Cyflwyniad

Mae ffilmio a ffotograffiaeth yn cefnogi economi Cymru, yn chwarae rhan bwysig wrth godi proffil y wlad fel cyrchfan i ymwelwyr ac yn dod â mwynhad i lawer. Rydym am annog ffilmio a ffotograffiaeth gyfrifol ar dir a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac rydym wedi amlinellu, yma, sut y gallwn gyflawni hyn.

Diffiniad

Yma, fe eglurwn y mathau o ffilmio a ffotograffiaeth y gall ymwelwyr ei wneud ar dir a reolir gan CNC. Mae hyn yn cynnwys:

  • Adloniant - Ffotograffiaeth neu ffilmio amatur (nid yn fasnachol)
  • Ffilm - Prif ffilmiau neu gynyrchiadau lleol – ar gyfer ffrydio, sinema neu eu rhyddhau ar DVD
  • Teledu - Cynyrchiadau ar gyfer y teledu a sianeli ar-lein cysylltiedig: dramâu, cyfresi bach, adloniant ysgafn, dogfennau, addysg
  • Newyddion - Newyddion ar gyfer darlledu’n genedlaethol neu’n lleol
  • Masnachol arall - Ffilm a ffotograffiaeth ar gyfer dibenion hyrwyddo a masnachol eraill – yn cynnwys fideos cerddoriaeth, sesiwn tynnu lluniau a chyfryngau creadigol

Sylwch: Nid yw’r datganiad hwn yn cwmpasu’r defnydd o ddronau ar gyfer ffilmio a ffotog

Lle gallwch fynd heb ein caniatâd

Mae cyfarpar ffilmio a ffotograffiaeth sy’n cael eu dal â llaw yn ategolyn nodweddiadol ar gyfer adloniant. Tra byddwch ar droed, gallwch ffilmio neu dynnu lluniau at ddibenion adloniant ar bob hawl tramwy a thir mynediad agored.

Pryd y byddwch angen caniatâd gennym

  • Os yw’r ffilmio neu’r ffotograffiaeth ar gyfer ffilm, teledu neu ddibenion masnachol eraill, byddwch angen ein caniatâd ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cost.
  • Os yw’r ffilmio neu’r ffotograffiaeth ar gyfer eitem newyddion, byddwch angen ein caniatâd ond ni fydd unrhyw gost.

Sut rydym yn cefnogi ffilmio a ffotograffiaeth

  • Byddwn yn dilyn ein Hegwyddorion Arweiniol (dolen) ar gyfer cyfranogiad cymunedol gyda thir rydym yn ei reoli.
  • Rydym yn croesawu ffilmio a ffotograffiaeth ar ein safleoedd cyn belled bod y gweithrediad yn ymarferol ac nid yn mynd yn groes i’n gwerthoedd craidd neu’n peri niwed i’r amgylchedd.
  • Rydym yn cymhwyso strwythur ffi yn seiliedig ar fath a maint eich gweithgaredd. Sy’n cynnwys:
    • Faint o amser rydych angen defnyddio’r safle
    • Faint o amser mae’n ei gymryd i’r safle ddychwelyd i’r arfer
    • Maint y gweithrediad (sawl cyfleuster ychwanegol sy’n ofynnol e.e. arlwyo, lles, colur, goleuadau, cyfarpar a pharcio)
    • Amser staff CNC i reoli’r gweithrediad
    • Ffioedd cyfreithiol
  • Gallwn leihau neu hepgor taliadau ar gyfer ffilmiau neu ffotograffiaeth a wneir ar yr ystâd os teimlwn ei fod yn hyrwyddo gwaith CNC yn uniongyrchol.

Beth fydd angen i chi ei wneud

  • Darparwch ddigon o amser ymlaen llaw ar gyfer math a maint eich gweithrediad, yn enwedig ar gyfer gweithrediadau mwy sydd angen defnydd arbennig neu ganiatâd trydydd parti (e.e. gan berchnogion tir eraill). Gall amser ymlaen llaw annigonol achosi materion rheoli difrifol i CNC, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â ni mewn da bryd.
  • Diogelwch safleoedd yn ddigonol wrth ffilmio ac ymgorfforwch ddiogelwch cyhoeddus effeithiol yn eich gwaith cynllunio a rheoli gweithrediadau ffilmio. Gan fod tir a reolir gan CNC yn agored i'r cyhoedd, mae'n rhaid i chi bob amser gymryd gofal dyladwy o ddiogelwch y cyhoedd yn ystod unrhyw weithrediad a wneir ar ein tir
  • Darparwch unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen arnoch i hysbysu defnyddwyr eraill a rheoli mynediad cyhoeddus yn ystod ffilmio. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes angen seilwaith ychwanegol ar weithrediad, fel gwell mynediad i gerbydau, unedau arlwyo neu setiau ffilm, neu os yw gweithrediad angen y safle’n gyfan gwbl.
  • Gwnewch gynlluniau i sicrhau nad oes unrhyw olion o’ch gweithrediad a bod safleoedd yn cael eu dychwelyd i'w cyflwr blaenorol - yn enwedig ar gyfer gweithrediadau mawr lle gall adfer y safle gymryd mwy o amser ac adnoddau.
  • Os ydych yn bwriadu ffilmio mewn ardaloedd a ddynodwyd ar gyfer cadwraeth natur, sicrhewch fod gennych yr holl drwyddedau angenrheidiol o flaen llaw. Yn yr ardaloedd hyn, byddwn yn arbennig o ofalus ynghylch effaith y gweithrediad ar nodweddion cadwraeth.
  • Sicrhewch eich bod yn rhoi digon o rybudd i ni os ydych chi'n bwriadu defnyddio hofrenyddion neu ddronau wrth ffilmio. Gall ffilmio o’r awyr darfu ar fywyd gwyllt a defnyddwyr eraill y safle, a thresmasu ar breifatrwydd personol. Hefyd, efallai y bydd problem rheoli adnoddau o amgylch padiau glanio a storio tanwydd ar gyfer hofrenyddion. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen mwy am ddefnyddio Dronau ar ein tir (Darparwch y ddolen i Ddatganiad Sefyllfa Dronau).
  • Lle bo modd, dylech hefyd gydnabod CNC mewn credydau a chyhoeddusrwydd cysylltiedig.

Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd

Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.

Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir

Diweddarwyd ddiwethaf