Cosbau AEA
Beth yw Hysbysiad Gorfodi?
Mae Hysbysiad Gorfodi yn ddogfen gyfreithiol. Os na fydd unigolyn y rhoddwyd Hysbysiad Gorfodi iddynt yn cydymffurfio â'r telerau a nodir yn yr Hysbysiad, mae hyn gyfystyr â throsedd.
Pwy all dderbyn Hysbysiad Gorfodi?
Gellir rhoi Hysbysiad Gorfodi i'r partïon canlynol:
- Yr unigolyn sy'n cwblhau'r gwaith, er enghraifft, y contractwr
- Perchennog yr eiddo
- Unrhyw unigolyn arall sydd â diddordeb digonol yn yr eiddo (gan ganiatáu i waith gael ei gwblhau heb gael caniatâd gan yr awdurdodau perthnasol)
Beth mae Hysbysiad Gorfodi yn ei nodi?
- Mae Hysbysiad Gorfodi yn gofyn i unigolyn gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:
- Gwneud cais am ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru
- Adfer y tir i'r cyflwr yr oedd ynddo cyn i unrhyw waith ar y prosiect perthnasol gael ei gyflawni
- Cwblhau unrhyw waith ar y tir sydd angen ei wneud ac sy'n rhesymol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â thelerau'r caniatâd
- Cael gwared ar unrhyw ddifrod i'r amgylchedd a achoswyd gan y prosiect perthnasol neu ei liniaru
- Rhoi'r gorau i unrhyw waith ar y prosiect perthansol
Pa gyfnod o amser a ddiffinnir gan Hysbysiad Gorfodi?
Gall yr Hysbysiad nodi manylion y cyfnod y mae'n rhaid i unrhyw un o'r pedwar cam cyntaf uchod gael eu cymryd. Gellir nodi cyfnodau gwahanol ar gyfer mesurau gwahanol.
O dan ba amgylchiadau y gellir cyflwyno Hysbysiad Gorfodi?
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno Hysbysiad Gorfodi os canfyddir bod unigolyn wedi gwneud un o'r canlynol:
- Gwneud neu wedi gwneud gwaith lle'r oedd angen caniatâd
- Wedi torri amodau'r caniatâd a roddwyd eisoes
A ddaw dirwy gyda'r Hysbysiad Gorfodi?
Os na fydd unigolyn yn cydymffurfio â Hysbysiad Gorfodi, maent yn euog o drosedd a gallant, os byddant yn cael eu dedfrydu, fod yn gyfrifol am dalu dirwy o hyd at £5,000.
Diweddarwyd ddiwethaf