Gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol

Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Beth yw gweithgaredd gwaith hylosgi canolig neu eneradur penodol?

Dyma weithgareddau llosgi neu gynhyrchu ynni sy'n creu llygredd aer, ac maent yn gallu niweidio iechyd pobl a'r amgylchedd. Mae angen i ni reoli allyriadau i’r aer o sylffwr deuocsid (SO2), ocsidau nitrogen (NOx) a llwch.

Edrychwch isod er mwyn cael esboniad syml o waith hylosgi canolig a generadur penodol. Neu darllenwch y canllaw ar  weithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol am fanylion llawn.

Gwaith hylosgi canolig:

Mae hyn yn golygu unrhyw waith neu offer a ddefnyddir i losgi (hylosgi) deunyddiau, gan gynnwys gwastraff, â chyfradd mewnbwn thermol rhwng 1 a 50 megawat.

Generadur penodol:

Mae hyn yn golygu unrhyw waith hylosgi canolig a ddefnyddir i gynhyrchu trydan, ar safle lle mae cyfanswm y gyfradd mewnbwn thermol (at ei gilydd) yn is na 50 megawat. Fe'u rhennir yn gategorïau Tranche A a Tranche B, yn ddibynnol ar eu dyddiad cychwyn gweithredu neu’r math o gytundeb ar gyfer y cyflenwad trydan.

Oes angen trwydded gweithgaredd gwaith hylosgi canolig neu eneradur penodol arnaf?

Efallai na fydd angen trwydded arnoch os yw’r canlynol yn wir:

Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded os yw’r canlynol yn wir:

  • mae cyfradd mewnbwn thermol (th) eich gwaith hylosgi yn gyfartal ag neu'n fwy nag 1 megawat thermol ac yn llai na 50 megawat thermol, waeth beth fo'r math o danwydd, ac
  • nid ydych yn gweithredu gweithgaredd hylosgi neu eneradur penodol yn barod, ac felly nad yw cyfnodau pontio yn berthnasol ar eich cyfer

A ydwyf yn gymwys ar gyfer cyfnod pontio?

Os ydych yn cynnal gweithgaredd gwaith hylosgi canolig neu eneradur penodol eisoes, efallai bod gennych rywfaint o amser cyn y bydd angen i chi gydymffurfio â'r gofynion newydd.

Os ydych yn gweithredu o dan setiau rheolau safonol SR2009 Rhif 4, SR2012 Rhif 9, SR2012 Rhif 10, SR2012 Rhif 11 neu SR2012 Rhif 12, gallwch barhau i weithredu gyda'ch trwydded bresennol nes bod y cyfnod pontio perthnasol yn dod i ben. Bydd hyn naill ai yn 2024 neu 2029. 

Os byddwch am ddechrau cynnal gweithgaredd gwaith hylosgi canolig neu eneradur penodol, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd os nad oes gennych un yn barod neu wneud cais i newid eich trwydded gyfredol, fel eich bod yn gallu bodloni'r gofynion newydd.

Os nad ydych yn sicr ynglŷn ag a allwch chi fanteisio ar gyfnod pontio, neu pa gyfnod pontio sy'n berthnasol i chi, gofynnwch i ni am gymorth.

Pa fath o drwydded sydd ei angen arnaf?

Rydym yn cynnig wyth dewis o drwyddedau rheolau safonol ar gyfer gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig neu eneraduron penodol. Os gallwch fodloni'r meini prawf a nodir ar gyfer y set o reolau perthnasol a'r asesiad risg generig cysylltiedig, gallwch fanteisio ar opsiwn rheolau safonol. 

Os na allwch fodloni'r meini prawf ar gyfer opsiwn rheolau safonol, mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Sylwer ein bod wedi lleihau’r pellter sgrinio i 5 cilometr wrth benderfynu a yw asesiad yn angenrheidiol o allyriadau awyr ar safleoedd Cynefin ar gyfer Gweithfeydd Hylosgi Canolig/Generaduron Penodol sy’n rhedeg ar nwy naturiol neu ddiesel sylffwr isel. Wrth ddefnyddio tanwydd fel bio-nwy a nwy tirlenwi, erys y pellter sgrinio yr un fath, sef 10 cilometr.

Oes modd i mi gymhwyso ar gyfer trwydded rheolau safonol?

