Taliadau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Sylwch fod y taliadau hyn yn berthnasol o 01 Ionawr 2022 a'u bod wedi'u cynyddu o 21% ar gyfer 2022-23 i wneud iawn am ddileu gostyngiad ariannol â chyfyngiad amser.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch taliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau rhwng 1 Ionawr 2021 a 1 Gorffennaf 2021, cysylltwch â ni drwy: ghghelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gosodiadau sefydlog

Mae gosodiadau fel gorsafoedd pŵer, purfeydd olew a phlatfformau alltraeth, yn ogystal â diwydiannau sy'n cynhyrchu haearn a dur, sment a chalch, papur, gwydr, cerameg a chemegion, yn cael eu dosbarthu fel gosodiadau sefydlog.

Taliadau parhau ar gyfer gosodiadau sefydlog

Mae'r tâl parhau yn daladwy bob blwyddyn ac mae'n seiliedig ar eich allyriadau. Mae'n cwmpasu'r costau canlynol:

  • adolygiad o adroddiadau allyriadau blynyddol sydd wedi’u dilysu a deunydd cysylltiedig
  • adolygiad o adroddiadau ar lefelau gweithgarwch sydd wedi’u dilysu
  • parhau eich trwydded
  • parhau eich defnydd o Gofrestrfa’r DU
  • prosesu hysbysiadau
  • delio ag amrywiadau gweinyddol neu fân amrywiadau i gynlluniau monitro a chynlluniau methodoleg monitro
  • archwiliadau cydymffurfiaeth
  • darparu desg gymorth

Taliadau parhau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gosodiadau sefydlog yng Nghymru:

Categori’r gosodiad Tâl parhau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Cat C – Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£3,946

Cat B – Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£3,452

Cat A – Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£1,973

Ysbyty neu allyrrwr bach

£493

Os ydych yn ymuno â Chynllun Masnachu Allyriadau'r DU rhan o'r ffordd trwy flwyddyn, codir cyfran o'r tâl parhau arnoch yn ôl nifer y dyddiau sy'n weddill yn y flwyddyn. Bydd y cyfrifiad yn cychwyn o'r dyddiad y rhoddir neu y trosglwyddir eich trwydded.

Os byddwch yn ildio eich trwydded, neu os caiff ei dirymu, a bod hyn yn digwydd rhan o'r ffordd trwy flwyddyn, byddwn yn ad-dalu cyfran o'r tâl parhau blynyddol rydych wedi'i dalu. Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar nifer y dyddiau sydd ar ôl yn y flwyddyn.

Gwneud cais am drwydded newydd

Rydych yn talu hyn wrth i chi wneud cais am drwydded newydd.

Taliadau trwyddedau newydd Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gosodiadau sefydlog yng Nghymru:

Categori’r gosodiad Tâl Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer trwydded newydd

Cat C – Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£3,946

Cat B – Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£2,959

Cat A – Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£1,973

Ysbyty neu allyrrwr bach

£1,973

Ceisiadau am newidiadau i drwyddedau cyfredol

Mae'r taliadau hyn yn berthnasol pan fydd angen i ni gynnal asesiad technegol o'ch cais er mwyn amrywio eich trwydded. Fodd bynnag, ni chodir tâl am bob amrywiad trwydded, ac os byddwn o'r farn bod yr amrywiad yn golygu newid gweinyddol neu fân newid, ni fydd angen i chi dalu.

Yr un swm fydd y tâl ar gyfer trosglwyddo p'un a fyddwch am drosglwyddo’ch trwydded gyfan ynteu ran ohoni, a bydd yn ddaladwy gan naill ai'r trosglwyddwr neu'r trosglwyddai (ond nid y ddau).

Yr un swm fydd y tâl ar gyfer ildio neu ddirymu trwydded p'un a fyddwch yn gwneud cais i ildio’ch trwydded neu cyflwynwn rybudd ein bod yn dirymu eich trwydded. Yn achos yr olaf, anfonwn anfoneb atoch.

Os ydych yn ysbyty neu osodiad allyrrwr bach a'ch bod yn gwneud cais i gynyddu eich targed allyriadau yn dilyn cynnydd mewn gallu, bydd yn ofynnol i chi dalu ffi er mwyn adfer y gost o amrywio’ch trwydded.

Os yw'r wybodaeth rydych yn ei hanfon atom gyda'ch cais yn anghywir neu anorffenedig, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl pellach.

Taliadau am newidiadau i drwyddedau presennol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gosodiadau sefydlog yng Nghymru:

Math o newid i'r drwydded Tâl Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Amrywiadau trwydded lle telir ffi wrth gyflwyno cais

£986

Amrywio trwydded heb gyflwyno cais

£986

Amrywio trwydded (diddymu statws eithriedig)

£986

Cynyddu targed allyriadau

£1,973 

Trosglwyddo trwydded

£1,973 

Ildio trwydded

£1,973 

Dirymu trwydded

£1,973 

Cronfa newydd-ddyfodiaid

£2,959

Os ydych yn ansicr a oes rhaid i chi dalu tâl amrywio, anfonwch e-bost at GHGHelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gweithredwyr awyrennau

Diffinnir unrhyw unigolyn sy'n gweithredu awyren pan fydd yn hedfan fel gweithredwr awyrennau.

Tâl parhau ar gyfer gweithredwyr awyrennau

Mae'r tâl parhau yn daladwy bob blwyddyn ac yn cynnwys costau:

  • parhau eich lle fel gweithredwr awyrennau yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU
  • prosesu hysbysiadau
  • parhau eich defnydd o Gofrestrfa’r DU
  • delio ag amrywiadau gweinyddol neu fân amrywiadau i gynlluniau
  • archwilio cydymffurfiaeth
  • darparu desg gymorth a datrys problemau

Mae'r tâl parhau yn cynnwys dwy ran. Mae'n cynnwys elfen o dâl sefydlog o'r enw tâl sylfaenol. Byddwch yn talu hwn os ydych yn cynnal gweithgareddau hedfan am unrhyw ran o'r flwyddyn gydymffurfio. Mae'r tâl sylfaenol yn ddibynnol ar eich allyriadau.

Taliadau parhau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gweithredwyr awyrennau yng Nghymru:

Categori gweithredwr awyrennau Tâl sylfaenol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£2,472

Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£2,012

Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£1,551

Os ydych yn cymhwyso fel gweithredwr awyrennau yn y DU rhan o'r ffordd trwy flwyddyn gydymffurfio, codir tâl pro rata arnoch yn seiliedig ar nifer y dyddiau sy'n weddill yn y flwyddyn. Bydd y tâl yn cychwyn o'r dyddiad sydd ar eich cynllun allyriadau, nid o'r dyddiad y gwnaethoch gais am y cynllun.

O fewn unrhyw flwyddyn galendr unigol, os bydd eich cynllun allyriadau yn cael ei atal a'i ailgychwyn eto yng nghanol y flwyddyn, ni fydd rhan amrywiol eich tâl yn cael ei haddasu.

Bydd angen i chi hefyd dalu tâl amrywiol a fydd yn dibynnu ar hyd y cyfnod y mae cynllun allyriadau wedi bod ar waith gennych yn ystod blwyddyn gydymffurfio.

Taliadau newidiol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gweithredwyr awyrennau yng Nghymru

Categori gweithredwr awyrennau Tâl newidiol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Yn allyrru mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£824

Yn allyrru o leiaf 50,000 o dunelli a dim mwy na 500,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£671

Yn allyrru llai na 50,000 o dunelli o CO2e y flwyddyn

£509

Ceisiadau am drwyddedau ac amrywiadau iddynt ar gyfer gweithredwyr awyrennau

Ni chodir tâl am bob amrywiad trwydded, ac os byddwn o'r farn bod yr amrywiad yn golygu newid gweinyddol neu fân newid yn unig, ni fydd angen i chi dalu ffi. Efallai y codir y tâl amrywio cynllun allyriadau hefyd os ydym wedi cyflwyno hysbysiad amrywio i chi.

Mae'r cais am y Gronfa Arbennig hefyd yn cynnwys cost eich cais ar gyfer eich cynllun meincnodi.

Taliadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau, ac amrywiadau iddynt, Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer gweithredwyr awyrennau yng Nghymru

Math o gais am drwydded Tâl Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Cais am gynllun allyriadau

£606

Amrywiad cynllun allyriadau

£347

Cais am gynllun meincnodi

£671

Cais am y Gronfa Arbennig

£905

Os nad ydych yn sicr a oes angen i chi dalu tâl amrywiad, anfonwch e-bost at: GHGHelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Elfennau cyffredin taliadau

Taliadau pro rata ar gyfer ffioedd parhau

Pan roddir trwydded rhan o'r ffordd trwy'r flwyddyn, caiff y taliadau eu cyfrifo ar sail pro rata ar gyfer y cyfnod sy'n weddill hyd at ddiwedd y flwyddyn.

Cynnydd yn chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu

Bob blwyddyn, gall CNC gynyddu taliadau hyd at (ac yn cynnwys) chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu yn unol â'r cynnydd ym mesuriadau chwyddiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 30 Medi yn y flwyddyn uniongyrchol flaenorol. Byddai cynnydd y tu hwnt i'r mynegai prisiau manwerthu ond yn digwydd wedi i ni gynnal ymgynghoriad ar newidiadau o'r fath a'n bod wedi derbyn cymeradwyaeth gan weinidogion i wneud hynny.

Cyfradd yn ôl yr awr

Bydd y gyfradd yn ôl yr awr o £151 yn cael ei chodi ar gyfer unrhyw waith trwyddedu atodol.

Diweddarwyd ddiwethaf