Gwybodaeth am Safleoedd
Newidiadau pwysig i daliadau electronig: Mae ein manylion banc wedi newid.
Os ydych eisiau talu am eich trwydded neu gais drwy drosglwyddiad electronig defnyddiwch y wybodaeth isod i wneud eich taliad os gwelwch yn dda.
Enw Cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad Cwmni: Adran Incwm, PO BOX 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod Didoli: 60-70-80
Rhif y cyfrif: 10014438
Peidiwch â defnyddio'r manylion a roddir yn ein ffurflenni cais am drwydded os yr ydyn yn wahanol i'r rhai uchod.
Byddwn yn diweddaru ein ffurflenni cyn gynted ag y bo modd, ond defnyddiwch y wybodaeth newydd wrth wneud taliadau electronig o hyn ymlaen os gwelwch yn dda.
Nodyn: Mae ffurflenni cais ar gyfer defnyddio offer gwastraff symudol wedi cael eu diweddaru gyda’r wybodaeth newydd.
Gwneud taliadau o du allan y DU
Mae’r manylion hyn wedi newid.
Os ydych yn gwneud eich taliad o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (y mae'n rhaid ei dderbyn yn sterling), ein rhif IBAN yw GB70 NWBK 6070 8010 014,438 a'n rhif SWIFT / rhif BIC yw NWBKGB2L.
Anfonwch eich manylion talu atom drwy ebost
Ebostiwch eich manylion talu a manylion math o daliad (fel ‘Amrywiad Gwastraff’ neu ‘Ansawdd Dwr Newydd’) i banking.team@naturalresourceswales.gov.uk neu banking.team@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu gallwch ffacsio 0300 065 3001.
Mae rhaid cynwys eich enw cwmi ac rhif anfoneb. Lle mae’n bossib, dylech hefyd gyflwyno hysbysiad talu. Bydd hyn yn sicrhau prosesu cywir o’ch taliad.
Dylech dal gynnwys y cyfeirnod taliad BACS ar y ffurflen gais ei hun.
Os nad ydych yn dyfynnu eich rhif cyfeirnod taliad, efallai y bydd oedi wrth brosesu eich taliad a chais.
Beth yw Safle neu Weithfa?
Cyflwynwyd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 ar 6 Ebrill 2010, gan ddisodli Rheoliadau 2007.
Yn 2007, roedd y Rheoliadau'n cyfuno'r rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd a Thrwyddedu Rheoli Gwastraff. Maen nhw wedi cael eu hehangu i gynnwys gweithgareddau gollwng dŵr a dŵr daear, sylweddau ymbelydrol a darpariaeth ar gyfer nifer o Gyfarwyddebau, yn cynnwys y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio.
Caiff safleoedd neu weithfeydd eu diffinio yn Rhan 2 Atodlen 1 y Rheoliadau a cheir rhestr o weithgareddau sy'n sail i safleoedd. Maen nhw’n cynnwys gweithgareddau Rhan A(1) rydym yn eu rheoleiddio a gweithgareddau Rhan A(2) a Rhan B sy'n cael eu rheoleiddio gan awdurdodau lleol. Gweithgareddau a nodir yn y Gyfarwyddeb Atal a Rheoli Llygredd Integredig yw gweithgareddau Rhan A fel rheol, er nid bob amser.
Safle neu weithfa yw unrhyw uned dechnegol sefydlog lle cynhelir un neu fwy o'r gweithgareddau a restrir yn Atodlen 1 ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig uniongyrchol (Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 1). Diffinnir safleoedd gan y penodau canlynol:
- Pennod 1: Ynni: gweithgareddau hylosgi, nwyeiddio, hylifo a phuro
- Pennod 2: Metelau: metelau fferrus, metelau anfferrus, metelau trin arwynebau a deunyddiau plastig
- Pennod 3: Mwynau: cynhyrchu sment a chalch, gweithgareddau asbestos, gweithgynhyrchu gwydr a gwydr ffibr, mwynau eraill, cerameg
- Pennod 4: Cemegion: organig, anorganig, cynhyrchu gwrtaith, cynhyrchion iechyd planhigion a bioladdwyr, cynhyrchu fferyllol, cynhyrchu ffrwydron, gweithgynhyrchu gyda charbon deusylffid neu amonia, storio mewn swmp
- Pennod 5: Rheoli gwastraff: llosgi a chyd-losgi gwastraff, safleoedd tirlenwi, mathau eraill o waredu gwastraff, adfer gwastraff, a chynhyrchu tanwydd o wastraff
- Pennod 6: Arall: cynhyrchu papur, mwydion a bwrdd, carbon, tar a bitwmen, gweithgareddau araenu, triniaethau tecstilau ac argraffu, deunydd llifo, pren, rwber, diwydiannau bwyd, ffermio dwys, y Gyfarwyddeb Allyriadau Toddyddion
Oes angen trwydded safle ar eich gweithgarwch chi?
Os yw'ch gweithgarwch yn perthyn i un o'r penodau hyn, mae angen trwydded. Os hoffech ragor o gyngor, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000
Noder
Bydd y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Diwydiannol yn disodli saith Cyfarwyddeb gyfredol (Atal a Rheoli Llygredd Integredig, Safle Hylosgi Mawr, Llosgi Gwastraff, Titaniwm Deuocsid (tair cyfarwyddeb) a Gollyngiadau Toddyddion) gydag un drefn ddeddfwriaethol gydlynol. Bydd yn gwella manteision amgylcheddol a bydd yn fwy eglur, gan gael gwared ar amwysedd ac anghysondeb ar draws y Gymuned Ewropeaidd.
Bydd y Gyfarwyddeb newydd yn cynnwys gofynion newydd ar gyfer y safleoedd a ganiateir gennym a bydd yn arwain at nifer o safleoedd newydd o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Hefyd, mae'n bosib y bydd rhai safleoedd sy'n cael eu rheoleiddio dan y Gyfarwyddeb Atal a Rheoli Llygredd yn y DU (ac nid yng ngweddill Ewrop) yn cael eu dadreoleiddio.