Trwydded ar gyfer Cynhyrchu Hydrogen trwy electrolysis
Mae angen trwydded ar bob math o gynhyrchu hydrogen yn fasnachol.
Os ydych yn cynhyrchu Hydrogen drwy electrolysis a'ch bod yn bodloni'r amodau priodol isod, gallwch wneud cais ar-lein.
Bydd angen i chi ddarparu llai o wybodaeth a byddwn yn prosesu eich cais yn gyflymach.
Pryd allwch chi ddefnyddio'r broses caniatau cyflym?
Gallwch ddefnyddio'r broses caniatáu cyflym os yw'r hydrogen yn cael ei gynhyrchu gan:
- Pilen electrolyt polymer
- Pilen cyfnewid protonau
- Electroleiddwyr alcalïaidd gad defnyddio Potasiwm Hydrocsid neu Sodiwm Hydrocsid
a
Rydych chi'n defnyddio trydan o
- cynhyrchu ynni cynaliadwy
- y grid cenedlaethol neu
- cynhyrchu trydan ar safle gyda trwydded amgylcheddol
Rydych yn tynnu llai na 20m3 o ddŵr wyneb y dydd neu eisoes â chaniatâd i dynnu dŵr wyneb o gyfaint uwch.
Mae'r holl ddŵr gwastraff yn cael ei ollwng i garthffos neu ei gasglu i'w waredu oddi ar y safle.
Ni fyddwch yn cynhyrchu mwy nag 1 tunnell o wastraff nad yw'n beryglus neu 10 kg o wastraff peryglus y dydd.
Nid ydych yn storio mwy nag 1 tunnell o hydrogen ar unrhyw un adeg.
Dogfennau y bydd angen i chi eu darparu
- Map o'r safle
- Cytundeb ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer unrhyw ollyngiad i garthffos
- Os ydych yn storio sylweddau peryglus, adroddiad sylfaenol
- Arolwg o gyflwr y safle
- Trosolwg o'ch System Rheoli Amgylchedd
- Tystiolaeth o'r caniatâd tynnu dŵr os yw'n berthnasol
Os byddwch yn ateb y cwestiynau yn y ffurflen gais ac yn talu'r ffi sy'n ofynnol, bydd eich cais yn symud i ymgynghoriad ar unwaith. Bydd y drwydded yn cael ei rhoi yn dilyn ymgynghoriad.