Cyflwyniad

Mae defnyddio awyrennau di-griw ar gyfer hamdden, yn ogystal ag ymchwil amgylcheddol, monitro ac arolygu, ar gynnydd. Maen nhw’n profi’n ddull gwerthfawr o fedru arolygu safleoedd a fyddai’n anhygyrch fel arall, neu’n gostus iawn i’w harolygu, ac erbyn hyn mae enghreifftiau o'u defnydd llwyddiannus i fonitro ardaloedd fel nythfeydd adar môr sy'n bridio o bell.

Diffiniad

Mae awyrennau di-griw’n cyfeirio at weithgareddau lle mae cyfranogwyr yn gweithio peiriannau yn yr awyr trwy reolaeth o bell. Gellir trefnu’r rhain yn ôl y diffiniadau canlynol:

  • Dronau - Hedfan dronau at ddibenion hamdden
  • Awyrennau Model - Awyrennau a hofrenyddion a reolir o bell
  • Dronau at ddefnydd ymchwil neu fasnachol - Defnydd dronau ar gyfer gwneud arolwg neu ffotograffiaeth  / gwneud ffilmiau’n broffesiynol

Lle gewch chi hefan awyrennau di-griw heb ein caniatâd 

Nid oes gan awyrennau di-griw hawl mynediad cyhoeddus ar unrhyw ran o dir a reolir gan CNC

Pryd fyddwch chi angen ein caniatâd

  • Oherwydd y pryder am yr effaith posib ar ymwelwyr eraill a rhywogaethau a ddiogelir, fe fydd arnoch angen ein caniatâd i hedfan unrhyw fath o awyren ddi-griw at ddibenion hamdden ar dir a reolir gan CNC.
  • Fe fydd arnoch angen caniatâd bob amser i ddefnyddio dronau ar gyfer ffilmio, ymchwil a defnydd masnachol.

Sut rydym ni’n cefnogi pobl sydd am ddefnyddio awyrennau di-griw  

  • Byddwn yn dilyn Ein Hegwyddorion Arweiniol ar gyfer ymgysylltu â chymunedau ynghylch tir o dan ein rheolaeth.
  • Byddwn yn gweithio gyda phobl sy’n defnyddio dronau ac awyrennau model at ddibenion hamdden er mwyn darparu’n rhesymol ar gyfer eu gweithgareddau, gan roi caniatâd unigol lle y tybiwn na chaiff effaith ar ymwelwyr eraill na chadwraeth natur. Mae hi’n annhebygol y ceir caniatâd gennym ni i hedfan dronau ar rannau’r tir a reolir gan CNC sydd wedi’u hamddiffyn ar gyfer cadwraeth natur.
  • Byddwn yn adolygu ein safbwynt wrth i’r defnydd, y dystiolaeth a’r rheoleiddio ar awyrennau di-griw barhau i ddatblygu.

Yr hyn sydd yn rhaid i chi ei wneud

  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad a Chod Dronau yr Awdurdod Hedfan Sifil (AHS) bob amser. Yn ychwanegol at hyn, mae canllawiau’r AHS ar awyrennau di-griw yn amlinellu:
    • Ni ddylid byth hedfan awyren di-griw y tu hwnt i olwg llygad noeth y person sy’n ei reoli – mesurir hyn fel arfer fel 500m yn llorweddol neu 120m yn fertigol, ond gall y pellter yma fod yn sylweddol lai mewn coedwig neu amgycheddau bryniog.
    • Am resymau diogelwch a phreifatrwydd personol, ni ddylid hedfan dronau sydd â chamera dros neu o fewn 150 metr i unrhyw ardal boblog neu gynulliad awyr agored a drefnir lle ceir dros 1,000 o bobl (e.e. digwyddiad chwaraeon neu gyngerdd); o fewn 50 metr i unrhyw long, cerbyd neu adeiladwaith sydd ddim o dan reolaeth y person sy’n rheoli’r awyren; neu, o fewn 50 metr i unrhyw berson heblaw adeg esgyniad neu lanio, ac o fewn 30 metr i unrhyw berson heblaw y person sy’n rheoli’r awyren.
    • Mae angen caniatâd yr AHS hefyd ar gyfer pob hedfaniad sy’n cael ei chynnal at ddiben masnachol.
  • Cadwch at ein holl arwyddion. Amgylchfyd gwaith yw’r tir a reolir gan CNC a gall methu â chadw at arwyddion diogelwch fod yn beryglus i weithredwyr awyrennau a rheolwyr tir.
  • Peidiwch byth â hedfan i linell weld gweithredwr cerbyd, peiriant neu beirianwaith heb eu caniatâd ymlaen llaw.
  • Gall awyrennau di-griw gael effaith neilltuol a radar – peidiwch â’u gweithredu o amgylch ardaloedd nythu, nythfeydd, mannau clwydo ac ardaloedd bwydo pwysig heb ein caniatâd. Mae’n bosib y bydd angen trwydded benodol arnoch i weithio Awyren Di-griw yn agos at rai rhywogaethau – bydd hyn yn dod i’r amlwg yn ystod y broses ganiatáu os bydd yn berthnasol.
  • Parchwch fod tir a reolir gan CNC yn cael ei ddefnyddio gan aelodau’r cyhoedd fel modd i hamddena’n dawel.

Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd

Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.

Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir

Gyda phwy i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarganfod mwy trwy ddefnyddio’r dolenni canlynol:

Diweddarwyd ddiwethaf