Ffurflenni cais Trwydded Forol

Diweddariad Coronafirws (gyda BACS)

 

Mae ein staff bellach yn gweithio gartref cyn belled ag y bo modd. Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn ffurflenni cais papur ar hyn o bryd. Byddwch yn gallu anfon ffurflenni drwy e-bost ac os bydd angen, gallwch wneud taliadau trwy BACS.

 

Bydd arnoch angen Microsoft Word 2010 neu gyfwerth i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

 

Er ein bod yn gobeithio sicrhau fod hyn yn amharu gyn lleied ag sydd bosibl arnoch, cofiwch y gallai’r amser prosesu fod yn hwy yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid.

 

Darganfyddwch fwy am ein hymateb i’r Coronafeirws.

Sut i wneud cais am Drwydded Forol

Mae angen trwydded ar rai gweithgareddau morol o dan Ddeddf Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

I wneud cais am drwydded, llenwch y ffurflen berthnasol o waelod y dudalen hon a’i hanfon atom, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ategol a’r ffi berthnasol.

Pa ffurflen gais ddylwn i ei defnyddio?

Mae yna 4 math o gais am drwydded forol:

  • Ffurflen gais Band 1 – ar gyfer gweithgareddau penodol sy’n cael eu hystyried yn risg isel, sy’n destun proses drwyddedu symlach. Darllenwch ddogfen ganllaw Band 1 cyn cyflwyno cais Band 1

  • Ffurflen Gais Carthu a Gwaredu – ar gyfer carthu a/neu weithrediadau gwaredu

  • Ffurflen Gais Mwynau Morol – ar gyfer echdynnu mwynau morol

  • Ffurflen gais Gwaith Morol – Ar gyfer unrhyw beth nad yw’n cael ei gynnwys yn y ffurflenni cais uchod. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i amddiffynfeydd arfordirol, prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth, defnydd buddiol o ddeunyddiau a garthwyd, ceblau tanfor, pontynau, glanfeydd, ymchwiliadau tir, adfer tir, a phibellau gollwng.

Beth ddylai gael ei chyflwyno fel gwybodaeth ategol?

Bydd pob cais Trwydded Forol yn cael ei asesu er mwyn i ni allu deall effeithiau tebygol y gweithgareddau arfaethedig, felly dylech roi gwybodaeth berthnasol i ni allu gwneud hyn.

Rhaid i'r ffurflen gais wedi'i llenwi ddod gyda chynllun lleoliad a, lle bo hynny'n briodol, llun(iau) disgrifiadol ac unrhyw asesiadau amgylcheddol ategol.

Rhaid i bob cais (ac eithrio ceisiadau am weithgareddau risg isel Band 1) gael ei ategu gan asesiad WFD (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr), a rhaid cwblhau dogfen Cynllun Morol cenedlaethol Cymru gan nodi sut mae’r prosiect yn cydymffurfio â’r polisïau. Dylai’r ceisydd gysylltu â’r Tîm Trwyddedu Morol trwyddedumorol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk I ofyn am dimpled am y ddogfen hon.

Yn ogystal, rhaid i gais Carthu a/neu Waredu gynnwys canlyniadau samplu a dadansoddi gwaddodion, ac asesiad risg bioddiogelwch. Gellir gofyn am dempled o asesiad risg bioddiogelwch ar gyfer gweithgareddau carthu yn ogystal â ffurflen ganlyniadau dadansoddi sampl gwaddodion gan y Tîm Trwyddedu Morol trwyddedumorol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Rhaid i geisiadau i gynaeafu neu dyfu anifeiliaid a phlanhigion dyfrol (gwymon neu bysgod cregyn) hefyd gynnwys:

  • Asesiad Risg Mordwyo (NRA) – cysylltwch ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Trinity House i helpu gyda hyn.  
  • Cynllun bioddiogelwch
  • Protocol Dal Mamaliaid Morol yn Anfwriadol – cysylltwch â’n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio i helpu gyda hyn.
  • Manylion unrhyw nodweddion safle gwarchodedig – cysylltwch â’n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio i helpu gyda hyn.
  • Tystiolaeth eich bod wedi ymgynghori â’r sefydliadau perthnasol i baratoi eich cais.

Efallai y bydd angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth neu asesiadau ychwanegol fel y gallwn ddeall effeithiau tebygol y gweithgareddau arfaethedig.

Gallai fod angen cydsyniad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) ar rai mathau o brosiectau lle mae’n bosibl y ceir effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Os yw’r gweithgareddau’n dod o dan y Rheoliadau Gwaith Morol (AEA) a bod angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ffurfiol, bydd disgwyl i chi gyflwyno Datganiad Amgylcheddol gyda’ch cais.

Sut ydw i’n cyflwyno cais trwydded forol?

Cwblhau y cais am drwydded forol band 1.

Gellir anfon ceisiadau’n electronig: permitreceiptcentre@ncyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Sawl copi sydd eu hangen?

Os gellir anfon y ffurflen gais a’r holl ddogfennau ategol yn electronig mewn e-bost sy'n 20MB neu’n llai, byddwn yn derbyn y cais trwy e-bost. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn am un copi caled o holl ddogfennau’r cais ar gyfer ein hadolygiad a’n cofnod ein hunain.

Os yw’r ffurflen gais a’r holl ddogfennau ategol yn rhy fawr i e-bost, byddem yn eich cynghori i gysylltu â ni er mwyn penderfynu ar y dull mwyaf priodol i gyflwyno’r cais. Efallai y bydd arnom angen copïau ychwanegol o'r cais am drwydded forol a dogfennau ategol at ddibenion ymgynghori. Gall y rhain fod yn gopïau caled neu'n gopïau CD. Byddem yn eich cynghori i gysylltu â ni cyn cyflwyno nifer fawr o gopïau caled er mwyn penderfynu ar y dull mwyaf priodol.

Ffioedd ymgeisio

Rhaid i'r ffi berthnasol ddod gyda’r ceisiadau. Gweler ein tudalen ffioedd a thaliadau i gael gwybodaeth am ein taliadau.

Ni fyddwn yn dechrau prosesu cais hyd nes y telir y ffi gywir.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf