blynyddol o fwy na £2 miliwn a’ch bod yn trin mwy na 50 tunnell o ddeunydd pacio’r flwyddyn, bydd angen i chi fodloni rhwymedigaethau’r cynhyrchydd yn unol â’r rheoliadau deunydd pacio. Bydd gennych rwymedigaethau ailgylchu hefyd os mai chi yw perchennog y deunydd pacio fel rhan o’ch gwaith ac yn ei gyflenwi i rywun arall, neu os ydych chi’n mewnforio’r deunydd pacio.

Nodwch mai Asiantaeth yr Amgylchedd fydd yn parhau i reoli system gofrestru cynhyrchwyr deunydd pacio am y tro ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyfrifol am faterion cydymffurfio a gorfodi.

Sut i gofrestru fel cynhyrchydd deunydd pacio

Ymgofrestrwch yn gynhyrchwr deunydd pecynnu ar y Gronfa Wybodaeth Gwastraff Pecynnu Genedlaethol

Ymuno â chynllun cydymffurfio cynhyrchwyr

Mae cynlluniau cydymffurfio deunydd pacio yn fusnesau sy’n ysgwyddo rhwymedigaethau cyfreithiol cynhyrchwyr deunydd pacio, ac sy’n gyfrifol am gael tystiolaeth o adfer ac ailgylchu.

Gallwch weld manylion cyswllt y cynlluniau cydymffurfio deunydd pacio ar wefan Gronfa Wybodaeth Gwastraff Pecynnu Genedlaethol.

Diweddarwyd ddiwethaf