Er mwyn cymhwyso ar gyfer trwydded rheolau safonol, mae'n rhaid i chi fodloni:

  • rheolau (amodau) y set neu setiau o reolau perthnasol, a'r
  • ffyrdd o weithio sy'n cael eu nodi yn yr asesiad risg generig sy'n cyd-fynd â'r set neu setiau o reolau perthnasol

Mae'n rhaid i chi hefyd fod yn hyderus eich bod yn gallu dilyn y canllawiau ynglŷn â sut i gydymffurfio â'r drwydded amgylcheddol.

I weld p’un a oes opsiwn addas ar eich cyfer:

  • Edrychwch ar yr opsiynau rheolau safonol ar waelod y dudalen hon
  • Darllenwch drwy'r set lawn o reolau safonol a'r asesiad risg generig cysylltiedig yn ofalus

Mae'n rhaid i chi roi sylw at y cyfyngiadau ar leoliad a gweithredu.

Os ydych yn fodlon y gallwch fodloni'r gofynion, gallwch wneud cais am drwydded rheolau safonol gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a'r canllawiau ar waelod y dudalen hon. Cofiwch edrych hefyd ar y darn 'Pethau i'w hystyried cyn gwneud cais'.

Os nad ydych yn gallu bodloni'r holl gyfyngiadau a gofynion, bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Beth ddylwn i ei wybod cyn fy mod yn gwneud cais?

Mae'r ffurflenni cais a'r canllawiau yn dweud wrthoch chi pa adroddiadau, cynlluniau, asesiadau a gwybodaeth arall sydd eu hangen arnom. Bydd ein dogfennau canllaw ar drwyddedau amgylcheddol yn eich helpu i roi'r pethau hyn at ei gilydd.

Sicrhewch eich bod yn darllen yr holl ganllawiau perthnasol ar drwyddedu amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig neu eneraduron penodol cyn eich bod yn gwneud cais, a sut i gydymffurfio â'ch trwydded.

Os nad ydych yn sicr o hyd ynglŷn ag a oes angen trwydded arnoch, neu’r hyn sydd angen i chi ei wneud, gallwn eich helpu.

Sut allaf i wneud cais?

Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Cwblhau pob ffurflen gais berthnasol o'r adran lawrlwytho dogfennau ar waelod y dudalen hon
  • Cynnwys y ffi ymgeisio gywir gyda'r cais
  • Sicrhau eich bod yn anfon atom yr holl wybodaeth ategol sydd ei hangen arnom er mwyn asesu eich cais

Bydd canllawiau’r ffurflenni cais yn eich helpu. Sicrhewch eich bod yn eu darllen pan fyddwch yn llenwi’r ffurflenni. Os na fyddwch yn anfon atom yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, bydd yn cymryd mwy o amser i asesu eich cais.

Faint o amser sydd ei angen i brosesu cais am drwydded?

Tri mis yw'r canllaw cyfreithiol ar gyfer asesu ceisiadau rheolau safonol ac ildiadau. Mae'n bedwar mis ar gyfer ceisiadau pwrpasol, ac mae'n cymryd dau fis i drosglwyddo deiliad y drwydded. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen i ni ofyn i chi am fwy o wybodaeth.

Bydd yr amser yn dechrau pan fyddwn yn eich hysbysu bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom. Mae'r wybodaeth sydd ei hangen arnom wedi'i nodi yn y ffurflenni cais a'r canllawiau cysylltiedig.

Edrychwch ar ein lefelau gwasanaeth am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r hyn y gallwch ei ddisgwyl oddi wrthym.

Sut allaf gael cymorth a chyngor?

Darllenwch ganllawiau’r ffurflenni cais cyn eich bod yn llenwi'r ffurflenni. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Darllenwch y canllawiau amgylcheddol perthnasol ynglŷn â gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol cyn eich bod yn gwneud cais, ynghyd â sut i gydymffurfio â'ch trwydded.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynglŷn â gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig neu eneraduron penodol, neu os nad ydych yn sicr a allwch fanteisio ar gyfnod pontio, neu ba gyfnod pontio sy'n berthnasol ar eich cyfer, anfonwch e-bost atom yn mcpd.queries@naturalresourceswales.gov.uk

Os oes angen mwy o help arnoch, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio. Efallai y codir tâl ar gyfer hwn. Gallwch siarad â'ch swyddog cydymffurfiaeth â thrwyddedau os oes gennych un yn barod. Os nad ydych yn sicr ynglŷn â phwy yw hwn, neu os nad oes eisoes gennych un, cysylltwch â ni.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf