Grantiau ar gyfer plannu coed a chreu coetiroedd

Mae nifer o grantiau ar gael ar gyfer creu coetir. Gallwch ddefnyddio’r grantiau i’ch helpu i gynllunio a datblygu eich coetir newydd. Mae’r grantiau ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch hefyd dderbyn coed a grantiau gan Coed Cadw os ydych chi:

  • yn plannu coeden unigol neu ychydig o goed
  • yn rhan o grŵp cymunedol
  • yn ysgol
  • yn ffermwr

Cynllun Grantiau Bach Creu Coetir

Os ydych chi’n plannu mwy na 0.1 hectar (0.25 erw) a llai na dau hectar (4.94 erw), gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Grantiau Bach Creu Coetir. Rhaid i'ch tir fod mewn ardal sensitifrwydd isel.

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Yn yr amgylchiadau isod:

  • os nad yw eich tir mewn ardal gyda sensitifrwydd isel
  • os mae’r ardal dros ddau hectar (4.94 erw) ac
  • o leiaf 0.25 hectar (0.62 erw)

gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Mae'r cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu cynlluniau ar gyfer creu coetir newydd. Gallwch ddefnyddio’r cyllid i gael cynllunydd coetir cofrestredig a fydd yn eich helpu i ddatblygu cynllun creu coetir.

Unwaith y bydd y cynllun wedi’i gwblhau, gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir i dderbyn cyllid i blannu coed.

Cynllun Grant Creu Coetir

Os ydych chi’n plannu ardal mwy na 0.25ha (0.62 erw) gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn. Nid oes uchafswm o ran maint yr ardal blannu.

Mae’r cynllun Grant Creu Coetir yn darparu cyllid ar gyfer plannu a ffensio. Gall ffermwyr a pherchnogion tir ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn.

Bydd angen i chi ymgeisio ar gyfer y cynllun Cynllunio Creu Coetir a bod wedi rhoi cynllun ar waith cyn y gallwch ymgeisio ar gyfer y cynllun hwn.

Y  Grant Buddsoddi mewn Coetir

Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir ar gyfer tirfeddianwyr a rheolwyr gan gynnwys sefydliadau nid er elw. Gallwch ddefnyddio’r grant hwn i greu coetiroedd at ddefnydd cymunedau lleol.

Mae’r cynllun yn gobeithio creu, adfer a gwella coetiroedd fel rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.   

Mae’r cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol i’ch galluogi:

  • i greu coetiroedd newydd
  • i wella ac ehangu ar goetiroedd presennol

Mae’n rhaid i’ch coetir fod â photensial i fod yn rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod rhai i’ch coetir fod:  

  • wedi’i reoli’n dda
  • yn hygyrch
  • yn gallu darparu cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o goetiroedd a natur

The Tree Council

Os ydych chi’n bwriadu plannu coed yn eich cymuned, gallai grantiau gan The Tree Council helpu.

Mae’r grantiau ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol a Rhwydweithiau Wardeiniaid Coed.  Gallwch ddefnyddio’r rhain i blannu coed, gwrychoedd a pherllannau.

Cysylltwch â ni

Os hoffech unrhyw gymorth pellach gyda chreu coetir, cysylltwch â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf