Cyflwyniad

Cerdded yw’r math mwyaf poblogaidd o hamddena yn yr awyr agored yng Nghymru, gyda 71.4% o drigolion Cymru wedi gwneud hyn fel gweithgaredd hamddena o leiaf unwaith yn 2016. Mae rhedeg hefyd yn arferiad poblogaidd iawn, gydag 16.9% o’r boblogaeth wedi cymryd rhan yn ystod yr un cyfnod (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2017).

Diffiniad

Gellir trefnu rhedeg a cherdded yn ôl y diffiniadau canlynol:

  • Unigolion yn cerdded - Cerdded, Cerdded y Bryniau
  • Unigolion yn rhedeg - Rhedeg Llwybrau
  • Grwpiau anffurfiol - Grwpiau Cerdded, grwpiau rhedeg, grwpiau cerdded Nordig 
  • Digwyddiadau - Digwyddiadau rhedeg masnachol, digwyddiadau elusennol, teithiau cerdded noddedig, gwyliau cerdded, triathlon
  • Gweithgaredd masnachol - Hyfforddiant ac arweiniad hamdden awyr agored 

Noder: Nid yw hyn yn cynnwys gweithgareddau megis dringo creigiau a cherdded ceunentydd

Lle gewch chi redeg neu gerdded heb angen ein caniatâd

Mae gan unigolion, grwpiau, digwyddiadau a gweithgareddau rhedeg a cherdded yr hawl i ddefnyddio unrhyw Hawliau Tramwyo Cyhoeddus (gan gynnwys Llwybrau Troed, Llwybrau Ceffyl, Cilffyrdd Cyfyngedig a Chilffyrdd sydd ar agor i Unrhyw Draffig) sy’n croesi tir a reolir gan CNC.

Mae llawer o’r tir a reolir gennym ni wedi’i ddynodi yn Dir Mynediad Agored. Mae hyn yn golygu nad oes angen caniatâd ar unigolion a grwpiau anffurfiol i’w ddefnyddio, cyn belled nad yw wedi’i gau am resymau diogelwch y cyhoedd, rheoli neu amgylcheddol. Fodd bynnag, nid yw’r hawliau hyn yn ymestyn at weithgareddau masnachol.

Pryd fyddwch chi angen ein caniatâd

  • Os ydych yn cynllunio unrhyw weithgaredd masnachol ar lwybrau caniataol neu Dir Mynediad Agored, fe fydd arnoch angen ein caniatâd i wneud hynny.
  • Fel y gwelir yn ein Hegwyddorion Arweiniol, rydyn ni’n cadw’r hawl i godi tâl am weithgaredd masnachol, a hynny tuag at gostau rheoli.

Sut rydyn ni’n cefnogi rhedeg a cherdded 

  • Byddwn yn dilyn ein Hegwyddorion Arweiniol ar gyfer ymgysylltu â chymunedau ynghylch tir a gaiff ei reoli gennym.
  • Rydyn ni’n darparu ac yn hyrwyddo milltiroedd lawer o lwybrau cerdded a rhedeg caniataol ac yn galluogi grwpiau cymunedol i lunio eu rhai eu hunain.
  • Fe wnawn ni ddiweddaru gwybodaeth am Hawliau Tramwyo Cyhoeddus, Llwybrau a Hyrwyddir a Thir Mynediad Agored ar ein map o leoedd i ymweld. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ardaloedd lle’n gorfodir i gyfyngu mynediad o ganlyniad i weithrediadau rheoli neu ddigwyddiadau.

Yr hyn sydd raid ichi ei wneud

  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad a’r Cod Defnyddwyr Llwybrau bob amser.
  • Byddwch yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill ein tir a’u parchu. Gall ymddygiad anghyfrifol neu anghymdeithasol ar lwybrau a rennir arwain at wrthdaro gyda defnyddwyr eraill a gallai achosi risg i ddiogelwch y cyhoedd. Rhowch le i bobl sy’n marchogaeth pan fyddwch ar lwybrau a rennir.
  • Cadwch at ein harwyddion i gyd. Amgylchfyd gwaith ydy tir CNC a gall methu â dilyn arwyddion diogelwch fod yn beryglus i’r unigolyn yn ogystal ag eraill.
  • Dilynwch ein canllawiau Cadwch yn Lân er mwyn osgoi taenu rhywogaethau ymledol ac achosi bygythiadau bioddiogelwch.
  • Darganfyddwch sut rydyn ni’n rheoli ein tir ar gyfer Ymwelwyr â Chŵn
  • Gofalwch peidio ag achosi erydiad neu ddifrod i lystyfiant, yn enwedig mewn ardaloedd sensitif megis cynefinoedd coetiroedd lled-naturiol hynafol, twyni tywod a chorsydd. Gall defnydd dwys hefyd ddifrodi wynebau llwybrau, gan eu gwneud yn amhosib i bobl eraill eu defnyddio.
  • Peidiwch ag aflonyddu ar adar neu anifeiliaid ar unrhyw amser. Maen nhw’n arbennig o fregus adeg bridio, pan fydd ganddyn nhw rai bach ac yn y gaeaf.
  • Os ydych yn trefnu digwyddiad, rhowch ddigon o rybudd inni a pheidiwch â hysbysebu dyddiadau a lleoliadau hyd nes ceir cadarnhad gennym ni. Dilynwch reolau cyrff rheoli cenedlaethol a chanllawiau arferion gorau a thynnwch arwyddion/hysbysiadau wedi’r digwyddiad.
  • Osgowch ddefnyddio llwybrau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer grwpiau eraill, e.e. beicio mynydd neu farchogaeth.
  • Pan fyddwh chi’n ymweld mewn grŵp mawr, fe’ch cynghorir chi i adael inni wybod eich bod yn dod er mwyn inni helpu paratoi ar eich cyfer.
  • Os ydych yn trefnu digwyddiad rhedeg neu gerdded neu unrhyw weithgaredd masnachol arall ar lwybrau Hawliau Tramwyo Cyhoeddus, gadewch inni wybod am eich cynlluniau ymhell ymlaen llaw er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth ar y gweill a all effeithio ar eich digwyddiad.

Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd

Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.

Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir

Gyda phwy y gallwch gysylltu i gael rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch ddarganfod mwy trwy ddefnyddio’r dolenni canlynol:

Diweddarwyd ddiwethaf