Canllaw ar gyfer nodi a boddhau sensitifeddau wrth gynhyrchu cynlluniau creu coetir.

Cyfeirnod: NC002

Perchennog y ddogfen: Bwrdd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

Beth sydd dan sylw yn y ddogfen hon?

Sut i nodi a mynd i'r afael â sensitifeddau posibl a mwyhau'r posibilrwydd o gynllun plannu Creu Coetir Glastir yn cael ei wireddu'n llwyddiannus.

Ar gyfer pwy mae'r ddogfen hon?

Cynllunwyr coetir cofrestredig sydd â'r dasg o gynhyrchu cynlluniau ar gyfer ceisiadau Creu Coetir Glastir, yn dilyn mynegiad o ddiddordeb llwyddiannus.

Cyswllt ar gyfer ymholiadau ac adborth

glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2019

Dyddiad adolygu: Ebrill 2021

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd coetiroedd i ddarparu amrediad eang o fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol. Gwnaeth ei Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru 2010 nodi bod creu coetiroedd yn gam allweddol wrth anelu at "fwy o goetiroedd yn cael eu creu mewn lleoliadau priodol yng Nghymru".

Mae'r canllawiau diweddaredig hyn wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a'r sector coedwigaeth. Rydym yn gobeithio y byddant yn arwain at wireddu mwy o gynlluniau Creu Coetir Glastir trwy gefnogi cynllunwyr coetir i nodi a boddhau sensitifeddau.

Rydym yn gwirio cynlluniau gan ddefnyddio amrediad o ddata GIS i nodi ardaloedd sy'n arbennig o addas ar gyfer plannu o'r newydd, yn ogystal â'r ardaloedd hynny lle gallai newidiadau effeithio ar ecosystemau, nodweddion treftadaeth neu adnoddau cymdeithasol. Mae'r un haenau a ddefnyddiwyd yn ystod y broses wirio ar gael i gynllunwyr trwy fap cyfleoedd Creu Coetir Glastir ac ar geoPDFau. Mae'r data GIS yn cael ei gyflenwi gan Lywodraeth Cymru a'i adolygu'n rheolaidd i sicrhau cysondeb â gwaith ymchwil coedwigaeth ac amgylcheddol cyfredol. I fwyafu'r posibilrwydd y bydd eich cynnig yn cael ei dderbyn yn y cynllun, dylech anelu at nodi a mynd i'r afael yn bositif ag unrhyw sensitifeddau yn ystod y broses gynllunio.

Mae'r canllaw hwn yn egluro sut i nodi sensitifeddau ac yn dangos pa effaith maent yn debygol o'i chael ar eich cais. Mae hefyd yn egluro'r camau y bydd angen i chi eu cymryd i ddarparu ar eu cyfer yn eich cynllun.

Ansawdd data

Rydym yn defnyddio data o amrediad o ffynonellau. Rydym yn bwriadu arfer dull rhesymol tuag at y gofynion sydd ynghlwm wrth bob haen, yn seiliedig ar yr hyder sydd gennym yn y data. Edrychwch am y 'nodiadau data' a'r 'canllawiau' ar gyfer pob haen yn y ffeithlen gysylltiedig. Efallai y bydd hyn yn dangos lefel yr hyder sydd ynghlwm wrth yr haen ac yn rhoi cyngor ynghylch y math o dystiolaeth y byddai angen i chi ei darparu pe bai gennych le i gredu bod tir wedi cael ei gynnwys trwy gamgymeriad.

Safleoedd sensitif nad ydynt wedi'u cofnodi ar y map cyfleoedd

Os ydych yn dod yn ymwybodol o ardaloedd rydych yn credu y dylent gael eu cynnwys yn yr haenau hyn ond nad ydynt wedi'u dangos, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Os ydych yn credu y gallai ardal fod yn gynefin â blaenoriaeth digofnod neu'n safle sensitif arall, yna efallai y gallwn ddarparu ecolegydd i ymweld â'r safle a rhoi cyngor arbenigol.
Cysylltwch â glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os ydych yn credu bod gennych safle sensitif nad yw wedi'i nodi.

Nodi sensitifeddau gan ddefnyddio map cyfleoedd Creu Coetir Glastir

Cam 1: Agor map Cyfle Coetir

Map Cyfle Coetir

Cam 2: Nodi eich ardal

Gyda'r offeryn 'mesur pellteroedd ac arwynebeddau' (yr eicon o dan y botwm nesáu yng nghornel chwith uchaf y map), defnyddiwch y swyddogaeth arwynebedd i amlinellu'r tir rydych yn bwriadu cyflwyno cynllun ar ei gyfer.

Cam 3: Gwirio'r Sgôr Creu Coetir

Mae'r haen hon yn defnyddio gwahanol arlliwiau o wyrdd i amlygu ardaloedd y nodwyd eu bod yn arbennig o addas ar gyfer plannu. Defnyddir yr haen sgorio i asesu datganiadau o ddiddordeb yn erbyn amcanion Llywodraeth Cymru. Ni fydd gan ardaloedd sydd wedi'u lliwio'n wyrdd sensitifeddau cydnabyddedig i greu coetiroedd, a elwir yn ‘bwyntiau diddordeb’ ar y map cyfleoedd. Os yw'ch ardal gyfan wedi'i lliwio'n werdd, gallwch symud yn syth i Gam 5. Os yw rhywfaint o'r ardal, neu'r ardal i gyd heb gael ei lliwio, bydd angen i chi nodi'r rhesymau a rhoi sylw iddynt.

Cam 4: Nodi mannau o ddiddordeb

Mae sensitifeddau'n cael eu cofnodi'n 'fannau o ddiddordeb' ar haen dryloyw. Nid ydynt yn weladwy fel haenau tywyll ar y map cyfleoedd. Er mwyn eu nodi, yn y blwch maint yr arwynebedd, cliciwch ar y neges 'Cliciwch yma i weld y pwyntiau o ddiddordeb y mae'r ardal hon yn gorgyffwrdd â nhw'. Bydd rhestr yn ymddangos o unrhyw fannau o ddiddordeb o fewn yr ardal y gwnaethoch ei thynnu. Cyfeiriwch at y ffeithlen berthnasol yn Atodiad 1 am arweiniad pellach.

Cam 5: Nodi haenau canllawiau arbennig

Mae haenau canllawiau arbennig yn haenau gweladwy, ond maent wedi'u diffodd yn ddiofyn ar y map cyfleoedd. Maent yn nodi lleoliadau lle y bydd angen bod yn ofalus. Mae haen ganllaw arbennig yn annhebygol o olygu nad ydych yn gallu plannu, ond efallai y bydd angen i chi gyflawni gwaith ymgynghori ychwanegol a theilwra eich cynnig.

Gallwch actifadu haenau canllawiau arbennig yn eu tro trwy glicio'r blychau ticio ar ochr dde'r map – cadwch nodyn o unrhyw rannau o'r ardal sydd wedi'u heffeithio. Chwiliwch am ffeithlenni ar gyfer unrhyw haenau canllawiau arbennig rydych yn eu canfod yn Atodiad 2.

Cam 6: Nodi cyfyngiadau ar blannu – coetir sydd ohoni

Yn amlwg, ni all cynllun creu coetir ond ddigwydd mewn mannau nad ydynt eisoes yn goetiroedd. Actifadwch yr haen a gwiriwch nad yw eich cynllun arfaethedig yn effeithio ar dir sydd eisoes wedi'i nodi'n goetir. Am ragor o wybodaeth am yr haen hon, edrychwch ar y ffeithlen yn Atodiad 3.

Nodi sensitifeddau na ddangosir ar fap cyfleoedd Creu Coetir Glastir

Yn wahanol i'r ffeithlenni eraill, ni allwch ddibynnu ar y map cyfleoedd neu'r geoPDFau i nodi pan fo angen ystyried y sensitifeddau hyn. Bydd angen i chi adolygu pob un o'r taflenni hyn yn eu tro a phenderfynu a oes angen cymryd camau.

Efallai y bydd angen i chi siarad â'r tirfeddiannwr, cysylltu â'r awdurdod lleol, neu chwilio am dystiolaeth ar y safle i sicrhau eich bod wedi nodi'r sensitifeddau hyn.
Gallwch ddod o hyd i'r ffeithlenni hyn yn Atodiad 4.

Teilwra eich cynllun

Pan fyddwch wedi nodi unrhyw sensitifeddau sy'n effeithio ar eich safle, defnyddiwch y ffeithlenni i'ch helpu i ddarganfod o ble gallwch gael cyngor pellach ac i wella'r posibilrwydd y bydd eich cynllun yn cael ei wireddu. Sicrhewch eich bod yn cymryd i ystyriaeth argymhellion unrhyw ymgynghoreion ac, os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud hyn, cysylltwch â glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am gyngor. Sicrhewch eich bod yn cynnwys tystiolaeth o'r modd rydych wedi boddhau argymhellion unrhyw ymgynghoriadau wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio.

Cyn i chi gyflwyno eich cais, gallwch ddefnyddio ein canllawiau gwirio i sicrhau eich bod wedi cynnwys popeth y bydd ein swyddogion Glastir yn chwilio amdanynt.

Atodiadau

Atodiad 1 Ffeithlenni ar gyfer mannau o ddiddordeb
Atodiad 2 Ffeithlenni ar gyfer haenau canllawiau arbennig
Atodiad 3 Ffeithlenni ar gyfer cyfyngiadau ar blannu
Atodiad 4 Ffeithlenni ar gyfer sensitifeddau na ddangosir ar fap cyfleoedd Creu Coetir Glastir

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf