Cyflwyniad

Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru (2017) fod 3% o boblogaeth Cymru’n cymryd rhan mewn gweithgareddau marchogaeth yn ystod 2016/17. Mae’n hysbys bod marchogaeth o fudd i ffitrwydd corfforol a lles meddyliol, ac yn cyfrannu at yr economi. Rydym am annog gweithgareddau marchogaeth ar dir a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac rydym wedi amlinellu yma sut y gallwn gyflawni hyn.

Diffiniad

Mynediad marchogol yw’r term a ddefnyddiwn ar gyfer bob math o fynediad gyda cheffyl – a ddisgrifir yn y categorïau canlynol:

  • Unigolion ar gefn ceffyl - Marchogaeth
  • Gyrru car a cheffyl unigol - Gyrru car a cheffyl
  • Grwpiau a chlybiau anffurfiol - Clybiau ac ymgynnull yn anffurfiol
  • Digwyddiadau neu weithgareddau masnachol - Ysgolion masnachol, teithiau dan arweiniad a hirdeithiau, trawsgwlad, cystadleuol

Nodwch: Mae’r datganiad hwn yn eithrio hela ar gefn ceffyl a cheffylau’n pori ar ein tir.

Lle gallwch fynd heb ein caniatâd

Mae gan unigolion ar gefn ceffyl hawl gyfreithiol i ddefnyddio Llwybrau Ceffylau, Cilffyrdd Cyfyngedig, Cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig (BOATs) a rhai Tir Comin. Mae unigolion sy’n gyrru car a cheffyl hawl i fod ar Gilffyrdd Cyfyngedig, BOATs. Gallwch nodi’r llwybrau hyn ar fapiau a gedwir gan yr Awdurdod Lleol.

Rydym hefyd yn rhoi mynediad agored i unigolion ar gefn ceffyl i lawer o Stad Coetir Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ofyn am ganiatâd i ddefnyddio traciau a ffyrdd coedwig, cyn belled nad ydynt ar gau ar gyfer diogelwch y cyhoedd, neu resymau rheoli neu amgylcheddol. Gallwch ddarganfod lle mae’r ardaloedd hyn trwy gysylltu â’ch rheolwr coedwig lleol.

Pryd y byddwch angen caniatâd gennym

  • Mae angen ein caniatâd ar unigolion ar gefn ceffylau a grwpiau a chlybiau anffurfiol, i gael mynediad i lwybrau nad ydynt yn Llwybrau Ceffylau Cyhoeddus, yn Gilffyrdd Cyfyngedig a BOATs ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, a rhai o'n stad coetiroedd a thir comin
  • Os ydych yn grŵp neu’n glwb anffurfiol o fwy na 10 marchog, byddwch angen ein caniatâd i ddefnyddio unrhyw ran o’n stad
  • Mae pob gweithgaredd gyrru car a cheffyl angen ein caniatâd i gael mynediad i unrhyw lwybrau ar dir a reolir gan CNC, oni bai ei fod yn Gilffordd Gyfyngedig, BOAT, neu’n rhan o gytundeb ffurfiol presennol (fel Dyfnant a Chrychan)
  • Mae angen ein caniatâd ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau masnachol bob amser i ddefnyddio tir rydym yn ei reoli

Nodwch: Os ydych angen mynediad i ardaloedd wedi’u diogelu gan rwystrau, byddwch angen ein caniatâd i gael allwedd.

Sut rydym yn cefnogi mynediad marchogol

  • Byddwn yn dilyn ein Hegwyddorion Arweiniol (dolen gyswllt) ar gyfer cynnwys y gymuned gyda thir rydym yn ei reoli
  • Yn ogystal â hyn, byddwn yn rheoli mynediad ar gyfer gweithgareddau marchogol yn unol â’n cytundeb gyda Chymdeithas Ceffylau Prydain Cymru
  • Rydym yn aml yn caniatáu mynediad marchog caniataol ychwanegol; gall hyn fod yn gymwys ar gyfer bob mynediad i ddarn o dir, llwybr wedi'i nodi neu gall fod yn ganiatâd personol eglur
  • Rydym yn caniatáu digwyddiadau neu weithgareddau masnachol marchogaeth pan ystyriwn y gall y safle gynnal y digwyddiad, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, ac yn hapus y caiff ei reoli i'r safon gywir o ansawdd a diogelwch
  • Rydym yn ymdrin â nodweddion adeiledig anawdurdodedig yn unol â’n gweithdrefnau trefniadol

Beth fydd angen i chi ei wneud

  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad, y Cod Defnyddwyr Llwybrau a Chod Ymddygiad ar gyfer Marchogion a Beicwyr Cymdeithas Ceffylau Prydain
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill ar ein tir. Gall ymddygiad anghyfrifol neu anghymdeithasol ar lwybrau a rennir arwain at wrthdaro â defnyddwyr eraill a gallai fod yn risg i ddiogelwch y cyhoedd
  • Cadwch at ein holl arwyddion. Mae tir CNC yn aml yn amgylchedd gwaith a gall methu â dilyn arwyddion diogelwch fod yn beryglus i’r marchogion, gyrwyr a rheolwyr tir
  • Dilynwch ein canllawiau Cadwch ef yn Lân i atal rhywogaethau ymledol rhag lledaenu ac achosi bygythiadau bioddiogelwch. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae llwybrau'n mynd trwy gyrff dŵr neu ardaloedd mwdlyd.
  • Ymataliwch rhag adeiladu unrhyw beth oni bai eich bod wedi cael ein caniatâd, gall nodweddion hunan-adeiledig effeithio ar lwybrau mynediad a ffiniau, a gall fod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill
  • Gofalwch nad ydych yn achosi erydiad neu’n niweidio llystyfiant, yn enwedig mewn ardaloedd sensitif fel coetir hynafol lled-naturiol, twyni tywod a chynefinoedd cors. Gall defnydd dwys hefyd ddifrodi wynebau llwybr, sy’n golygu nad ydi pobl eraill yn gallu eu defnyddio
  • Peidiwch â gadael tail ceffyl mewn ardaloedd a ddefnyddir gan aelodau eraill o’r cyhoedd. Gall hyn effeithio ar eu mwynhad; dylai mannau parcio a phyrth, yn enwedig, gael eu cadw’n lân a thaclus
  • Peidiwch ag aflonyddu ar adar neu anifeiliaid. Maent yn arbennig o agored i niwed yn ystod y tymor bridio ac yn y gaeaf
  • Osgowch ddefnyddio llwybrau a neilltuwyd ar gyfer grwpiau defnyddwyr eraill, e.e. cerdded neu lwybrau beicio mynydd

Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd

Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.

Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir

Pwy i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch wybod mwy ar y dolenni canlynol:

Diweddarwyd ddiwethaf