Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Y wiwer goch

Mae’r wiwer goch yn brin yng Nghymru. Mae’r prif boblogaethau ar Ynys Môn, yng nghoedwig Clocaenog ac yng nghanolbarth Cymru, ond fe’i gwelir mewn ambell fan arall hefyd. Mae’r wiwer goch dan fygythiad oherwydd y wiwer lwyd, sy’n lledaenu clefyd (firws brech y wiwer) ac yn cystadlu am yr un bwyd.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn rhoi gwarchodaeth lawn i wiwerod coch o dan Atodlen 5.

Mae’r canlynol yn droseddau yn achos rhywogaethau Atodlen 5:

  • Cymryd, lladd neu anafu’n fwriadol
  • Difa neu ddinistrio ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Tarfu ar y rhywogaeth yn ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Rhwystro mynediad at ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Gwerthu, neu gynnig / rhoi i’w gwerthu
  • Meddu

Mae’r wiwer goch hefyd wedi’i rhestru ar Atodlen 6, sy’n gwahardd rhai dulliau o ddal a lladd, sy’n cael eu rhestru yn Adran 11. Maen nhw’n cynnwys defnyddio’r canlynol:

  • Unrhyw drap neu fagl, dyfais electronig neu sylwedd gwenwynig / sy'n achosi i'r anifail gysgu
  • Unrhyw rwyd
  • Unrhyw arf awtomatig neu led-awtomatig
  • Unrhyw ddyfais ar gyfer goleuo targed / dyfais anelu
  • Unrhyw ddyfais dallu
  • Unrhyw nwy neu fwg
  • Unrhyw recordiad sain fel anifail denu
  • Unrhyw gerbyd mecanyddol

Os ydych chi'n gosod trapiau i ddal rhywogaethau sy'n bla (fel y wiwer lwyd), neu dan drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dylech ddarllen y nodiadau canllaw canlynol: Trapio anifeiliaid Atodlen 5 ac Atodlen 6 yn ddamweiniol ac Adrannau Perthnasol Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Os ydych chi am gynnal arolygon / ymchwil ar wiwerod coch a fyddai'n golygu eich bod yn cyflawni troseddau dan y ddeddfwriaeth hon, rhaid i chi wneud cais am drwydded gan CNC.

Y wiwer lwyd

Daeth y wiwer lwyd i Brydain o Ogledd America. Mae wedi’i rhestru ar Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, sy’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i’w rhyddhau neu adael iddyn nhw ddianc i’r gwyllt. Os ydych chi’n trapio gwiwer lwyd, ni ddylech ei rhyddhau i’r gwyllt oni bai eich bod wedi cael trwydded gan CNC. Gan fod gwiwerod coch yn dal yn bresennol mewn sawl man ledled Cymru y duedd yw peidio â rhoi trwyddedau o’r fath. Dim ond os gellir dangos na fyddai unrhyw fygythiad i wiwerod coch y rhoddir trwydded. Mae’n rhaid cael gwared ar wiwerod llwyd mewn modd trugarog.

Os ydych chi’n trapio gwiwerod llwyd mewn ardal lle mae yna wiwerod coch, dylech gymryd camau i sicrhau na fydd gwiwerod coch yn cael eu dal yn ddamweiniol a chymryd mesurau bioddiogelwch priodol i atal clefyd rhag lledaenu o’r gwiwerod llwyd i’r gwiwerod coch.

Gwneud cais ar gyfer trwydded arolygu

Os hoffech gyflwyno cais am drwydded arolygu ac os nad ydych wedi meddu ar un o'r blaen, bydd angen i chi ddangos bod gennych yr hyfforddiant a'r profiad angenrheidiol. Bydd angen i chi anfon eich ffurflen gais am arolwg a thrwydded cadwraeth wedi’i chwblhau.

Ffurflen geirda

Os nad ydych wedi meddu ar drwydded berthnasol gennym o’r blaen, rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen geirda.

Rhaid i'r canolwyr:

  • allu rhoi sylwadau ar eu profiad o weithio gyda'r rhywogaethau perthnasol
  • gallu defnyddio'r dulliau a'r offer a gynigir yn eich cais am drwydded
  • bod yn gymwys eu hunain a rhaid eu bod wedi dal trwydded berthnasol o'r blaen
  • bod â phrofiad o'ch gwaith am o leiaf un tymor arolwg

Dim ond un geirda y gallwn ei dderbyn gan y cwmni rydych chi'n gweithio iddo ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr i wirio eu datganiadau.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Adnewyddu eich trwydded ac adrodd ar eich gweithgareddau

Os ydych chi eisiau adnewyddu eich trwydded neu adrodd ar y gweithgareddau ydych chi wedi’u gwneud o dan eich trwydded, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais adrodd ac adnewyddu’r drwydded arolygu.

Diwygio eich trwydded

Gallwch ofyn am ddiwygiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.

Ffurflen gais i ddiwygio
Ffurflen newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf