Gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwydded amgylcheddol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwasanaeth cynghori un i un i'ch helpu i ddeall gofynion cyfreithiol wrth ymgymryd â gweithgareddau penodol ac i gynorthwyo gyda'r broses ymgeisio.

Mae dwy awr gyntaf y cyngor yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim. Codir tâl am unrhyw gyngor dilynol sydd ei angen ar gyfradd o £125 + TAW yr awr.

Nid yw'r gwasanaeth yn orfodol ac mae ffynonellau cyngor eraill, ac yn eu plith ymgynghoriaethau sector preifat, cyhoeddus neu academaidd, ar gael.

Sut i gael mynediad i'r gwasanaeth


Cyflwynwch y ffurflen ‘cais am gyngor’ i'n canolfan derbyn trwyddedau fydd yn neilltuo person cyswllt y gallwch siarad ag ef/hi am eich gweithgaredd arfaethedig.

Meysydd eraill rydym yn cynnig cyngor cyn ymgeisio amdanynt

Mae cyngor cyn gwneud cais am drwyddedau a hawlenni eraill ar gael:

  • Trwyddedau cwympo coed
  • Trwyddedau morol
  • Gweithgareddau perygl llifogydd
  • Adnoddau dŵr

Os nad yw'r gweithgaredd rydych yn ceisio cyngor yn ei gylch wedi'i gynnwys, anfonwch e-bost i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio

Gall CNC ddarparu cyngor ar eich gweithgaredd a'ch safle penodol, er mwyn eich helpu chi i:

  • deall a oes angen unrhyw ganiatâd (hawlenni, trwyddedau, awdurdodiadau ac ati) oddi wrthym ni, ar gyfer eich gweithgaredd
  • paratoi cais neu gyflwyniad safonol ar gyfer y caniatâd sydd ei angen

Ni fyddwn yn rhoi unrhyw gyngor neu wasanaeth a allai fod yn ‘rhag-gyflyru’ neu'n gwneud niwed i ddyfarniad cyn i’r cais hwnnw gael ei gyflwyno. Mae hyn yn golygu na allwn:

  • paratoi adroddiadau ar gyfer ymgeiswyr, neu
  • cynnal rhagasesiadau o wybodaeth a ddylai fod yn rhan o'r cais ffurfiol

Rhaid gwneud hyn fel rhan o ddyfarniad technegol y cais. Dim ond ar ôl i ni fod yn fodlon bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi'i chyflwyno y gallwn ddyfarnu cais a’i dderbyn yn ffurfiol.

Oes rhaid i chi ddilyn y cyngor sy’n cael ei roi?

Mae ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio yno i ddarparu cyngor yn unig. Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar y ffordd orau o weithredu ar y cyngor hwn ynglŷn â chais.

Nid yw cyflwyno cais yn seiliedig ar ein cyngor yn warant y rhoddir hawlen, trwydded neu awdurdodiad.

Ni allwn fod yn gyfrifol am benderfyniadau a wneir gan gyrff eraill fydd â ffactorau eraill i'w hystyried ochr yn ochr â'n cyngor ni.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf