Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i asesu ardal o fawn dwfn (mwy na 50cm o ran dyfnder) i benderfynu ar y dull rheoli mwyaf priodol. Bydd hefyd yn helpu i benderfynu ynglŷn â pha safleoedd y dylid eu blaenoriaethu.

Cynlluniwyd y fethodoleg hon i’w defnyddio ar safle sydd eisoes wedi bod yn destun arolwg desg (a/neu Asesiad Cenedlaethol).

Sut i asesu safle

Dylai’r uned sy’n cael ei hasesu fod yn un polygon ar fap pridd neu, o bryd i’w gilydd, yn grŵp o bolygonau neu’n rhan o bolygon mawr cymhleth.

Os ydych yn edrych yn bennaf ar lannerch dorri benodol, ceisiwch gynnwys yn yr asesiad unrhyw rannau o’r polygon mawn dwfn sydd y tu allan i’r llannerch.
Os nad oes map pridd addas arall ar gyfer y safle, bydd angen i chi geisio nodi ffin pob ardal o fawn dwfn rydych yn ei hasesu.

Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy gerdded ar hyd y rhodfeydd, a’r ymylon ac ati, a phrofi dyfnder y mawn wrth i chi fynd yn eich blaen.

Mae map llethrau sy’n dangos yr ardaloedd gwastad a’r ardaloedd lle mae ychydig o lethr, fel yr un isod, yn eithaf da am ddarogan ble i ddisgwyl mawn dwfn (h.y. lle mae ongl y llethr yn llai na 10% neu 6°).

Archwiliwch ddyfnder y mawn mewn digon o leoedd i gael yr hyn sy’n ymddangos yn gyfartaledd rhesymol ar gyfer y polygon. Yn yr un modd, mesurwch ongl y llethr mewn digon o leoedd i gael cyfartaledd rhesymol ar gyfer y polygon.

Yr offer y bydd arnoch eu hangen:

  • stiliwr dyfnder mawn
  • llif ar gyfer tocio
  • clinomedr
  • samplydd craidd mawn
  • map o’r ardal

Sgôr math o bridd

Canfyddwch y math o bridd drwy ddefnyddio tabl trosi codau pridd y Comisiwn Coedwigaeth neu ganllaw maes y Comisiwn Coedwigaeth.
Unwaith y byddwch wedi canfod y math o bridd, gallwch neilltuo'r sgorau a ganlyn:

sgôr 0:

  • Juncus (neu gorsydd basn) 8c

sgôr 2:

  • Juncus (neu gorsydd basn) 8,
  • Molinia (neu orgorsydd gwlyb (‘flushed’)) 9a a 9b

sgôr 3:

  • Molinia (neu orgorsydd gwlyb) 9

sgôr 4:

  • Juncus (neu gorsydd basn) 8b
  • Molinia (neu orgorsydd gwlyb) 9c a 9d

sgôr 6:

  • Molinia (neu orgorsydd gwlyb) 9e
  • Calluna, Eriophorum, Trichophorum (neu orgorsydd nad ydynt yn wlyb (‘unflushed’)) 11a

sgôr 8:

  • Juncus (neu gorsydd basn) 8a, 8d
  • Calluna, Eriophorum, Trichophorum (neu orgorsydd nad ydynt yn wlyb) 11, 11b, 11c, 11d
  • Corsydd wedi’u herydu 14 a 14h

sgôr 10

  • corsydd migwyn (gwastad neu gyforgorsydd) 10, 10a, 10b
  • Corsydd wedi’u herydu 14w

Sgôr dyfnder mawn

Dangosydd faint o garbon mawn sydd yn arwynebedd pob uned.

O ran egwyddor, dyblu dyfnder cyfartalog y mawn mewn metrau:

  • sgorio 0 os yw dyfnder y mawn yn 0
  • sgorio 2 os yw dyfnder y mawn yn 1m
  • sgorio 3 os yw dyfnder y mawn yn 1.5m
  • sgorio 4 os yw dyfnder y mawn yn 2m
  • sgorio 5 os yw dyfnder y mawn yn 2.5m
  • sgorio 6 os yw dyfnder y mawn yn 3m

ac yn y blaen.

Sgôr arwynebedd

Dangosydd yw hwn o fanteision adfer y safle o safbwynt dal dŵr a charbon.

Rhannu’r arwynebedd mawn dwfn mewn hectarau â 5 e.e. bydd arwynebedd mawn o 20 hectar yn sgorio 4, bydd arwynebedd mawn o 60 yn sgorio 12

Uchafswm y sgôr arwynebedd yw 12

Sgôr llethr

Dangosydd dichonoldeb, rhwyddineb a chost adfer.

Y cyfan yw’r sgôr yw’r llethr yn cael ei fynegi fel canran:

  • y sgôr yw 2 ar gyfer llethr o 2%
  • y sgôr yw 4 ar gyfer llethr o 4%

ac yn y blaen.

Cyfuno’r sgorau hyn

Sgôr derfynol = Sgôr math o bridd + Sgôr dyfnder mawn + Sgôr arwynebedd – Sgôr llethr

Edrych a oes craciau yn y mawn

Os oes craciau difrifol yn y mawn, efallai nad oes modd adfer y safle.

Edrychwch am graciau fel hyn:

  • Dewiswch oddeutu tri lle mewn gwahanol rychau lle mae twf y coed cyfagos yn arferol neu’n well.
  • Ym mhob lle, defnyddiwch lif docio i dorri drwy’r carped o sbwriel, gwreiddiau ac ati yn y rhych.
  • Torrwch betryal ychydig yn lletach na gwaelod y rhych.
  • Codwch y carped o sbwriel a gwreiddiau, i ddatgelu’r mawn sydd oddi tano.
  • Yn gyntaf, edrychwch am graciau ar hyd gwaelod y rhych.
  • Yna, teimlwch gyda’ch bysedd am graciau yn y mawn.
  • Os ydych yn dod o hyd i graciau, cofnodwch pa mor llydan ydynt ar y lefel hon a thyllwch i lawr i weld pa mor ddwfn maent yn mynd a pha mor llydan ydynt ymhellach i lawr.

Os cafodd y safle ei droi ag aradr bigau, mae’n bosibl y bydd ôl y pigau yno o hyd. Byddai’r olion yn syth, yn gul ac yn ganolog, yn wahanol i graciau lleihau, sy’n fwy afreolaidd, yn lletach yn aml ac i’w cael yn unrhyw ran o’r rhych.

Os oes craciau difrifol gellir rhoi sgôr o -10 i’r cyfanswm.

Gwirio dyfnder awyriad y mawn

Gwnewch hyn hanner ffordd rhwng y rhychau mewn tri lle sy’n cynrychioli amrediad twf y coed.

  • Defnyddiwch lif docio i dorri i lawr i’r ddaear ar hyd pedair ochr sgwâr 40cm x 40cm.
  • Codwch y carped gwreiddiau/sbwriel.
  • Yn gyflym, cofnodwch y dyfnder o’r arwyneb i lawr i’r ffin rhwng y mawn du (wedi’i ocsideiddio) a’r mawn brown, drewllyd (anaerobig). Efallai y bydd yn rhaid i chi dyllu ychydig i gyrraedd y mawn anaerobig.

Pan fydd mawn anaerobig yn dod i gysylltiad ag aer mae’n troi’n ddu mewn munudau, felly peidiwch ag oedi cyn mesur y dyfnder. Mae gan fawn anaerobig arogl drwg iawn - hydrogen sylffid – nad yw’n rhy annhebyg i wyau drwg.

Mae dyfnder awyriad mawn yn amrywio ar wahanol adegau o’r flwyddyn wrth i lefel y trwythiad godi a gostwng. Mae craciau yn y mawn yn arwydd ei fod wedi cael ei sychu a’i awyru’n ddwfn yn y gorffennol, a hynny mae’n fwyaf tebygol yn ystod blwyddyn sych yn oes y goedwig.

Gellir defnyddio samplydd craidd pridd (sy’n edrych yn debyg i ffon gerdded ddur) i wirio dyfnder awyriad mawn.

Byddwch yn ofalus rhag ofn i chi dorri eich bysedd wrth ei ddefnyddio. Cymerwch sampl ac archwiliwch graidd y mawn ar unwaith, gan grafu unrhyw olion mawn sydd ar wyneb y craidd ymaith. Cofnodwch y dyfnder lle mae’r mawn yn newid o ddu i frown.

Edrychwch pa mor ddwfn roeddech chi wedi mynd cyn cyrraedd mawn anaerobig drwy edrych a ydych yn gallu arogli’r hydrogen sylffid (tebyg i wyau drwg).
Os yw’r dyfnder awyriad yn fwy na 50cm, gellir rhoi sgôr o -10 i’r cyfanswm.

Safleoedd sy’n hyfyw i’w hadfer

Mae angen lefel o arbenigedd er mwyn dehongli’r sgôr, a dyma yw pwrpas y cwrs hyfforddi. Fodd bynnag, ceir rhai dangosyddion o addasrwydd y gellir eu defnyddio.

Cyfanrwydd hydrolegol y safle

Mae safleoedd gwastad yn fanteisiol o ran adfer mewn ffordd cost effeithiol. Bydd safleoedd ar lethr yn llai hyfyw, a bydd safleoedd ar lethr sy’n fwy na 4% (14o) yn anodd neu’n rhy gostus i’w hadfer yn llwyddiannus.

Ni fyddai’n addas adfer safleoedd lle mae’r mawn wedi cracio rhwng y rhychau. Os nad oes craciau yn y mawn, mae’n bosib y bydd yn hyfyw i adfer y safle.

Ystyriaeth bellach yw cyflwr y system ddraenio – bydd yn fanteisiol os yw’r draeniau’n fas (llai na 60cm), yn enwedig os oes migwyn yn bresennol. Bydd draeniau dwfn lle mae dŵr yn llifo drwyddynt yn anodd i’w blocio a’u cynnal a chadw.

Bydd safleoedd lle bydd rhaid blocio llawer o’r draeniau’n fwy costus i’w hadfer na safleoedd lle mae’n bosib blocio’r rhwydwaith ddraenio mewn un pwynt allweddol. Hefyd, mae’n bosib y bydd systemau draenio oddi ar y safle yn golygu nad oes modd rheoli llif y dŵr ar y safle, sy’n golygu y bydd yn anodd adfer y safle.

Mae dyfnder presennol y lefel trwythiad hefyd yn ffactor pwysig; bydd yn hyfyw iawn i adfer y safle os yw’r lefel trwythiad yn is na 50cm o'r wyneb, ond os yw’r lefel trwythiad yn is na 100cm o dan yr wyneb, bydd yn anodd ei adfer.

Cyfanrwydd ecolegol y safle

O safbwynt yr offeryn, mae’r elfen sy’n ystyried y math o bridd yn rhoi pwysoliad priodol i’r math o fawndir a pha mor brin ydyw yng Nghymru.

Os oes olion llystyfiant cors ar y safle, neu mewn lleoliadau cyfagos, bydd y safle’n fwy addas i gael ei adfer. Mae rhywogaethau fel mieri neu Laswellt y Gweunydd (Molinia) yn awgrymu safle llai addas. Mae bod yn agos at gynefin mawndir Rhan 1 hefyd yn fanteisiol.

Statws y mawn

Os bydd coed yn awyru’r mawn bydd hyn yn arwain at ocsideiddiad ac mae goblygiadau yn hyn o beth o ran storio nwyon tŷ gwydr a hyfywedd y safle o ran ei adfer. Er mwyn adfer yn gost effeithlon, byddai’n dda o beth bod y dyfnder awyriad yn llai na 20cm. Bydd yn anodd adfer safle os yw’r dyfnder awyriad yn fwy na 50cm.

Os yw’r safle ar gylchdro cyntaf, bydd yn fwy tebygol o fod yn hyfyw na safle ar ei ail gylchdro. Os yw blwyddyn blannu’r cylchdro cyntaf yn llai na 15 mlynedd, bydd yn safle da i’w adfer, ond os yw’n fwy na 50 mlynedd, mae’n bosib y bydd yn anodd ei adfer yn llwyddiannus.

Ystyriaethau eraill

Bydd mynediad yn ffactor bwysig o ran cost unrhyw waith.

  • A fyddai angen adeiladu traciau mynediad?
  • A fyddai peiriannau a ddefnyddir i flocio’r draeniau yn gallu mynd i’r safle?
  • A oes modd cludo’r coed oddi ar y safle?

Mae’n rhaid ystyried y sgôr derfynol o fewn cyd-destun cynllun dylunio’r goedwig gyfan a’r rôl amlswyddogaethol mae’r goedwig yn ei chwarae.

Yn fras, nid yw safleoedd sy'n sgorio o dan 0 yn debygol o fod yn hyfyw, neu fod yn ffafriol ar gyfer adfer, a dylid ystyried ailstocio’r rhain yn unol â chynllun y goedwig.

Byddai safleoedd sy’n sgorio’n uwch na 15 yn cael eu hystyried yn hyfyw, ac yn fanteisiol i’w hadfer.

