Rhoi gwybod am gwympo coed anghyfreithlon tybiedig

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod esemptiadau neu ganiatadau eraill a allai ganiatáu i'r gwaith cwympo coed barhau.

Adrodd ynghylch cwympo coed anghyfreithlon a amheuir

Ffoniwch ein llinell digwyddiadau 24 awr i adrodd ynghylch cwympo coed anghyfreithlon a amheuir.

Mae angen i chi ateb cymaint o'r cwestiynau canlynol ag y gallwch er mwyn i ni allu ymchwilio i'ch adroddiad:

  • allwch chi gadarnhau union leoliad y digwyddiad? Mae angen arnom enw'r eiddo neu'r safle a chyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans, neu god post.
  • allwch chi ddweud wrthym pryd y dechreuodd y gwaith cwympo coed ac a yw'r gwaith hwnnw'n parhau?
  • allwch chi ddweud wrthym beth oedd yn digwydd?

Ystyriwch a fyddech chi'n barod i ni gysylltu â chi ar ôl hyn i gael gwybodaeth bellach neu i roi gwybod i chi am ganlyniadau ein hymchwiliadau.

Rydym yn deall bod rhai sefyllfaoedd yn rhai sensitif, efallai oherwydd agosatrwydd lleoliad y cwympo coed i'ch eiddo neu oherwydd yr unigolion sy'n gwneud y gwaith. Efallai y byddech yn dymuno aros yn anhysbys a rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig inni.

Gallwch fod yn sicr y byddwn yn parchu pa bynnag benderfyniad y byddwch yn ei gymryd ynglŷn â hyn. Ein prif nod yw annog adrodd ynghylch digwyddiadau.

Diweddarwyd ddiwethaf