Gyrru Cerbydau Modur at Ddibenion Hamdden
Cyflwyniad
Cymerodd 2.9% o boblogaeth Cymru ran mewn gyrru a beicio modur oddi ar y ffordd yn ystod 2016/17 (Arolwg Cenedlaethol, 2017). Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau annog defnydd cerbydau modur adloniadol cyfrifol, ac rydym yn gweithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon modur i ddarparu mynediad i ddigwyddiadau mwyaf adnabyddus Cymru.
Diffiniad
Yma, eglurwn y gwahanol fathau o ddefnydd cerbyd modur adloniadol:
- Unigolion - Gyrwyr / beicwyr unigol
- Grwpiau cysylltiedig - Clybiau modur sy’n gysylltiedig â chyrff llywodraethu cenedlaethol
- Digwyddiadau neu grwpiau masnachol - Ralïau tractor, saffarïau Land Rover a ralïau hen geir
- Digwyddiadau cystadleuol - Ralïau, rasys dal ati a dringo bryniau
Sylwch: Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu defnydd o gerbydau modur adloniadol dwy a phedair olwyn ond nid yw'n cwmpasu mynediad arall i gerbydau sydd ddim yn adloniadol, megis ar gyfer ffilmio a mynediad preifat.
Lle gallwch fynd heb ein caniatâd
Mae gyrru cerbyd modur adloniadol yn hawl gyfreithiol ar Gilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig (BOATs). Gallwch nodi’r llwybrau hyn ar y mapiau a gedwir gan yr Awdurdod Lleol.
Pryd y byddwch angen caniatâd gennym
- Byddwn yn ystyried ceisiadau gan grwpiau cysylltiedig i ddefnyddio'r rhannau o dir yr ydym yn eu rheoli nad ydynt yn BOATs.
- Bydd angen i ddigwyddiadau neu grwpiau masnachol ofyn am ein caniatâd i ddefnyddio unrhyw ran o dir a reolir gan CNC.
- Rhoddir caniatâd ar gyfer digwyddiadau cystadleuol trwy gyrff llywodraethu chwaraeon modur (yn unol â'n Huwch-Gytundebau). Fodd bynnag, dim ond rhannau o’n tir sy'n cael eu hystyried ar gyfer hyn.
Nodwch: ni fyddwn yn rhoi caniatâd i unigolion ddefnyddio ardaloedd lle nad oes hawl gyfreithiol iddynt gael mynediad. Dylai unigolion sy'n dymuno gyrru cerbyd modur adloniadol ar ein stad geisio cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp cysylltiedig.
Sut rydym yn cefnogi defnydd o gerbydau modur adloniadol
- Byddwn yn dilyn ein Hegwyddorion Arweiniol ar gyfer cynnwys y gymuned gyda thir rydym yn ei reoli.
- Rydym yn gweithio'n agos â Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol i alluogi digwyddiadau cystadleuol a reolir yn dda.
- Rydym yn ystyried lleoliad digwyddiadau proffil uchel yn ofalus, gan y gallant arwain at gynnydd mewn gweithgaredd anghyfreithlon oddi ar y ffordd.
- Rydym yn gweithio gyda'r heddlu a sefydliadau eraill i orfodi'r gyfraith pan fydd gweithgarwch oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn digwydd, er mwyn sicrhau bod ein tir bob amser yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel.
Beth fydd angen i chi ei wneud
- Dilynwch y Cod Cefn Gwlad, y Cod Defnyddwyr Llwybrau a rheolau corff llywodraethu cenedlaethol (Llawlyfr ACU a rheoliadau MSA) a chanllawiau perthnasol eraill (er enghraifft y cod ymddygiad TRF neu’r canllaw Tread Lightly).
- Os oes angen caniatâd arnoch ond heb ei gael, peidiwch â chynnal eich gweithgaredd.
Os ydych wedi cael ein caniatâd, bydd angen i chi hefyd:
- Sicrhau bod pob cerbyd a gyrrwr yn cwrdd â gofynion cyfreithiol statudol ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol a chyfreithiau traffig ffyrdd.
- Parchu defnyddwyr eraill y tir a reolir gan CNC. Gall unrhyw ymddygiad anghyfrifol neu anghymdeithasol ar lwybrau a rennir arwain at wrthdaro â defnyddwyr eraill a gallai fod yn risg i ddiogelwch y cyhoedd.
- Cadw at ein holl arwyddion. Mae tir a reolir gan CNC yn aml yn amgylchedd gwaith a gall methu â dilyn arwyddion diogelwch fod yn beryglus i yrwyr, beicwyr a rheolwyr tir.
- Dilyn ein canllawiau Cadwch ef yn Lân i ddiogelu rhywogaethau ymledol rhag lledaenu a bygythiadau bioddiogelwch. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae llwybrau'n mynd trwy gyrff dŵr neu ardaloedd mwdlyd.
- Gofalu nad ydych yn achosi erydiad neu’n niweidio llystyfiant, yn enwedig mewn ardaloedd sensitif fel coetir hynafol lled-naturiol, twyni tywod a chynefinoedd cors. Gall defnydd dwys hefyd ddifrodi wynebau llwybr, sy’n golygu nad yw pobl eraill yn gallu eu defnyddio. Hefyd, gall rhigoli llwybrau a ddefnyddir yn rheolaidd effeithio ar lif dŵr wyneb ac arwain at lifogydd a chynyddu’r gwaddodion ffo.
- Ceisio lleihau'r sŵn a wnewch trwy leddfu sain eich cerbyd cymaint ag y bo modd a dangos disgresiwn gyda'r throtl. Mae llygredd sŵn yn peri pryder i ddefnyddwyr a thrigolion eraill.
- Bod yn ofalus bob amser nad ydych yn amharu ar adar neu anifeiliaid. Maent yn arbennig o agored i niwed yn ystod y tymor bridio ac yn y gaeaf.
- Osgoi peri llygredd. Mae tanwydd yn gollwng o gerbydau sy’n gallu effeithio ar gyrsiau dŵr a gall defnydd dwys mewn rhai amgylcheddau hefyd effeithio ar ansawdd yr aer.
Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd
Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.
Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir
Pwy i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch wybod mwy ar y dolenni canlynol: