Trwyddedau amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau perygl llifogydd

Trwydded gweithredoedd risg llifogydd

Bydd angen trwydded gweithgarwch perygl llifogydd arnoch, a alwyd yn gydsyniad amddiffyn rhag llifogydd yn flaenorol, pe byddwch am wneud gwaith yn y lleoedd canlynol:

  • ar neu'n agos at brif afon
  • ar neu'n agos at adeiledd amddiffyn rhag llifogydd
  • ar neu'n agos at amddiffynfa rhag y môr
  • mewn gorlifdir

Mae angen cael caniatâd hefyd er mwyn sicrhau na fydd y gwaith yn ymyrryd â'n hasedau rheoli perygl llifogydd nac yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, pysgodfeydd neu fywyd gwyllt.

Gallech fod yn torri'r gyfraith os byddwch yn dechrau’r gwaith heb gael y drwydded sydd ei hangen arnoch.

Gwiriwch a yw'r gweithgaredd yn agos at brif afon

Bydd angen trwydded arnoch i weithio ar neu'n agos at brif afon. Defnyddiwch ein map o brif afonydd isod i wirio'r afon dan sylw: 

(Mae'r map yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ar gael fersiwn Gymraeg)

Ddim yn agos at brif afon

Ni fydd angen trwydded perygl llifogydd arnoch i weithio ar gwrs dŵr cyffredin – fel arfer afonydd bach, nentydd a ffosydd. Ond dylech gysylltu â'ch awdurdod cyfrifol er mwyn gwneud cais am ganiatâd cwrs dŵr cyffredin.

Os yw'r gwaith rydych yn ei gynllunio mewn Ardal Draenio Mewnol, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd draenio tir.

Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw'r cwrs dwr yn brif afon, yn gwrs dwr cyffredin, neu'n rhan o Ardal Draenio Mewnol

Gweithgareddau y mae angen trwydded amdanynt

Bydd angen i chi wneud cais am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd cyn gwneud y gwaith dros dro neu barhaol a ganlyn:

  • codi unrhyw adeiledd mewn, dros neu o dan brif afon
  • gwneud unrhyw waith o ran addasu neu atgyweirio unrhyw adeiledd mewn, dros neu o dan brif afon os yw'r gwaith yn debygol o gael effaith ar lif y dŵr yn y brif afon neu gael effaith ar unrhyw waith draenio
  • codi neu addasu unrhyw adeiledd sydd wedi'i ddylunio i gadw neu ddargyfeirio llifogydd unrhyw ran o brif afon
  • unrhyw waith i garthu, codi neu gymryd unrhyw dywod, silt, balast, clai, graean neu ddeunyddiau eraill sydd ar wely neu lannau prif afon (neu lle achosir i ddeunyddiau o'r fath gael eu carthu, eu codi neu eu cymryd), gan gynnwys carthu hydrodynamig a dadsiltio
  • unrhyw weithgarwch sy'n debygol o ddargyfeirio cyfeiriad llif y dŵr i mewn i brif afon neu allan ohoni, neu sy'n newid lefel y dŵr mewn prif afon
  • unrhyw weithgarwch sydd o fewn wyth metr i afon nad yw'n llanwol, neu o fewn wyth metr i adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno o unrhyw weithgarwch sydd o fewn 16 o fetrau i brif afon lanwol, neu o fewn 16 o fetrau i adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno, sy'n debygol o achosi'r canlynol:
    • difrodi neu beryglu sefydlogrwydd glannau'r afon honno neu lannau unrhyw gwlfer
    • difrodi unrhyw waith i reoli’r afon
    • addasu unrhyw waith i reoli’r afon, ei ailadeiladu, ei ddirwyn i ben neu ei dynnu i ffwrdd
    • dargyfeirio neu rwystro llifogydd, neu gael effaith ar ddraenio'r afon honno
    • ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r afon ac ar ei hyd
  • unrhyw weithgaredd (heblaw gweithgaredd a ganiateir (gweler isod am ddiffiniad)) mewn gorlifdir sydd:
    • yn fwy nag wyth metr o brif afon nad yw'n llanwol, neu’n fwy nag 16 o fetrau o brif afon lanwol
    • yn fwy nag wyth metr o unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar brif afon nad yw'n llanwol
    • yn fwy nag 16 o fetrau o unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar brif afon lanwol sy'n debygol o ddargyfeirio neu rwystro llifogydd, difrodi unrhyw waith i reoli’r afon neu gael effaith ar ddraenio
  • unrhyw weithgaredd sydd o fewn 16 o fetrau o sylfaen amddiffynfa rhag y môr sy'n debygol o achosi'r canlynol:
    • peryglu sefydlogrwydd yr amddiffynfa rhag y môr honno, ei difrodi, neu leihau ei heffeithiolrwydd
    • ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r amddiffynfa rhag y môr honno, ac ar ei hyd
  • unrhyw weithgaredd o fewn wyth metr i sylfaen amddiffynfa anghysbell sy'n debygol o achosi'r canlynol:
    • peryglu sefydlogrwydd yr amddiffynfa honno, ei difrodi, neu leihau ei heffeithiolrwydd
    • ymyrryd â mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r amddiffynfa honno, ac ar ei hyd
  • unrhyw waith chwarela neu gloddio o fewn 16 o fetrau i sylfaen amddiffynfa anghysbell sy'n debygol o ddifrodi'r amddiffynfa honno, neu beryglu ei sefydlogrwydd
  • unrhyw waith chwarela neu gloddio o fewn 16 o fetrau i brif afon neu unrhyw adeiledd amddiffyn rhag llifogydd neu gwlfer ar yr afon honno sy'n debygol o ddifrodi neu beryglu sefydlogrwydd glannau'r afon honno

Gweithgareddau nad oes angen trwydded amdanynt

Esemptiadau

Nid oes angen i chi wneud cais am drwydded os yw eich gweithgaredd yn bodloni disgrifiad ac amodau un o'r gweithgareddau perygl llifogydd sydd wedi'i esemptio. Ond bydd angen i chi gofrestru eich esemptiad cyn dechrau gwaith.

Gellir cofrestru esemptiad yn rhad ac am ddim.

Eithriadau

Nid oes angen i chi gael caniatâd os ydych yn bwriadu gwneud un o'r gweithgareddau sydd wedi'u heithrio. Ond bydd yn rhaid i chi weithredu dan ddisgrifiad ac amodau'r eithriad.

Gwneud cais am drwydded neu gofrestru esemptiad

Ceir dwy ffordd o gael caniatâd cyn dechrau gweithio, fel a ganlyn:

Os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded arnoch, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Newid, trosglwyddo neu ddiddymu trwydded

Unwaith y bydd trwydded gennych, gallwch wneud cais i newid (amrywio), trosglwyddo neu ddiddymu (ildio) eich trwydded.

Gwneud gwaith brys

Rhowch wybod i ni os oes angen i chi wneud unrhyw waith brys mewn ymateb i ddigwyddiad heb ei gynllunio sy'n cyflwyno: 

  • perygl o lifogydd difrifol i eiddo
  • effaith andwyol ddifrifol ar ddraenio
  • niwed difrifol i'r amgylchedd
  • perygl difrifol i ddiogelwch y cyhoedd

Mae angen i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bo'n ymarferol (drwy'r cyfeiriadau e-bost isod) ac egluro pa weithgareddau sydd wedi'u cynnal a'r amgylchiadau:

Ni chaiff gweithgaredd a gynllunnir ymlaen llaw ac sydd wedi'i gynllunio mewn ymateb i argyfwng cyn iddo ddigwydd ei ystyried yn waith brys.

Diweddarwyd ddiwethaf