Cyflwyniad

Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru (2017) fod 9.1% o bobl yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn beicio oddi ar y ffordd a beicio mynydd yn ystod 2016/17. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd beicio mynydd a beicio ledled y wlad. Gan gydnabod y cyfraniad at iechyd a lles ymwelwyr, rydym am annog y gweithgareddau hyn ar dir a reolir gan CNC ac rydym wedi amlinellu, yma, sut y gallwn gyflawni hyn.

Diffiniad

  • Unigolion - Beicio a beicio mynydd (yn cynnwys Beic Pedal â Chymorth Trydan)
  • Grwpiau - Clybiau beicio a grwpiau anffurfiol
  • Grwpiau masnachol - Teithiau dan arweiniad a hyfforddiant
  • Digwyddiad - Rasys goriwaered, rasys disgyrchiant dal ati, rasys dal ati, rasys trawsgwlad, beiciau graean, traws-seiclo

Yma, eglurwn y mathau o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar dir a reolir gan CNC sy’n cynnwys beiciau neu feiciau â chymorth trydan. Mae hyn yn cynnwys:

Lle gallwch fynd heb ein caniatâd

Mae gan unigolion a grwpiau hawl gyfreithiol i ddefnyddio Llwybrau Ceffylau, Cilffyrdd Cyfyngedig, Cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig (BOATs). Mae CNC hefyd yn caniatáu unigolion a grwpiau feicio ar ffyrdd coedwig ar Stad Coetir Llywodraeth Cymru. Ar dir a reolir gan CNC, byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o lwybrau beicio mynydd caniataol a llwybrau wedi’u cyfeirio, sy'n cael eu rheoli fel llwybrau defnydd sengl. Gallwch ddod o hyd i'r llwybrau hyn ar ein gwefan https://naturalresources.wales/?lang=en neu ar www.mbwales.com

Pryd y byddwch angen caniatâd gennym

  • Mae digwyddiadau a grwpiau masnachol bob amser angen caniatâd i ddefnyddio ein tir.
  • Os hoffech adeiladu unrhyw beth ar ein tir, byddwch angen ein caniatâd bob amser. Fodd bynnag, byddwn ond yn rhoi’r caniatâd hwn mewn amgylchiadau penodol ac fel rhan o gytundeb rheoli tymor hwy.

Sut rydym yn cefnogi beicio mynydd a beicio

  • Byddwn yn dilyn ein Hegwyddorion Arweiniol (dolen gyswllt) ar gyfer cynnwys y gymuned gyda thir rydym yn ei reoli.
  • Rydym yn cyhoeddi Cod Beicio ac yn annog tir a reolir gan CNC i gael ei rannu, fel y gall pawb gael budd ohono.
  • Rydym yn gweithio gyda grwpiau defnyddwyr i ddarparu llwybrau beicio mynydd a beicio wedi’u cyfeirio, lle mae'n cwrdd ag amcanion ein safle.
  • Rydym yn caniatáu digwyddiadau beicio mynydd a beicio neu weithgareddau masnachol pan ystyriwn y gall y safle gynnal y digwyddiad, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, ac yn hapus y caiff ei reoli i'r safon gywir o ran ansawdd a diogelwch.
  • Rydym yn ymdrin â nodweddion adeiledig anawdurdodedig a ‘llwybrau gwyllt’ yn unol â’n gweithdrefnau trefniadol.

Beth fydd angen i chi ei wneud

  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad, y Cod Defnyddwyr Llwybrau a’n Cod Beicio  bob amser.
  • Ymataliwch rhag adeiladu unrhyw beth oni bai eich bod wedi cael ein caniatâd. Gall creu ‘llwybrau gwyllt’ heb eu rheoleiddio a nodweddion wedi’u hunan-adeiladu effeithio ar lwybrau mynediad a ffiniau, a gall fod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill.
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill ar ein tir. Gall ymddygiad anghyfrifol neu anghymdeithasol ar lwybrau a rennir arwain at wrthdaro â defnyddwyr eraill a gallai fod yn risg i ddiogelwch y cyhoedd. Gadewch i gerddwyr a phobl ar gefn ceffylau fynd gyntaf pan fyddwch ar lwybrau wedi’u rhannu.
  • Cadwch at ein holl arwyddion. Mae tir CNC yn aml yn amgylchedd gwaith a gall methu â dilyn arwyddion diogelwch fod yn beryglus i’r beiciwr a’r rheolwr tir.
  • Dilynwch ein canllawiau Cadwch ef yn Lân i atal rhywogaethau ymledol rhag lledaenu ac achosi bygythiadau bioddiogelwch. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae llwybrau'n mynd trwy gyrff dŵr neu ardaloedd mwdlyd.
  • Gofalwch nad ydych yn achosi erydiad neu’n niweidio llystyfiant, yn enwedig mewn ardaloedd sensitif fel coetir hynafol lled-naturiol, twyni tywod a chynefinoedd cors. Gall defnydd dwys hefyd ddifrodi wynebau llwybr, sy’n golygu nad ydi pobl eraill yn gallu eu defnyddio.
  • Peidiwch ag aflonyddu ar anifeiliaid. Maent yn arbennig o agored i niwed yn ystod y tymor bridio ac yn y gaeaf. Gall beicio yn y nos effeithio ar fywyd gwyllt yn arbennig, gan ei fod yn digwydd pan nad yw safleoedd yn cael eu defnyddio gan bobl fel arfer.
  • Sicrhewch fod hyfforddwyr ac arweinwyr wedi'u hyfforddi a'u hyswirio'n ddigonol.
  • Os ydych yn trefnu digwyddiad, rhowch ddigon o rybudd i ni a pheidiwch â chyhoeddi dyddiadau a lleoliadau hyd nes y cewch ein cadarnhad ni. Dilynwch reolau cyrff llywodraethu cenedlaethol a chanllawiau arferion gorau a thynnwch arwyddion/hysbysiadau i lawr ar ôl y digwyddiad.
  • Sicrhewch fod beiciau trydan yn cydymffurfio â rheoliadau Beiciau Pedal â Chymorth Trydan.
  • Osgowch ddefnyddio llwybrau a neilltuwyd ar gyfer grwpiau defnyddwyr eraill, e.e. cerdded neu farchogaeth

Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd

Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.

Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir

Pwy i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch wybod mwy ar y dolenni canlynol:

Diweddarwyd ddiwethaf