Gall safleoedd sydd â sgorau rhwng 0 a 15 fod yn hyfyw, ond bydd angen defnyddio rhywfaint o farn arbenigol a bydd angen gwerthuso’r gost yn erbyn y manteision cyn penderfynu p’un ai i’w hadfer, eu trosi’n goetiroedd eraill neu eu hailstocio yn unol â chynllun y goedwig.

Blaenoriaethu safleoedd sy'n hyfyw i'w hadfer

Nid yw safleoedd lle mae’r coed wedi cael eu torri a lle nad oes bwriad i ailblannu coed yn safleoedd brys oherwydd nid yw’r mawn yn debygol o ddirywio llawer yn y cyflwr hwn. Ond rhaid i’r safleoedd hyn gael cynllun ar gyfer eu hadfer yn y dyfodol.

Bydd safleoedd sydd â chymuned o goed nad yw eto â chanopi caeedig yn cynnwys rhywfaint o’r llystyfiant mawndir gwreiddiol o hyd, ac os ydynt yn mynd i gael eu hadfer, dylid torri’r coed cyn iddynt gau’r canopi, fel bod modd adfer y llystyfiant yn rhwydd.

Ar safleoedd sydd â chymuned o goed â chanopi caeedig, gallai’r mawn ddirywio rhagor a gallai dichonoldeb gwaith adfer llwyddiannus leihau os yw lefel y trwythiad yn mynd yn is nag yr oedd cynt. Mae hyn yn fwyaf tebygol o ddigwydd ar safleoedd sydd â hinsawdd cymharol sych ac mae’n cael ei ddangos orau gan y map o uchafswm diffyg lleithder cymedrig isod.

Ar safleoedd â diffyg lleithder o 90mm neu fwy, mae risg y bydd y mawn yn cracio. Os yw unrhyw rai o’r safleoedd sychach hyn yn mynd i fod yn safleoedd adfer mawndir, mae rhywfaint o frys i’w hadfer cyn i’r mawn gael ei ddifrodi i’r fath raddau fel nad oes modd ei adfer.

Ar safleoedd â diffyg lleithder o lai na 90mm, nid oes brys i wneud gwaith adfer, a gellid gadael i’r cnwd dyfu i’w oed cynaeafu arferol cyn torri’r coed ac adfer y safle.

Safleoedd nad ydynt yn addas i’w hadfer.

Yn y tymor hir, mae’r storfa garbon fawn yn debygol o fod yn fwy sylweddol na storfa garbon llystyfiant. Mae angen iddi gael ei diogelu o leiaf (h.y. ei hatal rhag dod yn ffynhonnell nwyon tŷ gwydr net) a’i dychwelyd i storfa nwyon tŷ gwydr net weithredol os yw’n bosibl.

Trosi’n goetiroedd gwlyb

Drwy ailblannu, adfywio naturiol neu goetir olynol.

Os oes unrhyw goetir gwlyb ar safle, dylai hyn gael ei gynnal. Pan na fydd safle yn cael ei ystyried i’w adfer o ganlyniad i adfywiad conwydd ond mae'r lefelau trwythiad yn gallu cael eu codi, ystyriwch gynefinoedd coetir gwlyb.

Trosi’n gynefinoedd coetir brodorol

Drwy ailblannu, adfywio naturiol neu goetir olynol.

Os nad yw safle’n ymarferol o ran ei adfer oherwydd nad yw’n bosibl ail-wlychu’r safle, dylid ystyried annog gorchudd coed gwasgaredig a byddem yn ffafrio pinwydd yr Alban ar y mawn tlotach, mwy asidig a helyg (Salix caprea ac S cinerea) ar y safleoedd cyfoethocach.

Nid yw coed bedw’n addas ar fawn tlotach oherwydd eu tuedd i 'wella' safleoedd.

Trosi i gynefinoedd tir gwlyb / agored eraill

Os oes gan safle bosibilrwydd o fod yn ardal o rostir neu gynefin blaenoriaethol agored arall, ond ystyrir nad oes modd ei adfer i gynefin corslyd, yna dylai hyn gael ei ystyried.

Ym mhob achos, mae’n hanfodol cael cynllun rheoli sydd wedi’i ystyried yn llawn a fydd yn cyflawni cyflwr ffafriol ar gyfer y cynefin a ddymunir yn y dyfodol.

Dylid cael cyngor pellach gan ‘Forest Research’ i roi cymorth wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer rheoli yn y dyfodol.

Cyn torri unrhyw goed, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd / cydsyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf