Grantiau ar gyfer plannu coed a chreu coetiroedd
Mae nifer o grantiau ar gael ar gyfer creu coetir. Gallwch ddefnyddio’r grantiau i’ch helpu i gynllunio a datblygu eich coetir newydd. Mae’r grantiau ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Gallwch hefyd dderbyn coed a grantiau gan Coed Cadw os ydych chi:
- yn plannu coeden unigol neu ychydig o goed
- yn rhan o grŵp cymunedol
- yn ysgol
- yn ffermwr
Cynllun Grantiau Bach Creu Coetir
Os ydych chi’n plannu mwy na 0.1 hectar (0.25 erw) a llai na dau hectar (4.94 erw), gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Grantiau Bach Creu Coetir. Rhaid i'ch tir fod mewn ardal sensitifrwydd isel.
Cynllun Cynllunio Creu Coetir
Yn yr amgylchiadau isod:
- os nad yw eich tir mewn ardal gyda sensitifrwydd isel
- os mae’r ardal dros ddau hectar (4.94 erw) ac
- o leiaf 0.25 hectar (0.62 erw)
gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir.
Mae'r cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu cynlluniau ar gyfer creu coetir newydd. Gallwch ddefnyddio’r cyllid i gael cynllunydd coetir cofrestredig a fydd yn eich helpu i ddatblygu cynllun creu coetir.
Unwaith y bydd y cynllun wedi’i gwblhau, gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir i dderbyn cyllid i blannu coed.
Cynllun Grant Creu Coetir
Os ydych chi’n plannu ardal mwy na 0.25ha (0.62 erw) gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn. Nid oes uchafswm o ran maint yr ardal blannu.
Mae’r cynllun Grant Creu Coetir yn darparu cyllid ar gyfer plannu a ffensio. Gall ffermwyr a pherchnogion tir ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn.
Bydd angen i chi ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir a bod wedi rhoi cynllun ar waith cyn y gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn.
Y Grant Buddsoddi mewn Coetir
Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir ar gyfer tirfeddianwyr a rheolwyr gan gynnwys sefydliadau nid er elw. Gallwch ddefnyddio’r grant hwn i greu coetiroedd at ddefnydd cymunedau lleol.
Mae’r cynllun yn gobeithio creu, adfer a gwella coetiroedd fel rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.
Mae’r cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol i’ch galluogi:
- i greu coetiroedd newydd
- i wella ac ehangu ar goetiroedd presennol
Mae’n rhaid i’ch coetir fod â photensial i fod yn rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod rhai i’ch coetir fod:
- wedi’i reoli’n dda
- yn hygyrch
- yn gallu darparu cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o goetiroedd a natur
The Tree Council
Os ydych chi’n bwriadu plannu coed yn eich cymuned, gallai grantiau gan The Tree Council helpu.
Mae’r grantiau ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol a Rhwydweithiau Wardeiniaid Coed. Gallwch ddefnyddio’r rhain i blannu coed, gwrychoedd a pherllannau.
Cysylltwch â ni
Os hoffech unrhyw gymorth pellach gyda chreu coetir, cysylltwch â ni.