Bydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded bwrpasol os byddwch yn gweithio ar neu'n agos at brif afon ac nad yw'r gweithgareddau'n cyfateb ag unrhyw esemptiadau neu eithriadau.

Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol cyn dechrau gwaith.

Gwneud cais am drwydded bwrpasol

Bydd rhaid i’ch cais gynnwys y canlynol o leiaf:

  • cynlluniau sy'n dangos lleoliad eich gwaith
  • darluniau manwl sy'n dangos yr hyn rydych am ei wneud, ynghyd ag unrhyw gyfrifiadau
  • manylion o fesurau rheoli llifogydd a'r amgylchedd

Efallai y bydd angen gwybodaeth arall i gefnogi eich cais a bydd hyn yn dibynnu ar fanylion y gweithgaredd arfaethedig. Cysylltwch â ni cyn cyflwyno eich cais os nad ydych yn siŵr pa wybodaeth ychwanegol a allai fod yn angenrheidiol.

Bydd angen i geisiadau am waith dros dro hefyd gynnwys datganiad dull gyda manylion o sut y caiff y gwaith ei wneud ac unrhyw fesurau diogelu/lliniaru amgylcheddol a fydd ar waith.

Taliadau

Bydd y swm y mae angen i chi ei dalu yn amrywio gan ddibynnu ar y math o weithgaredd a’r lleoliad.

Mae'r taliadau wedi’u categoreiddio yn ôl 3 band:

  • Isel - £270
  • Canolig - £360
  • Uchel - £540

Efallai y bydd gostyngiadau ar gael yn achos gweithgareddau llifogydd lluosog, a cheisiadau lle rydym eisoes wedi ystyried y cynnig gweithgarwch perygl llifogydd yng nghyfnod y cais cynllunio.

Bydd eich taliadau'n cael eu cyfrifo pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais a byddwn yn trefnu’r dull talu gyda chi.

Sylwer:

  • caiff taliadau eu diwygio o bryd i'w gilydd
  • nid oes dim TAW yn cael ei hychwanegu at y taliadau a godir am eich cais

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein cynllun codi tâl.

Ar ôl i chi wneud cais

Pan fyddwn yn derbyn eich cais am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd, byddwn yn gwirio'r canlynol:

  • eich bod wedi cwblhau eich cais yn gywir
  • eich bod wedi cyflwyno'r wybodaeth ategol angenrheidiol
  • eich bod wedi cyflwyno'r taliad cywir am y cais

Byddwn yn eich hysbysu os bydd unrhyw beth ar goll.

Pan fydd eich cais yn bodloni'r gofynion hyn, ystyrir bod eich ffurflen gais ‘wedi'i gwneud yn briodol’.

Penderfyniad ynghylch eich cais

Wrth wneud ein penderfyniad, byddwn yn ystyried a yw eich gwaith arfaethedig yn debygol o gael effaith ar berygl llifogydd, draenio tir a'r amgylchedd ehangach. Byddwn hefyd yn ystyried deddfwriaeth arall, er enghraifft y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Dylech gofio nad yw derbyn caniatâd yn cadarnhau'r canlynol:

  • bod eich cynigion wedi'u cynllunio'n gadarn
  • bod eich cynigion yn cydymffurfio â deddfwriaeth arall, fel deddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • bod gennych ganiatâd i wneud gwaith ar dir neu afonydd nad ydych yn berchen arnynt

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn caniatáu neu wrthod ceisiadau ymhen dau fis o ddyddiad derbyn eich cais.

Os ystyrir bod eich cais yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd, byddwn yn caniatáu neu wrthod ceisiadau ymhen pedwar mis.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Os byddwn yn gwrthod eich cais am drwydded, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi rhesymau dros ein penderfyniad.

Gallwch apelio os ydych o'r farn fod y canlynol yn berthnasol:

  • bod y caniatâd wedi'i ddal yn ôl yn afresymol
  • neu os yw'r drwydded wedi'i chaniatáu ond gydag amodau sy'n amhriodol yn eich barn chi

Cysylltwch â ni os ydych am gael mwy o wybodaeth am y broses apelio.

Diweddarwyd ddiwethaf